Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹Éç Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Hanes Ty Tredegar

Maes y Steddfod a ThÅ· TredegarWilliam Rhys George yn rhoi hanes TÅ· Tredegar mewn llythyr at Â鶹Éç Cymru'r Byd






Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng ngerddi Ty Tredegar, Casnewydd. Mewn byd sydd ag obsesiwn cynyddol â thai a'u cynnwys, dyma un ty sydd ben ac ysgwyddau uwchlaw'r gweddill.

Am dros bum can mlynedd roedd Tredegar yn gartref i un o'r teuluoedd Cymreig enwocaf, y Morganiaid, Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach.

Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn falch iawn bod yr wyl yn cael ei chynnal yn yr ardal hon eleni.

William Rhys George"Mae tiroedd Ty Tredegar yn fan delfrydol i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol" meddai Cris Dafis, trefnydd y De. "Mae'r ty ei hun yn arbennig, wrth gwrs, a'r meysydd o'i gwmpas yn hyfryd."

Dangos eu cyfoeth
O ran ei adeiladwaith, yr hyn sy'n taro rhywun am y ty yw'r defnydd o fric. Roedd bric yn ddefnydd adeiladu eithaf anarferol yng Nghymru bryd hynny, oherwydd bod carreg ar gael yn hawdd. Serch hynny, roedd teulu'r Morganiaid yn awyddus i ddangos eu cyfoeth, ac roedd defnyddio bric yn lle carreg yn un ffordd o wneud hyn.

Mae'r ty yn llawn o drysorau hanesyddol, hen greiriau sy'n adlewyrchu'r cyfnod, rhai ohonynt oedd yn wreiddiol i'r ty a rhai sydd wedi'u hychwanegu'n ddiweddarach. Er enghraifft, ar y bwrdd cinio mae llestri cinio rhannol Copeland.

Fe'u harchebwyd gan y teulu ar 6 Awst 1853 ac maent yn arddangos lliwiau'r teulu, glas ac aur, a'u harwyddair, Deus Nobiscum Quis Contra Nos (Mae Duw gyda ni, pwy all fod yn ein herbyn?).

Llawer o bortreadau
Mae llawer o bortreadau o wahanol aelodau teulu'r Morganiaid, un ohonynt werth dros filiwn o bunnoedd. Ac mae'r Ystafell Frown yn cynnwys amrywiaeth o gerfiadau cymhleth.

Er bod arfbais y Morganiaid i'w weld ar y prif borth ac mewn mannau eraill o amgylch y tyni fu'r Morganiaid yn byw yma ers canol y ganrif ddiwethaf. Am ryw ugain mlynedd ar ôl hynny defnyddiwyd y ty; fel ysgol. Gadawodd y plant eu hôl ar yr adeilad, ac roedd tipyn o waith atgyweirio ac ailddodrefnu yn wynebu Cyngor Bwrdeistref Casnewydd ar ôl iddynt brynu'r Ty ym 1976. Serch hynny, dros yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf gwnaed cynnydd aruthrol, a chyda chymorth ariannol parhaus CADW, Bwrdd Croeso Cymru, y Comisiwn Cefn Gwlad, Cyngor Amgueddfeydd Cymru, Ffrindiau Ty Tredegar, a llawer o unigolion a sefydliadau preifat, dylai fod yn bosibl i'r Cyngor gyflawni ei nod o adfer nid yn unig y Ty ond hefyd Fferm y Plas, y Stablau, y Gerddi a'r Parc i gyflwr fydd yn ymdebygu i'w golwg wreiddiol.

Diwylliant Cymraeg
Nid yw diwylliant Cymraeg yn beth newydd i'r rhan hon o dde-orllewin Cymru. Lleolir Tredegar yn un o ardaloedd y traddodiad barddol yng Ngwent. Roedd Llys Ifor Hael, un o noddwyr pennaf Dafydd ap Gwilym, yng Ngwern y Clappa, ger Ty; Tredegar.

Ac ymwelodd yr Eisteddfod â'r ardal hon ym 1988. Serch hynny, mae'r ŵyl wedi newid cryn dipyn a defnyddir llawer mwy o'r gerddi eleni. Bryd hynny, 17 erw oedd maint Maes yr Eisteddfod; eleni fe fydd angen 31 erw.

Un newid mawr eleni fydd caniatáu alcohol ar faes y brifwyl, sy'n newid yn ôl rhai. Ond mae'n amlwg bod y trefnwyr o'r farn bod alcohol yn un ffordd o wneud yr wyl yn fwy deniadol.

Serch hynny, mae Ty a Pharc Tredegar yn hen gyfarwydd â chymdeithasu ac alcohol. Roedd un o aelodau mwyaf diddorol teulu'r Morganiaid, Evan Morgan, yn hoff iawn o gynnal partïon gwyllt yma ar benwythnosau. Evan Morgan oedd yr olaf o deulu'r Morganiaid i fyw yn y typan ddaeth yn Is-iarll Tredegar ym 1934.

Roedd llawer o'r prif ffigyrau llenyddol, artistig a chymdeithasol o'r 1930au a'r 1940au yn westeion rheolaidd yn Nhredegar, yn cynnwys H.G. Wells, yr ocwltydd Aleister Crowley, y llenor a'r meddyliwr Aldous Huxley, Tywysog Paul o Roeg a Nancy Cunard.

Cymysglyd a digyfeiriad
Er bod Evan Morgan wedi'i ddisgrifio fel cymeriad cymysglyd a digyfeiriad, roedd yn garedig iawn at anifeiliaid a byddai'n hoff iawn o'u defnyddio i ddiddanu ei westeion. Roedd yr anifeiliaid mor ecsentrig a thalentog â'u meistr; er enghraifft, gallai'r cangarŵ baffio yn ogystal â neidio. A gallai iaith ei barot 'Blue Boy' fod yn eithaf coch ar brydiau.

Pe byddai'n fyw heddiw dw i'n siwr y byddai Evan yn hoff iawn o awyrgylch cymdeithasol yr Eisteddfod, ac nid fyddai elfen 'ecsentrig' yr Orsedd yn poeni dim arno, ac fel rhywun oedd yn hoff o'i bartïon coctels mae'n debygol y byddai'n croesawu'r ffaith bod alcohol ar gael ar faes y brifwyl.

yr olaf
Evan oedd yr olaf o'r Morganiaid i fyw yn Nhredegar. Pan fu farw ym 1949 trosglwyddwyd y teitl i'w hen ewythr, Frederick George Morgan, a drosglwyddodd yr ystadau ar unwaith i'w fab ei hun, John, er mwyn osgoi trydydd gorfodaeth o dalu tollau marwolaeth.

Roedd cyfoeth y teulu eisoes wedi dioddef oherwydd tollau marwolaeth o'r fath. Ac ni wnaeth ffordd o fyw Evan, a oedd i raddau helaeth yn seiliedig ar gyfalaf ac nid incwm, lawer i helpu'r sefyllfa ariannol. Ym 1951, penderfynodd John Morgan werthu'r ty, y rhan fwyaf o'i gynnwys a'r ystad o'i amgylch, ac ymddeolodd i loches rhag treth Monte Carlo.

Ym 1962 bu farw John Morgan, heb etifedd, a dyna oedd diwedd Morganiaid Tredegar.

Er mwyn dysgu rhagor am y cartref a'r teulu arbennig hwn, cofiwch alw draw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Cewch eich tywys o amgylch y ty; mewn taith sy'n parhau am ryw awr a chwarter. Bydd mwynhau moethusrwydd y ty; crand yn gyfle delfrydol i chi ddianc o'ch carafán sigledig neu eich pabell fwdlyd.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹Éç yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý