Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rosemary Jones Rosemary Jones yn dysgu Cymraeg
Rosemary Jones yn sôn am ei phrofiad o ddysgu Cymraeg.
Penderfynais ddysgu Cymraeg gan fod fy ngŵr yn Gymro ac roeddwn yn awyddus iawn i fagu'r plant yn y Gymraeg. Roeddem yn byw yn Llundain ar y pryd, felly roedd codi pac a symud i Rhuthun yn gyfle gwych i mi gael dysgu Cymraeg yn iawn.

Dechreuais ddysgu Cymraeg drwy fynd i ddosbarthiadau nos Wlpan yn Ninbych am ddwy flynedd. Roedd hyn wrth gwrs cyn sefydlu Menter Iaith Sir Ddinbych, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r dre. Ar ôl y cwrs, roeddwn yn bachu bob cyfle i gael ymarfer! Ymunais â'r Ysgol Feithrin, Merched y Wawr a'r capel.

Yn ogystal â hyn, gan fod fy mhlant - a oedd yn bump a thair oed ar y pryd - hefyd yn dysgu'r iaith, roeddwn yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg iddynt. Roedd y plant yn medru ymarfer drwy fynd i'r Ysgol Feithrin a'r Ysgol Gynradd. Erbyn hyn, rydym yn deulu gwbl ddwyieithog - rydym yn dewis ein iaith ar ble bynnag yr ydym ar y pryd a pha bynnag iaith sydd yn dod yn naturiol i ni.

Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi sgil ychwanegol i mi ac wedi rhoi mwy o sgôp i mi yn fy ngyrfa. Ni fuaswn byth wedi cael swydd fel dirprwy brifathrawes mewn ysgol uwchradd Gymraeg fel arall!

Mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'r Gymraeg yr iaith symlaf i'w dysgu, ond mae'r ffaith fod pobl wedi bod mor gefnogol wedi bod yn gymorth mawr. Rwyf wedi bod yn lwcus iawn i gael ffrindiau a chymdogion yn fy annog i ymarfer yr iaith ar bob cyfle. Mae wedi fy ngalluogi i ymuno â bob gweithgaredd yn yr ardal a chynnig rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

Buaswn yn cynghori unrhyw un sy'n bwriadu dysgu Cymraeg i fynd amdani gan ei fod yn hwyl i ddysgu ac fwy fyth o hwyl i ymarfer yr iaith.

Rosemary Jones

Ydych chi wedi dysgu Cymraeg ac am rannu eich profiad â ni? Llenwch y ffurflen isod.


Cyfrannwch

Annette Strauch, Machynlleth & Yr Almaen
Dwi ddim yn gallu dychmygu byw yng Nghymru - a ddim siarad yr iaith. Llongyfarchiadau yma i Rosemary oddi wrth Annette sy wedi dysgu yn Yr Almaen!
Fri Feb 6 22:31:36 2009

John o Gaerloyw
Mae dysgu Cymraeg y peth gorau rwyf i wedi gwneud erioed. Mae llawr o bobl yn fy nghylch o ffrindiau yn dysgu hefyd.
Fri Sep 28 23:00:09 2007

Llinos Roberts o Lansannan
Ardderchog! Dwi'n Diwtor Cymraeg ac yn falch o Rosemary a phawb sy'n cymeryd y cyfleoedd i ddysgu a siarad Cymraeg. Daliwch ati!
Sun Mar 25 20:52:37 2007

Ieuan James o Ddolgellau
Anfonaf nodyn i longyfarch Rosmary Jones, am ysgifennu ei llythyr uchod mor dda. Petai pawb yn dysgu'r iaith a'i hysgrifennu heb fratiaith fel hyn, fe fydd dyfodol yr iaith yn llewyrchus iawn. Da iawn Rosemary.
Thu Aug 31 10:50:01 2006


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý