Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ann Clwyd gyda Iolo Williams Ann Clwyd: Ymgeisydd Plaid Cymru?
Daeth llwyddiant etholiadol cynnar yr Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd a hithau'n ymgeisydd Plaid Cymru!
Datgelodd Aelod Cwm Cynon wrth Iolo Williams yn y rhaglen Crwydro iddi gael ei phrofiad cyntaf o wleidyddiaeth mewn etholiad yn ei hysgol yng Nghaer.

Ond er iddi fod yn fuddugol ymysg ei chyd-ddisgyblion, dod yn aelod o'r Blaid Lafur ac nid Plaid Cymru y gwnaeth Ann.

"Doedd polisïau Plaid Cymru ddim digon eang," eglurodd Ann ar y rhaglen a ymddangosodd ar y sgrîn fach ym mis Gorffennaf. "Nid oedd ganddynt bolisi cymdeithasol er enghraifft ac roeddwn yn teimlo fod gan y Blaid Lafur fwy o bethau oedd gennyf ddiddordeb ynddynt."

Roedd Ann yn osgoi bwrlwm San Steffan er mwyn crwydro Dyffryn Dysynni yng nghwmni Iolo Williams, gan ymweld ag Abergynolwyn gan fod ganddi gysylltiadau teuluol â'r pentref.

Er ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, dilyn gyrfa ym myd newyddiaduraeth wnaeth Ann gan weithio i'r Â鶹Éç ac yna ysgrifennu i'r Guardian, New Statesman a'r Observer. Fel newyddiadurwraig, roedd Ann yn cymryd diddordeb arbennig yn achos y Glowyr a'u brwydr i sicrhau iawndal. Bu'r glowyr yn gefnogol iawn i Ann wrth iddi lansio ei gyrfa yn y byd gwleidyddol. Un arall fu'n gefnogol oedd arweinwyr Undeb y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru, Huw T Edwards, dyn y mae Ann yn cydnabod a fu'n ddylanwad mawr arni. Fe fu'n gyfrifol am ei hysgogi i sefyll fel ymgeisydd seneddol.

"Roedd o'n teimlo y dylai mwy o ferched fod mewn gwleidyddiaeth," medd Ann. "Fe berswadiodd fi i sefyll yn Ninbych ym 1970. "Roedd Dinbych yn sedd amhosib i Lafur amser hynny gan fod Tori wedi bod yn aelod seneddol ers tua phum mlynedd ar hugain ac roedd ganddo fwyafrif anferth. Ond roedd yn brofiad da."

Ym 1984, pan oedd Ann yn Aelod Seneddol Ewropeaidd, fe ddaeth sedd Cwm Cynon yn wag, ac mae wedi cynrychioli'r etholaeth honno ers hynny. "Roedd hi'n daith hir i ferch yng Nghymru, ac yn dal i fod yn eitha caled i ferched.," meddai. Yn ogystal â bod yn Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann yw cennad arbennig y Prif Weinidog i Irac. Bu'n cymryd diddordeb ym materion y wlad ers dros chwarter canrif, ar ôl cwrdd â myfyrwyr o Irac oedd yn astudio yng Nghymru. Roedd Ann Clwyd yn un o'r rhai fu'n gefnogol o benderfyniad Tony Blair a Llywodraeth Prydain dros fynd i ryfel yn Irac ddwy flynedd yn ôl.

"Os fedrwch ei osgoi, does neb o blaid mynd i ryfel," meddai. "Roeddwn eisiau Saddam Hussein a'i griw fynd i'r llys ac roedd gennym ddigon o dystiolaeth i fynd â nhw i lys."Cael gwared â'r regime oedd yn bwysig i mi," ychwanega Ann. "Buaswn wedi cael gwared â'r regime bum mlynedd ar hugain yn ôl pan oedd hi'n amlwg sut ddyn oedd Saddam Hussein."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý