Digwyddiadau Maes C
Maes C, Clwb Whiteheads ger Parc Tredegar, Casnewydd. Digwyddiadau'r wythnos:
Nos Sul 1 Awst, 8pm Syth o'r Nyth Noson yng nghwmni Janet Aethwy a Llio Silyn yn hel atgofion am y dyddiau da. Disgo i ddilyn.Tocynnau: £5 o'r Eisteddfod: 0845 1221 176
Nos Lun 2 Awst, 8pm Noson Aildoi Ty Newydd Noson arbennig yng nghwmni Twm Morys, Geraint Lovgreen, Iwan Llwyd, Gwyneth Glyn ac eraill i godi arian i Apêl Ty Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Tocynnau: £4 o Dy Newydd: 01766 522811
Nos Fawrth 3 Awst, 8pm Yn ôl i'r 70au Lyn Ebenezer, Ray Gravell a Dylan Ebenezer sy'n cofio uchafbwyntiau'r 70au pan oedd Cymru'n bencampwyr rygbi a chanu pop Cymraeg yn ei anterth. Yna troi'r cloc yn ôl â disgo'r 70au. Tocynnau: £5 o'r Eisteddfod: 0845 1221 176
Nos Fercher 4 Awst, 8pm Ar y Ffin. Sioe sy'n dymchwel ffiniau, gyda beirdd yn ymrafael ag artistiaid hip-hop. Ar un ochr mae MC Saizmundo, MC Sleifar ac Aron Elias (Pep Le Pew), ac ar yr ochr arall mae Grahame Davies, Emyr Lewis, Lisa Tiplady ac Elinor Wyn Reynolds.Tocynnau: £5/£4 o'r Academi: 029 2047 2266
Nos Iau 5 Awst, 8pm Clwb Comedi S4C Noson stand-yp yng nghwmni rhai o sêr S4C. Wherthin? By'ch chi yn 'ych dwble Tocynnau: £5 o'r Eisteddfod: 0845 1221 176
Nos Wener 6 Awst, 8.30pm Stomp y Steddfod Noson fawreddog o farddoniaeth, chwerthin a chardiau lliw. Un bardd ar bymtheg yn cystadlu am y gorau i ennill y stôl. Bydd bar hwyr ar gael. Tocynnau: £7/£6 o'r Academi: 029 2047 2266
Nos Sadwrn 7 Awst, 8.30pm Stand-yp iawn! Dewch i gloi'r Eisteddfod gyda noson o gomedi mentrus, brawychus a doniol iawn, iawn... Yng nghwmni Huw Marshall,Tudur Owen, Dewi Rhys a'u dilynwyr ffôl. Tocynnau: £5 o'r Eisteddfod: 0845 1221 176
Trefnir Maes C ar y cyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Academi a iawn!, gyda chymorth S4C a Chronfa Gari.
Darperir bysiau gwennol yn rhad ac am ddim o'r Maes a'r meysydd carafanau aphebyll i'r holl ddigwyddiadau uchod.
Am docynnau ar gyfer nosweithiau Sul, Mawrth, Iau a Sadwrn cysylltwch ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 33 Stryd y Bont, Casnewydd NP20 4BH0845 122 1176 www.eisteddfod.org.uk
Am docynnau ar gyfer nos Lun, cysylltwch âTy Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0LW01766 522811 tynewydd@dial.pipex.com www.tynewydd.org
Am docynnau ar gyfer nosweithiau Mercher a Gwener, cysylltwch â'rAcademi, Prif Weithredwr: Peter Finch,Ty Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,Caerdydd CF10 5FQ 029 2047 2266 post@academi.org www.academi.org
|