Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ffermwyr Ifanc yn lleisio barn
Bu'r Hysbys yn ymweld â chlwb Ffermwyr Ifanc Edeyrnion, Gwyddelwern yn mis Mawrth 2006. Gofynnwyd y cwestiwn hwn i'r aelodau:
Os y buasech yn frenin / frenhines am y dydd, beth fuasech yn ei newid am yr ardal?
Cliciwch trwy'r lluniau isod i weld yr atebion.

Criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Edeyrnion
Criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Edeyrnion, Gwyddelwern next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý

"Byddai'n braf cael peiriant i fynd yn ôl mewn amser ond fod y pwer hyn gan y dair ohonym yn unig. Rydym yn sicr y byddai hyn yn lleihau ymddygiad gwrth gymdeithasol gan y buasen yn gallu atal y troseddau cyn iddynt ddigwydd! Cael rhywle ar agor am 24 / 7 fydda'r syniad arall - rhywle cynnes efo teledu, soffas a pheiriant gwneud paned. Byddai merch yn gweithio yno fel 'agony aunt' i ddatrys ein problemau yn ogystal â helpu gyda'n gwaith cartref ac i roi cyngor ffasiwn." Gwenno, Mared a Glesni.

"Os y buasen ni yn frenhinoedd am y dydd, mi fuasen ni yn codi'r gwharddiad o hela llwynogod." Huw a Rhys

"Mi fuaswn i yn codi cae pêl-droed gan fod y llall yn gam. Mae'r cae yn dyrchog iawn ar hyn o bryd." Ilan

"Rhoi go-cart trac yn y pentref. Swn i yn cael y go-cart gorau posib. Fyse na siampên i'r enillydd ar y diwedd." Sion

"Mi fuaswn i yn gosod cae rygbi yma gan nad oes un yn y pentref." Llion

"Mi fuaswn i yn gwnued trac motor-cross yma. Efallai fuasai'r bobl leol yn cwyno am y swn ond gan mod i'n frenin dim ots! Hefyd, codi rhywle ar gyfer pledu paent (paint-balling). Dwi erioed wedi cael y cyfle i'w drio - Oswestry yw'r lle agosaf ar hyn o bryd." John

"Mi fuaswn i yn codi t tafarn newydd gyda cherddoriaeth Gymraeg ac yn llawn o seddi cyffyrddus, bwrdd dartiau, pwl a phobl Gymraeg." Hywel

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý