Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Shep, ci Martha Morgan o Dregaron Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru
Cafodd Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru eu cynnal yn Nannerch Sir y Fflint yn 2006 - y tro cyntaf i'r treialon ymweld â'r Sir mewn dros hanner can mlynedd.
  • Lluniau o Dreialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru 2006

    Elis Wyn Edwards, o Ruthun yw Llywydd Cymru, Cymdeithas Cŵn Defaid Rhyngwladol.

    "Treialon Cenedlaethol Cymru yw hon ar gyfer dewis tîm o bymtheg o Gymry i fynd i gystadlu yn y Treialon Rhyngwladol yn Kelso, yn Yr Alban.

    Bu cyfanswm o 150 yn cystadlu dros y tridiau.

    Mae gennym ffordd o reoli'r nifer sydd yn cael cystadlu ac mae'n rhaid eu bod wedi ennill hyn a hyn o bwyntiau mewn treialon cyffredin o wythnos i wythnos i allu dod i mewn i'r treialon yma.

    Fel Llywydd rwyf yn hynod ddiolchgar am waith caled y pwyllgor lleol i sicrhau llwyddiant y treialon hyn.

    Stad Penbedw yw hon ac rydym yn ddyledus iawn i'r perchennog, Capten Archdale a'i feibion.

    Mae'r ddau fab wedi bod yn hynod o weithgar yn gwneud popeth yn gyfleus i ni ar gyfer y treialon hyn.

    Eleni mae hi'n ganmlwyddiant ers i'r Gymdeithas Ryngwladol gychwyn.

    Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf ym 1906 ar y gororau rhwng Yr Alban a Lloegr.

    Ym 1922 fe ymunodd Cymru gyda hwy ac mae Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gymdeithas ers hynny.

    Yn y chwedegau cynnar fe ymunodd yr Iwerddon ac mae hi'n gymdeithas ryngwladol fyd-eang erbyn hyn.

    Cafodd Treialon Cŵn Defaid y Byd ei chynnal yn y Bala yn 2002.

    Bydd y nesaf yn cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin yn 2008.

    Rydym wedi bod yn ffodus iawn i'w chael yn ôl yng Nghymru.

    Gallai fod wedi mynd i'r Alban neu Lloegr yn 2008, ond ni dyma'n ei dechrau yn ôl yn 2002 yn y Bala ac rydym yn ffodus i'w chael yn ôl.

    Mae'r treialon hynny yn dod â llawer o ddiddordeb o dros y byd. Mae yna gystadleuwyr yn dod o Seland Newydd, Awstralia, Canada, Unol Daleithiau America, Brasil a phobl o bob cwr o Ewrop.

    Rwyf yn edrych am leoliad i gynnal y treialon rhyngwladol Prydain yr wythnos cyn treialon y byd yng ngogledd Cymru."

    Mae Glyn Jones o Fodfari yn un o hoelion wyth Treialon Cwn Defaid yng Nghymru, ac ymddangosodd ar raglen One Man and his Dog.Glyn Jones gyda Taff

    "Dwi wedi bod wrthi ers dros hanner can mlynedd ac un o'r sioeau cyntaf oedd mewn cae yma yn Nannerch.

    'Dwi wedi ennill y national ddwywaith ac wedi ennill yr international unwaith a dod yn ail ddwywaith.

    'Dwi wedi trafeilio dros y wlad yn dysgu pobl a dysgu'r cŵn a dwi wedi bywyd da iawn. Nid ydwyf wedi gwneud arian ond wedi cael bywyd bendigedig.

    Mae'n rhaid i chi wneud yn dda mewn sioe genedlaethol fel hyn neu dyw pobl ddim yn eich gweld chi.

    Alle chi fod yn gystadleuydd da yn lleol, ond mewn lle fel hyn mae pawb eisiau eich gweld.

    Mae nifer o Americanwyr yma heddiw, rhai o'r Iseldiroedd a gwledydd eraill ac maent wrth eu boddau yn gweld rhywun yn gwneud yn dda.

    Does dim gwell hobi na rhedeg sioe gwn. Rydych yn cyfarfod gymaint o bobl o dros y byd i gyd."


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý