Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹Éç Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Camgymeriad yr wythnosBu'n wythnos ragorol dan heulwen Gwent gyda bron i 150,000 wedi ymweld â maes y brifwyl erbyn y Gymanfa, nos Sul.





Ond er gwaethaf y tyrfaoedd da a oedd yn cystadlu'n agos, gan ragori ambell ddiwrnod ar Feifod y llynedd mae'r pryderon yn parhau am gyflwr ariannol Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Ac apêl am arian i gadw'r Eisteddfod rhag dyledion oedd un Llywydd Llys yr Eisteddfod, R Alun Evans, ar y diwrnod olaf.

Amser a ddengys yn awr a fu yr hyn a ddigwydd yn Nghasnewydd yn ddigon i sbarduno'r Cynlluniad, drwy'r Bwrdd Iaith, i fod yn Ifor Hael.

Wrth gau pen y mwdwl mae'n braf edrych yn ôl dros rai o ddigwyddiadau'r wythnos na chafodd eu cofnodi ar wefan Â鶹Éç Cymru'r Byd hyd yn hyn.

Camgymeriad yr wythnos
Yn y Babell Gelf a Chrefft y gwelwyd camgymeriad mwya'r wythnos wrth i ymwelydd ddychryn carwyr celf a pheri i'r Swyddog Celfyddydau Gweledol ruthro rhwng y gweithiau i arbed y dydd.

Yr hyn achosodd y fath gyffro i Robyn Tomos oedd gweld ymwelydd yn camgymryd y gwaith celf yn y llun ar y ddalen hon am bensil go iawn a mynd ati i geisio'i defnyddio.

Fel y dywedodd gwr o'r Cymoedd yn Saesneg wrth wylio'r ymrafael, "Dyma'r hwyl; mwya rydw i wedi'i gael ers dod mewn yma.

Ymddiheuriad yr wythnos
Mewn wythnos gythryblus bu sawl sefyllfa ymddiheurol.

Yr Arglwydd Elis Thomas yn ymddiheuro am alw protestwyr a wrthwynebai araith Saesneg mewn cyfarfod ar y Maes yn "Ffasgwyr iaith" ond yr Archdderwydd yn gwrthod ymddiheuro am ymddangos fel pe byddai yn cymharu aelodau o Gyngor yr Eisteddfod i'r moch hynny yn y winllan enwog a roddwyd i'n gofal gan Saunders Lewis.

Ond erbyn diwedd yr wythnos bu'n rhaid iddo yntau ymddiheuro - am jocian o'r Maen Llôg fod gohebydd papur newydd oedd yn cael ei urddo yn aelod o'r Orsedd yn enllibiwr.

"Emyr o'r Morfa" oedd Emyr Williams, gohebydd eisteddfodol o hil gerdd, wedi ei ddewis yn enw gorseddol ond Robyn LlÅ·n yn awgrymu wrth ei urddo y byddai "Emyr yr enllibydd" yn well.

"Mi ddifethodd y diwrnod i mi," meddai Mr Williams gan ychwanegu nad y maen llog yw'r lle i dynnu coes fel yna.

A go brin fod hyd yn oed ymddiheuriad preifat a chyhoeddus wedi gwneud llwyr iawn am y llithriad.

A rhai yn synnu i'r llithriad gael ei wneud gan Archdderwydd sy'n gyfreithiwr hefyd!

Sibrydiad yr wythnos
Mae pob un o ohebwyr y Maes yn hoffi meddwl iddyn nhw ddod o hyd i enw enillwyr y cystadlaethau seremoniol o leiaf ddiwrnod cyn y seremoni.

Llwyddiant cymysg gawsom ni eleni - yn enwedig yn achos cystadleuaeth y gadair trwy fod yn gwbl gywir ac yn gwbl anghywir yr un pryd.

"Pwy gaiff y gadair yfory?" holwyd ymhlith ein gilydd ddydd Iau.

"Neb," oedd yr ateb a'r sibrydion yn dew ymhlith Y Rhai sy'n Gwybod mai Steddfod Cadair Wâg fyddai un Casnewydd.

Ac, yn wir, "Neb" ddaru ennill gan mai dyna ffugenw'r bardd cadeiriol.

Y sibrydion, felly, yn ffeithiol gywir ond wedi eu camddehongli.

A faint o weithiau mae hynny'n digwydd mewn bywyd?

Dyfyniad yr wythos
JonsiYr Archdderwydd Robyn Lewis yn dyfynnu Jonsi, Â鶹Éç Radio Cymru, o'r Maen Llog wrth alw ar aelodau Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i'w cadw eu hunain yn bur.

Tybed a fydd Jonsi yn awr yn anfon un o'i grysau T gyda'r union eiriau hynny arno i bob aelod o Gyngor yr Eisteddfod i'w hatgoffa o siaras yr Archdderwydd?

Heijac yr wythnos
Yr aelod seneddol, Ann Clwyd, yn manteisio ar ei chyfle ar y llwyfan yn ystod seremoni groesawu Cymru a'r Byd i ledaenu neges a welwyd fel un wleidyddol noeth ynglyn â Rhyfel Irac gan sathru ar gyrn Undeb Cymru a'r Byd sy'n trefnu'r seremoni ac eraill yn y gynulleidfa.

Fel yr awgrymodd aelod amlwg o Gyngor yr Eisteddfod wedyn, camgymeriad yw rhoi llwyfan i unrhyw wleidydd.

"Pan ydych chi'n rhoi llwyfan i wleidydd mae petha fel hyn yn digwydd," meddai'n awgrymog.

Go brin y bydd y camgymeriad yn cael ei ailadrodd yn fuan.

Cymysgwch yr wythnos
Gall enwau barddol fod yn dreth ar ambell un gyda gohebydd yn y Daily Post a fu'n holi'r Archdderwydd Robyn LlÅ·n un diwrnod yn gorffen ei frawddeg gyda'r geiriau, "meddai Mr LlÅ·n." Selwyn Griffith

Bu mwy fyth o gynysgwch erbyn dewis archdderwydd newydd ddydd Gwener gyda'r Western Mail yn cyhoeddi mai Selwyn Gruffydd - Griffith ddylai fod - a ddewiswyd a'i fod yn cael ei adnabod hefyd fel "Gwyn ap Gwilym" - heb sylweddoli, mae'n amlwg, mai enw'r ymgeisydd arall yn ras yr archdderwyddiaeth oedd Gwynn ap Gwilym!

Rhifau'r wythnos
Ar wahân i'r rhifau ymweld dyddiol a gymharodd mor ffafriol â Meifod y llynedd o bosib mai ar lori a char y gwelwyd dau o rifau mwyaf diddorol yr wythnos.

C1 PWS oedd y rhif cofrestru ar lori oedd yn chwistrellu dŵr dros Maes i gadw'r llwch i lawr.



carAc yn y maes parcio gwelwyd yr hyn oedd yn siwr o fod yn gar mwyaf llengar y Brifwyl gyda'r rhif, L1 YFR!







Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹Éç yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý