Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caryl Parry Jones Cyngerdd Radio Cymru yn y Rhyl
Cynhaliwyd cyngerdd gan Radio Cymru yn y Rhyl ar nos Wener, Hydref 29.
  • Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r noson.

    Yn perfformio ar y noson, roedd Caryl Parry Jones, sy'n wreiddiol o Dyserth gyfagos, gyda'i band, y Millionaires,yn canu yn ei milltir sgwâr, lle y bwriodd ei phrentisiaeth cerddorol. Roedd ei thad, Rhys Jones, hefyd yn cyfeilio.

    Yn ymuno â Caryl roedd y ddeuawd o Ben Llŷn - John ac Alun. Roedd hogan leol arall sydd wedi hen arfer perfformio, Tara Bethan, yn rhoi gwefr i'r gynulleidfa gyda'i llais swynol. Mae Tara newydd fod yn ffilmio ei rhan newydd yng nghyfres deledu Footballers Wives. Roedd Trebor Edwards hefyd yn ychwanegu at y rhestr raenus o berfformwyr a rhoddodd Ffarmwr Ffowc ei bîg i mewn i wneud yn siŵr fod digon o hwyl a chwerthin.

    Roedd y cyngerdd hwn yn ddechrau ar dymor o weithgaredd gan Radio Cymru yn y gogledd ddwyrain. Y bwriad yw cael mwy o leisiau lleol ar yr orsaf gan ddarlledu o ddigwyddiadau lleol a recordio a darlledu rhaglenni o'r gwahanol ardaloedd.

    Bydd llu o gyflwynwyr poblogaidd Radio Cymru i'w gweld a'u clywed yn yr ardal hefyd - Jonsi, Siân Thomas, Owain a Dylan mewn ardaloedd o Ryl i Ros, o Ruthun i Wrecsam.

  • Cliciwch yma i edrych ar luniau Cyngerdd Radio Cymru yn y Rhyl.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý