| |
Dathlu chwarter canrif o ddarlledu
Bydd prif gyflwynydd teledu'r Brifwyl, Huw Llywelyn Davies, yn dathlu 25 mlynedd o ddarlledu o'r Eisteddfod yng Nghasnewydd eleni.
"Eleni yng Nghasnewydd, mi fyddai'n cyflwyno'r Eisteddfod ar y teledu am y bumed flwyddyn ar hugain yn olynol, ac yn mwynhau cymaint ag erioed," meddai Huw Llywelyn Davies.
"Mae'n sialens fawr i gyflwyno cymaint o oriau o deledu byw, ond rwy' wrth fy modd gyda'r wefr, yr ansicrwydd, y cyfweliadau a'r eitemau."
Ac yntau wedi cychwyn ei yrfa Eisteddfodol ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw yn 1980, mae'r gwr o Waencaegurwen yn mwynhau bod yng nghwmni Cymry o bob cwr o'r wlad yn ystod yr wythnos unigryw hon.
"Mae hi wedi bod yn fraint cael rhannu stiwdio gyda chynifer o fawrion diwylliant Cymru o fyd llenyddiaeth, cerdd a'r celfyddydau dros y blynyddoedd. Rwy' hefyd yn mwynhau cyfarfod a siarad gyda'r Eisteddfodwyr sy'n cefnogi'r digwyddiad yn flynyddol. Dyma hefyd gynulleidfa reolaidd teledu a radio Cymraeg.
"Wythnos yr Eisteddfod yw wythnos orau'r flwyddyn i mi. Rwy' wedi bod yn lwcus iawn ar hyd fy ngyrfa ddarlledu i gael teithio i weld gemau rygbi ac yn y blaen, ond yr Eisteddfod yw'r un peth rwy'n ei mwynhau yn gyson, o un flwyddyn i'r llall."
Mae gan Huw nifer o atgofion melys dros y blynyddoedd ond dywed mai cael cwmni y bas-fariton o Bant Glas, Bryn Terfel a'i gyfeilydd, Annette Bryn Parry yn y stiwdio wrth i Eisteddfod Ynys Môn 1999 ddirwyn i ben, sy'n dod i'r brig.
"Roedd cael cwmni Bryn Terfel ac Annette Bryn Parry yn fraint," meddai. "Roedden nhw mor gartrefol a naturiol, doedd rhywun ddim yn cofio bod y camerâu yno.
"Uchafbwynt yr Eisteddfod, fel arfer yw cystadleuaeth y Rhuban Glas i unawdydd gorau yr Eisteddfod, a'r enillydd y flwyddyn honno oedd John Eifion, fu'n canu deuawdau gyda Bryn yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedd y ddau yn fechgyn. Roedd hi'n foment arbennig, roedd 'na ddeigryn yn y llygaid a'r noson yn gyflawn," meddai.
|
|
|
|