Â鶹Éç

Aled

Aled, Yr Wyddgrug

Pwnc arbenigol: Hanes Everton FC 1980 - presennol

Ymddangos yn: Rhaglen 2

Mae chwaraeon o bob math yn mynd â bryd Aled, yn enwedig pêl-droed, ac mae wedi dewis hanes ei hoff glwb pêl-droed, Everton, yn bwnc arbenigol.

Mae wedi bod i weld Everton yn chwarae gyda'i dad: "Y gêm gyntaf imi ei gweld oedd Everton yn erbyn tîm Groegaidd AE Larissa, ac mi wnaethon nhw ennill 3 - 1," meddai.

"Yn yr ail gêm roedden nhw wedi colli yn erbyn Oldham 1 - 0. Roedden nhw wedi chwarae'n wael.

"Fy hoff chwaraewr ydy Tim Cahill sy'n chwarae i Awstralia hefyd. Mae'n chwaraewr da. Mae'n sgorio lot."

Hefyd mae Aled yn hoffi athletau, reidio ei feic a nofio ac yn mwynhau gwersi Addysg Gorfforol yn yr ysgol yn ogystal â Chymraeg, Hanes, Gwyddoniaeth, Saesneg a Daearyddiaeth, a allai fod yn ddefnyddiol os yw am ddilyn ei hoff dîm pêl-droed dros y byd!

"Mae cystadlu ar Mastermind yn gyfle i gynrychioli fy ysgol a rhoi sialens newydd imi. Hefyd mae'n rhoi cyfle i mi gystadlu yn erbyn plant o'r un oed â fi."


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.