Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹Éç Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

CefndirDathlu cyfraniad John Gwil

John Gwilym JonesAr ganmlwyddiant ei eni bydd cyfraniad un o ddramodwyr mwyaf dylanwadol Cymru'r ugeinfed ganrif yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd.



Cafodd y Dr John Gwilym Jones ei eni a'i fagu yn Y Groeslon ger Caernarfon ac yno y bu byw y rhan fwyaf o'i oes hyd at ei farw ym 1988 yn 84 oed.

Roedd hefyd yn gynhyrchydd, yn feirniaid llenyddol ac yn ysgolhaig o fri.

Bu ei stamp yn drwm ar genedlaethau o ysgrifenwyr, beirdd, academyddion ac actorion yn enwedig yn ystod ei gyfnod yn ddarlithydd ynm Nhrifysgol Cymru ym Mangor.

Bydd tair o ddramâu John Gwilym Jones yn sail i gyfres o berfformiadau a gweithdai gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr y Maes yn yr Eisteddfod.

"Mae hi'n gywir ac yn briodol cofio cyfraniad amhrisiadwy John Gwilym Jones, yn enwedig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg, ar ben-blwydd ei eni," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts.

"Er iddo ragori mewn dulliau eraill o lenydda ystyrir dramâu John Gwilym Jones yn bencampwriethiau," ychwanegodd.

Bob dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd pedwar o actorion craidd y Theatr Genedlaethol yn llwyfannu perfformiadau tri chwarter awr amser cinio neu yn ystod y prynhawn.

Bydd Ac Eto Nid John Gwil yn cynnwys dwy o'i ddramâu byrion, Un Briodas a Dwy Ystafell â rhan o Ac Eto Nid Myfi, ei ddadansoddiad dramatig o berthynas dyn a'i anian sylfaenol.

Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts a'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Judith Roberts (ail o'r dde) gydag actorion craidd y cwmni, Carys Eleri Evans, Rhian Blythe, Owain Arwyn a Dave Taylor.Perfformir Un Briodas am 12.30 ddydd Llun, Awst 2, ac am 2.30 o'r gloch, y dydd Iau, Awst 5.

Perfformir Dwy Ystafell am hanner dydd, ddydd Mawrth, Awst 3, ac am 4.00 ddydd Gwener, Awst 6.

Bydd detholiad o Ac Eto Nid Myfi am 12.30 ddydd Mercher, Awst 4, ac am hanner dydd, y Sadwrn, Awst 7.

Cyfarwyddir y cynhyrchiad gan Cefin Roberts a Chyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts.

Er mai lenyddiaeth Gymraeg y bu cyfraniad a dylanwad mawr John Gwilym yn y Saesneg y graddiodd ym Mangor.

Bu'n athro wedyn yn Llundain ac ym Mhwllheli cyn cael ei benodi gynhyrchydd drama gyda'r Â鶹Éç.

Yn ddiweddarach ymunodd ag Adran y Gymraeg yn ei hen goleg yn ddarlithydd ac yno bu'n meithrin cenedlaethau o fyfyrwyr aeth yn eu blaenau i fod yn llenorion, yn ddramodwyr, actorion, ac yn gyfarwyddwyr llwyddiannus.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹Éç yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý