Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gareth Glyn Ploryn cerddorol sy'n taro'r nodyn cywir
Mae cyfansoddwr blaenllaw ac awdur adnabyddus wedi uno i greu stori frawychus wedi'i gosod i gerddoriaeth sydd wedi'i hanelu at blant.
Bydd y gwaith, o'r enw Ploryn, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, ar ddydd Iau, 22 Medi.

Disgrifiwyd y gwaith fel cymysgedd rhwng Roald Dahl a Phedr a'r Blaidd - gyda rhyw flas o ffilmiau arswyd 'Hammer' hefyd.

Mae'r plot yn adrodd hanes Ploryn, sy'n fab i ddau gymeriad erchyll o'r enw Sothach a Sglyfaeth, sy'n ei gloi mewn cloc yng Nghastell Gyrn Wigwy.

Dywedodd Ann Atkinson, Cyfarwyddwr Artistig yr Å´yl: "Rydym wrth ein bodd ac yn llawn cyffro wrth feddwl am glywed y darn cerddorol pwysig hwn am y tro cyntaf."

"Cael plant i ymddiddori mewn cerddoriaeth glasurol yw'r nod ac rwy'n siŵr y bydd Ploryn yn brofiad ardderchog iddyn nhw. Yn wir, bydd yn ddigwyddiad bythgofiadwy."

Cyfansoddwyr - Angharad Tomos a Gareth Glyn
Angharad Tomos, o Benygroes, sydd wedi creu'r stori fel dilyniant i'w nofel hynod lwyddiannus i blant, Sothach a Sglyfaeth. Y cyflwynydd poblogaidd ar Â鶹Éç Radio Cymru a'r cyfansoddwr dawnus, Gareth Glyn, o Langwyllog, Ynys Môn, sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth. Mae darnau cerddorfaol Gareth Glyn wedi ennill bri ymhob cwr o'r byd.

Caiff Ploryn ei berfformio gan gerddorfa siambr wyth darn o Ensemble Cymru, a gomisiynodd y darn.

Yr actor Llion Williams fydd yn adrodd y stori, ac mae'r darluniau a gaiff eu dangos fel rhan o'r profiad amlgyfrwng wedi'u llunio gan Marc Vyvyan Jones.

Meddai Gareth Glyn: "Anfonodd Angharad fersiynau drafft o'r stori ataf a dechreuais gyfansoddi o amgylch y rheiny - ac rydym wedi bod yn anfon syniadau yn ôl ac ymlaen. Rydym hefyd wedi bod yn trafod y gwaith gyda Marc, darlunydd y llyfr gwreiddiol. Mae ei ddarluniau yn wefreiddiol, yn llawn mynegiant a manyldeb - a hiwmor.

"Rwyf wedi rhoi eu nodweddion cerddorol eu hunain i bob un o'r cymeriadau - fel Ploryn, y ci, y gath, y sgerbwd a'r llyffant, ymysg eraill.

"Yn ogystal â bod â'u thema eu hunain, mae gan bob un ohonyn nhw eu hofferyn eu hunain hefyd er mwyn helpu'r plant i ddod i'w hadnabod.

"Mae thema'r sgerbwd yn cynnwys sain esgyrnog, ac yn y blaen. Nid effeithiau sain ond cerddoriaeth sy'n plethu'r gwahanol gymeriadau ynghyd.

"Dyma brofiad cyntaf Angharad o ymwneud â phrosiect cerddorol ac rwy'n meddwl fod y ddau ohonom wedi dysgu llawer oddi wrth ein gilydd. Bu'n brofiad pleserus iawn.

"Rwy'n gobeithio y bydd y themâu cerddorol agoriadol yn creu'r un fath o awyrgylch â'r hyn a geir mewn ffilm arswyd 'Hammer'."Mae'r stori yn eithaf trist ac emosiynol mewn un rhan ond yn fuddugoliaethus yn y diwedd."

Dywedodd Angharad Tomos ei bod hithau wedi mwynhau'r profiad yn fawr iawn.

Meddai: "Mae'n gyffrous iawn achos rydych yn siarad am rywun sydd ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng soddgrwth a bas dwbl.

"Cael plant i ymddiddori mewn cerddoriaeth glasurol yw'r syniad. Mae'n wahanol iawn i'r adeg pan oeddwn i'n tyfu i fyny - y gorau y gallech obeithio amdano yn yr ysgol bryd hynny oedd gwersi recorder neu biano. Rwy'n meddwl fod y plant yn ffodus iawn.

"Roeddwn yn teimlo fy mod yn adnabod Gareth am ei fod wedi fy nghyfweld ychydig o weithiau ac rwy'n gwrando ar Post Prynhawn bob dydd ers ugain mlynedd, ond roedd y cyfle i gydweithio gydag o yn gwbl annisgwyl.

"Roedd ysgrifennu Ploryn yn ddisgyblaeth hollol wahanol i ysgrifennu llyfr. Yn yr achos yma roedd angen cyn lleied o eiriau â phosibl, gan mai'r gerddoriaeth sy'n llywio'r darn. Mae'r geiriau a'r plot yn darparu canllaw i'r plant ei ddilyn. Rwy'n hoffi boddi pobl mewn geiriau felly roedd defnyddio llai o eiriau yn anodd i mi. Mae'n well gen i ysgrifennu nofel na stori fer, heb sôn am lên ficro fel hyn.

"Roedd dileu geiriau disgrifiadol o'r darn a gadael i'r gerddoriaeth greu'r awyrgylch yn dipyn o her i mi."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans:

"Pwrpas y darn yma yw galluogi pobl sy'n deall rhywfaint o Gymraeg i fwynhau cynhyrchiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym eisiau cyflwyno offerynnau'r gerddorfa a'r traddodiad cerddoriaeth glasurol i blant ifanc a theuluoedd.

"Rwy'n meddwl fod y prosiect yma'n wych. Mae'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n cynnwys pobl sy'n dysgu Cymraeg sy'n golygu bod ysgolion Cymraeg ail iaith hefyd yn cael cyfle i wrando ar berfformwyr o'r radd flaenaf."

Yn dilyn Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, bydd Ensemble Cymru yn mynd ar daith.
Ar ddydd Iau, 13 Hydref, byddant yn Neuadd Powis, Prifysgol Cymru, Bangor;
ar ddydd Gwener, 14 Hydref, byddant yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli;
ar ddydd Sadwrn, 15 Hydref, byddant yng Ngŵyl Cilcain, Cilcain, ger Yr Wyddgrug;
ac ar ddydd Sul, 16 Hydref, byddant yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý