Â鶹Éç

Iwan

Iwan, Caerdydd

Pwnc arbenigol: Nofelau Artemis Fowl

Ymddangos yn: Rhaglen 3

Mae Iwan yn amlwg yn mwynhau straeon ffantasi gan ei fod yn hoffi chwarae gemau ffantasi Warhammer ac mae wedi dewis y nofelau ffantasi am Artemis Fowl fel pwnc arbenigol.

"Mae Artemis yn genius o Iwerddon sy'n ffeindio fairies ond maen nhw dipyn bach fel ni, ac maen nhw'n trïo dwyn pethau," meddai.

"O'n i methu mynd ar y we i adolygu oherwydd does ganddon ni ddim cyfrifiadur. Mi wnes i adolygu drwy ddarllen, speed-reading, pethau fel 'na, a gofyn i Dad i ofyn cwestiynau i fi."

Ei hoff bynciau yn yr ysgol ydy Technoleg, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol.

Mae hefyd yn chwarae'r piano a'r clarinét ac yn mwynhau rygbi a phêl-droed.

"Dwi'n meddwl y gallen i wneud yn eithaf da yn Mastermind ac fe ddylai fod yn hwyl," meddai.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.