Adolygiad: Yr Aflwydd
Cyfieithiad George Owen o Nil by Mouth gan John Chapman, perfformiad gan Gwmni Drama Bro'r Eisteddfod
Dwi ddim yn un am ffars fel arfer, er y byddai rhai'n anghytuno mae'n siwr, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi fwynhau perfformiad Cwmni Drama Bro'r Eisteddfod o 'Yr Aflwydd'. Sefydlwyd y cwmni yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod gyda'r bwriad o barhau wedi'r ŵyl. Gobeithio'n wir y bydd.Ffars syml a slic wedi ei lleoli mewn ysbyty sydd yma ar ddechrau penwythnos trychinebus o brysur. Dilynwn ribidires o gamddealltwriaeth, helyntion di-ri, staff di-drefn a throlis yn mynd a dod fel bysus. Fe gawn y doctoriaid a nyrsus disgwyliedig yn ogystal â chamgymryd cleifion am eraill. Mae pawb yn cael eu trin yn y pen draw ond bron neb yn cael y driniaeth ddaethon nhw i'r ysbyty i'w chael! Swyddog o'r Cynulliad (Ben Jones) sy'n dod i asesu pa mor effeithiol yw'r ysbyty, sy'n achub y sefyllfa.
Rydyn ni'n bwrw iddi'n syth mewn ward yn Ysbyty Ceredigion. Hon yw'r "hufen ar deisen ysbytai Cymru" yn ôl Doctor Chandler (Robin Jones). Anodd iawn yw credu hynny er bod staff yr ysbyty yn ceisio tawelu'n meddyliau mai "dim ond i'r lleugwr" mae pethau'n edrych yn anhrefnus.
Mae ambell i gyfeiriad at wardiau'r ysbyty sy'n codi gwên; Dylan Thomas (yr uned arennau), a'r (Robert) Burns Unit, wrth gwrs. Ond yn ward Saunders y lleolir y ddrama.
Y potensial am ddryswch
Mae'r potensial am ddryswch yn amlwg o'r cychwyn a dyna sydd yn fy mhoeni am ffars fel arfer.
Fe gawn y ddynes ffwndrus a'i gŵr, Eirian ac Evelyn Gwenallt (P'run yw p'run dwedwch?); mae Doctor mewn diwinyddiaeth yn gymeriad mewn ysbyty (Pwy fydd yn ei gamgymeryd am ddoctor meddygol gyntaf tybed?); mae breichled adnabod yn cael ei rhoi ar fraich y person anghywir (a fydd rhywun yn cael y driniaeth anghywir?) ac fe gawn nyrs o'r enw Pam sydd yn ateb pob cwestiwn ynglŷn â'i henw gyda chwestiwn (Tybed Pam?!)
Wedi drysu? Mi fyddwch chi!
Ychwanegwch Sister (Diana Evans) sy'n siarad Cymraeg gydag acen Gogledd Iwerddon, sydd yn gamp ynddo'i hun, a Miss Taplo sydd mewn coma ond yn cael ei chyhuddo o bob math gan nad ydi hi'n gwadu dim, a Mr Whittaker na welwn ni byth mohono dim ond ei glywed yn curo'r wal dragwyddol, ac mae gennych chi bopeth sy'n gwneud ffars yn ffars.
Os ydych chi'n mwynhau gwingo, eistedd ar eich dwylo a brathu eich gwefusau i'ch rhwystro rhag gweiddi ac ystumio nes bod y cymeriadau'n gweithio allan pwy ydi pwy a beth ydi beth, dyma'r ddrama i chi.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef mod i'n falch o weld James Gosling o'r Cynulliad yn cyrraedd pan roedd y dryswch ar ei anterth. Dim ond y dyn yma sydd ag unrhyw ddealltwriaeth o'r sefyllfa a dydi hwnnw ddim yn gwybod y cyfan chwaith.
Er bod y ddrama'n cyffwrdd ar faterion eitha' dwys - camgymeriadau wrth drin cleifion, cau ysbytai bach, diffyg staff, gorweithio, cystadlu rhwng doctoriaid - dipyn o hwyl ysgafn yw'r ddrama hon.
O gwmni sydd newydd ei sefydlu yn perfformio o flaen cynulleidfa yn llawn o'u cyfoedion am dros ddwy awr roedd actio'r cast yn hyderus a slic iawn.
Allan Cook oedd Cyfarwyddwr y ddrama a chynlluniwyd y set syml ond pwrpasol iawn ar gyfer y campau ar y llwyfan gan Bob Roberts oedd hefyd yn actio un o'r prif gymeriadau, Dr Gwenallt.
Adolygiad gan Sian Davies