Pregeth Y Parchedig Allan Pickard
Dyma bregeth Y Parchedig Allan Pickard oddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 2004.
Ychydig yn 么l fe ofynnais i ddyn sy'n eistedd o'm blaen i yn y pafiliwn y bore 'ma a fydde fe'n hoffi pregethu yn fy lle i heddiw.
Teimlo o'n i fod galwad Alun Evans yn ei bregeth ym Meifod y llynedd wedi cael ei hanwybyddu, a bod angen ei dweud hi eto.
Dwi ddim yn siwr faint o bobl y dyddiau hyn sy'n cofio pregethau, felly gai'ch atgoffa chi?
Codi baner heddwch wnaeth Alun yn ei bregeth yn wyneb ffieidd-dra rhyfel Irac ar y pryd, ac nid dim ond Irac - ffieidd-dra sydd wedi aros gyda ni yn ystod y deuddeng mis dwetha, wrth i filoedd yn rhagor gael eu lladd - pobl y wlad (a does gynno ni dim syniad faint o'r rheiny) a lluoedd y cynghreiriaid (mil a rhagor ers i'r rhyfel ddod i ben) - wrth i hanesion ein cyrraedd am garcharorion yn cael eu cam drin a gweithwyr cyffredin yn y wlad yn cael eu dal a'u dienyddio - ymhlith y pethau eraill sy'n mynd law yn llaw a rhyfel.
Falle i rai ohonoch chi weld rhaglen ddogfen ar y teledu yn ystod yr wythnosau dwethaf yn dweud bod 'na nawr, ar hyn o bryd, 70 a rhagor o ryfeloedd yn cael eu hymladd ar draws y byd. Un o'r rheini sy'n peri'r fath dristwch yn Swdan y dyddiau hyn. 70 o ryfeloedd - beth mae hynny'n ei ddweud am stad y ddynoliaeth - y teulu yma 'da ni gyd yn perthyn iddo - yn negawd cyntaf y trydydd mileniwm?
Ond fel na mae - gallwn weiddi "Heddwch" nerth ein pen, ond does dim garanti y bydd pobl yn cymryd sylw.
Ces f'atgoffa o hynny gan luniau ar y teledu'n gymharol ddiweddar, hen luniau o'r protestiadau llynedd yn gwrthwynebu mynd i ryfel yn erbyn Irac, a'r geiriau oedd yn amlwg ar grysau 'T' a phosteri'r protestwyr, "Nid yn fy enw i." - nid yn enw llawer ohonom ni...
Amheuon o'r newydd Ac mae'r adroddiadau diweddar a gyhoeddwyd yr ochr hyn i'r Iwerydd, fel ar yr ochr draw, wedi codi amheuon mawr o'r newydd ynghylch y rhesymau dros fynd i ryfel yn Irac, heb s么n am ddilysrwydd cyfreithiol y rhyfel yna.
Nid yn fy enw i. Llawer yn galw - ond galw'n ofer wnaethon ni, ni oedd yn gwrthwynebu rhyfel Irac.
Dathlu Cymreictod Ac mae 'na alwad arall, sy'n ymwneud 芒'r wythnos hon, 'does? Yr alwad flynyddol i ddathlu'n Cymreictod a'n diwylliant, a gwneud hynny ar g芒n ac ar lafar, a gwerthfawrogi dawn a doniau o bob math - mae yma, bydd yma, wledd i'r glust a'r llygaid. Gobeithio y bydd miloedd yn ymateb i alwad pobl Casnewydd i ddod i'r brifwyl eleni - mae 'na griw bychan wedi bod yn gweithio'n ddi baid am ryw gwta ddwy flynedd i gael popeth yn barod - ac mae ymdrechion y criw bychan yna'n haeddu llwyddo.
Mae Dr John Hughes, cadeirydd y pwyllgor gwaith, ac un o swyddogion ffyddlon a gweithgar Eglwys Annibynnol Mynydd Seion yma yng Nghasnewydd, yn un o gyhoeddiadau'r Eisteddfod hon yn addo croeso heb ei ail - ac mae e'n gwneud hynny am yr eildro fel cadeirydd pwyllgor gwaith y Brifwyl - felly mae'n gwybod am beth mae'n siarad!
"Mae criw bach ond brwdfrydig iawn," meddai, "wedi bod yn gweithio er mwyn paratoi y wledd... a mawr yw'r disgwyl ymhlith trigolion Cymraeg a di-Gymraeg yr ardal am ddyfodiad yr Eisteddfod." Criw bach yn galw - peidiwch 芒'i siomi - gobeithio na fyddan nhw'n galw'n ofer.
Pobl yn galw - pob math o alwadau - o bob cyfeiriad ... mor gyson bron a churiad calon - o'r byd gwleidyddol, o'r byd masnachol ac ariannol, ar lefel teulu a chymdeithas - galwadau i gefnogi, i roi, i wneud, i ddod, i fynd, i rannu, i ddweud, i gyhoeddi.
Ac yng nghanol yr holl leisiau sy'n galw mae un llais bron wedi'i golli yn ein plith, er mae e wedi bod yn galw ers rhyw ddwy fil o flynyddoedd.
Yn ei ddydd fe glywodd rhai ei alwad - criw bychan iawn ar y dechrau - clywed yr alwad ac ymateb trwy adael popeth a'i ddilyn, a gwneud hynny am eu bod nhw'n credu ei fod yn werth ei ddilyn. A nhw oedd y cyntaf o ... pwy all ddweud faint?
Daeth un genhedlaeth ar 么l y llall, canrif ar 么l canrif, mewn un wlad ar 么l y llall - clywed yr alwad, a dewis dilyn - a rhai'n talu pris uchel am wneud hynny - a gadael eu h么l a'u dylanwad - a llawer o Gymry yn eu plith - llawer gormod i'w rhestru fan hyn - ond a hithau'n flwyddyn dathlu dau ganmlwyddiant Cymdeithas y Beibl mae'n briodol s么n, fel mae amryw wedi gwneud yn barod, am bobl fel Mari Jones a Thomas Charles - ac ym mlwyddyn cofio diwygiad 04-05, Evan Roberts ac eraill gafodd eu dal gan gynnwrf rhyfeddol y cyfnod yna.
Beth am bobl heddiw? Pobl ddoe a glywodd yr alwad... a beth am bobl heddiw? Pwy sy'n clywed heddiw?
Dwi ddim wedi enwi'r un sy'n galw - 'da chi s茂wr o fod wedi gwneud hynny dros eich hunain yn barod . Oes rhaid dweud yr amlwg?
Nid eglwys, nac un o'r enwadau crefyddol, na'r un sefydliad na mudiad na charfan na sect grefyddol, nid yr un arweinydd eglwysig o'r gorffennol na'r presennol, nid rhyw ddiwinydd sy'n hybu'r safbwynt hyn neu arall - does dim prinder - mae na ddigon o ddewis - digon i ddrysu rhywun!
Galwad Iesu ei hunan yw'r unig alwad sy'n cyfri... ac mae mor syml: Dewch ar fy 么l i.
Da ni'n byw mewn cymdeithas aml ffydd ac aml ddiwylliant - run fath a phobl y ganrif gyntaf, fel pobl pob canrif. Mae Eglwys Mynydd Seion yn un o dri lle o addoliad Cristnogol yn yr un stryd fwy neu lai yma yng nghanol Casnewydd.
Yn gwmni i ni sy'n addoli ym Mynydd Seion, mae adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth ac addoldy'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Ond yn y tai teras gyferbyn 芒'n capel ni, yn y mynd a dod dwi wedi'i weld, mae mwyafrif y trigolion, os nad pob un, o dras ddwyreiniol.
Ie, ar ein carreg drws ein hunain, rhyw ddeng munud o'r lle hwn, cymdeithas aml ffydd ac aml ddiwylliant - yr hyn sy'n wahanol heddiw yw ein bod ni, dinasyddion y byd sydd bellach yn bentref mewn rhai ffyrdd, 'da ni heddiw yn fwy ymwybodol o'r amrywiaeth a'r gwahaniaethau, ac yn fwy ymwybodol o'r tensiynau y gall hynny ei greu.
Pwysig parchu Ond beth bynnag am y tensiynau a'r problemau all ddeillio o'r sefyllfaoedd yna, mae'n bwysig ein bod ni'n parchu'r rhai sy'n wahanol i ni o ran diwylliant a thraddodiad a chrefydd, ag ochri gyda nhw hefyd os oes rhaid, os ydan ni'n synhwyro eu bod nhw'n cael cam.
Ac mae hynny'n digwydd gwaetha'r modd. Ond ar yr un pryd, rhaid i ni beidio 芒 cholli golwg ar yr hyn sy'n ein gwneud ni yr hyn yda ni, yn sicr 'da ni ddim i golli golwg ar alwad ganolog ein crefydd - yr alwad i ddilyn Iesu.
Criw cymysg Galwodd Iesu pob siort i fod gydag e - galwodd blant bach, galwodd rai sy'n cael eu labelu'n bublicanod a phechaduriaid - ac fel y clywsom yn y darllen yn gynharach fe alwodd ddisgyblion - galwodd ddeuddeg i ddechrau i fod gydag e - ac roedd y criw yna'n griw cymysg iawn - pobl heb gysylltiad na pherthynas a'i gilydd - ond roedden nhw'n barod i fentro dilyn. Wrth y rhai oedd yn bysgotwyr wrth eu galwedigaeth, fe ddwedodd, dewch gyda fi ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion. Wrth y rhai nad oeddent yn bysgotwyr, dwi'n rhyw ddyfalu ei fod wedi geirio'r alwad mewn termau gwahanol a gyda delweddau gwahanol.
Ond hanfod yr alwad, boed i bysgotwr, neu gasglwr trethi, neu genedlaetholwr penboeth, neu beth bynnag, mae'n alwad i fywyd newydd i lawenydd newydd i bwrpas newydd ac i berthynas newydd.
Perthynas Ac mae'r gair 'perthynas' yn air dwi isio aros gydag e - fedrwch chi ddim bod gyda rhywun, mynd gyda rhywun - fedrwch chi ddim dilyn heb sefydlu perthynas.
Ac i'r rhai sy'n ymateb i'w alwad i ddilyn, yna mae Iesu yn ein cyfeirio ni i greu dau berthynas arall - perthynas 芒 Duw a pherthynas 芒'n cymydog. Beth mae hynny'n ei olygu heddiw?
Mae hwnna'n glamp o gwestiwn, a gobeithio y byddwch chi'n rhoi ystyriaeth bellach iddo ar 么l i'r oedfa yma ddod i ben, oherwydd mae'r ateb yn mynd i amrywio.
Ond beth bynnag arall sydd i'w ddweud, mae rhan o'r ateb yn ymwneud 芒 chredu... ond mae hynny'n codi cwestiwn arall yn syth, credu beth ac am bwy. Rhyngom ni yma heddiw 芒'r awr a'r lle y gwahoddodd Iesu rai i fod gydag ef, mae canrifoedd o ddehongli, o lunio credoau ac athrawiaethau, o esbonio ac egluro....
Mae rhai o'r pethau'n yna'n help, ond mae rhai yn rhwystr hefyd, yn uno a rhannu Cristnogion yr un pryd. Ac o fewn y teulu Cristnogol heddiw mae'r fath amrywiaeth - a rhai'n barod i ddweud bod darnau'r jig so Cristnogol i gyd yn eu lle iddyn nhw, ac yn honni mai eu darlun nhw yw'r unig ddarlun sy'n help i wneud synnwyr o'r jig so - ac mae eraill yn dal i weithio arno - eraill, wrth gwrs, yn dweud mai nonsens yw'r cwbl.
Mewn oes ddigrefydd Mae'n cael ei ddweud ein bod ni'n byw mewn oes ddigrefydd. Os wrth hynny y golygir nad yw pobl bellach yn tyrru i gapel ac eglwys fel oedden nhw ers talwm, mae hynny'n wir.
Ond mae'r arolygon barn yn awgrymu rhywbeth gwahanol - mae canran uchel o'r boblogaeth yn dal i gredu mewn "Duw" o ryw fath, ac mae diddordeb mawr mewn pethau sy'n cael eu galw'n "ysbrydol".
Dewch ar fy 么l i medd Iesu - dewch i weld beth sydd gen i i'w gynnig - chi sy'n teimlo bod bywyd yn anghyflawn mewn rhyw ffordd - chi sy'n chwilio - chi'n sy'n anniddig - dewch i weld 芒 yw'r hyn dwi'n ei gynnig yn help i chi gredu yn Nuw - yn help i feithrin a datblygu'ch bywyd ysbrydol chi.
Perthynas 芒 gwrthrych ein cred - ac yna hefyd, i'r rhai sydd am ymateb i'r alwad i ddilyn Iesu, ein perthynas 芒'n cymydog.
Wrth edrych ar weinidogaeth Iesu dwi'n gweld un sy'n gwahodd y rhai sy'n gwrando arno ac yn barod i ymateb i'r alwad i ddilyn, i wneud tri pheth: 1 i weld mewn ffordd radical, 2 i fyw mewn ffordd radical, 3 i drin eraill mewn ffordd radical.
Ac os am fwy o fanylion am y radicaliaeth yna, ewch eto i gyfeiriad y Bregeth ar y Mynydd yn Efengyl Mathew, sy'n s么n am y tlodion yn ein byd materol ni yn etifeddu teyrnas, a'r addfwyn yn ein byd treisgar ni yn etifeddu'r ddaear; sy'n dweud am garu gelyn; sy'n rhybuddio yn erbyn casglu trysorau ar y ddaear a'r demtasiwn i geisio addoli Duw a Mamon; sy'n ein hannog i geisio yn gyntaf Deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, ac i wneud i eraill pa beth bynnag y dymunem i eraill ei wneud i ni.
Bod yn dosturiol Mae'r elfen dosturiol yn gryf yn Iesu hefyd, a'i gydymdeimlad yn fawr tuag at y bobl sy'n byw ar ymylon cymdeithas, y bobl nad ydyn nhw bob amser yn dderbyniol gan y mwyafrif - mae hynny'r un mor radical heddiw ag oedd bryd hynny.
Yda ni fel Cristnogion wedi mynd i ofni bod yn radical?
Drannoeth cyhoeddi canlyniadau'r etholiadau lleol ac Ewropeaidd 7-8 wythnos 么l bellach, fe ddwedodd dau wleidydd rhywbeth dwi'n teimlo sy'n berthnasol i'n sefyllfa eglwysig ni y dyddiau hyn.
Doedd y Blaid Lafur, fel y cofiwch, ddim wedi gwneud yn rhy dda yn yr etholiadau. "Da ni wedi cael" - a dyfynnu dirprwy brif weinidog llywodraeth San Steffan, John Prescott, "da ni wedi cael 'good kicking.'" Cadeirydd y Blaid Lafur, Ian McCartney biau'r ail sylw, "Mae'r canlyniadau," meddai, yn 'wake up call' i ni."
Mae'r ddau sylw yn berthnasol i ni yn yr eglwysi - mae pobl wrth gefnu ar grefydd gyfundrefnol wedi rhoi cic go dda i ni - mae nhw'n dweud wrtha ni ei bod hi'n bryd i ni ddihuno.
Os am wneud hynny, dwi'n meddwl bod rhaid ailddarganfod y radicaliaeth sydd yn Iesu.
Mae Casnewydd cystal lle ag unman i s么n am radicaliaeth - radicaliaeth grefyddol a gwleidyddol a chymdeithasol. Yng nghanol y ddinas hon fe gewch chi Sgw芒r John Frost, yn coffau un o arwyr y Siartwyr, a'i safiad dros gyfiawnder cymdeithasol i werin gwlad - a'u gwrthdystiad mawr ar Dachwedd 5ed 1839 pan ddaeth miloedd o brotestwyr wyneb yn wyneb 芒 milwyr y tu allan i Westy'r Westgate - lladdwyd nifer, a chafwyd Frost a'r arweinwyr eraill yn euog o deyrnfradwriaeth a'u hanfon yn garcharorion i Awstralia.
Gwneud safiad Fel y dangosodd y Siartwyr, mae bod yn radical yn golygu gwneud safiad weithiau - a dyw hynny ddim bob amser yn hawdd.
Dwi'n cofio gweld poster yn Ysgol Basaleg lle bu c么r yr eisteddfod yn ymarfer yn ystod y misoedd dwetha - poster Saesneg yn dweud rhywbeth fel hyn: 'Saf dros yr hyn sy'n iawn, hyd yn oed os bydd rhaid i ti sefyll ar dy ben dy hunan.'
Pob clod i'r sawl roddodd y fath neges o flaen llygaid disgyblion Ysgol Basaleg.
Yn ein gorffennol ni a'n presennol ni, mae rhai wedi bod yn barod i sefyll dros yr hyn sydd iawn - yn enwog ac yn anenwog, yn hysbys ac yn anhysbys - ac wedi gwneud hynny mewn llu o ffyrdd gwahanol. Bydd yr enw Llanfaches yn golygu rhywbeth i rai ohonoch - pentref bychan ar ochr yr A48 yn mynd i'r Dwyrain o fan hyn i gyfeiriad Cas gwent a Phont Hafren - a chapel y Tabernacl, Llanfaches - a phobl fel William Wroth, William Erbury a Walter Cradoc. 1639 yw'r dyddiad pwysig, blwyddyn sefydlu'r achos Anghydffurfiol cyntaf y tu allan i'r Eglwys Wladol.
Pa fath ddynion oedd y rhain - yng ngeiriau R Tudur Jones yn ei gyfrol yn adrodd hanes Annibynwyr Cymru: dynion yn ymdeimlo "芒 grymusterau ysbrydol newydd; teimlent fod digwyddiadau cyffrous wrth y drysau; berwai ynni dieithr yn eu gwythiennau; breuddwydient freuddwydion cynhyrfus." (t.39) Dynion radical, yn gwneud safiad.
Mae eraill yn rhai sy'n gweld bod sefyll weithiau'n golygu rhoi llaw yn ddwfn i boced, neu'r sefyll sy'n golygu ochri gyda'r tlawd, y newynog, y rhai sy'n cael eu gorthrymu - y rhai, a fedra i mo'u henwi, fwy na allwch chi, y rhai sy'n dod i'n cartrefi yn gyson mewn bwletinau newyddion, ac fe welwn eu poen a'u hangen - ei weld, ie, ond fyddwn ni ddim yn ei deimlo.
Israeliaid a Phalestiniaid Sylweddolais i hynny ychydig dros flwyddyn yn 么l pan es i ar daith a drefnwyd gan Gymorth Cristnogol ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i Israel a Thiroedd y Meddiant.
Buom fel enwad yn casglu arian i bartneriaid Cymorth Cristnogol ymhlith yr Israeliaid a'r Palestiniaid, a chymryd Salaam a Shalom, 'tangnefedd' yn iaith yr Arab a'r Iddew, yn slogan i'r ap锚l. Gweld y boen oeddwn i wedi'i wneud - onid oeddwn wedi ysgrifennu amdano a'i ddarlledu fwy nag unwaith o Ystafell Newyddion Radio Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd ar hugain?
Ond ar 么l eistedd gyda Phalestiniaid oedd wedi colli cartrefi, colli tir, colli bywoliaeth, colli plant, colli gobaith, dechreuais ei deimlo - teimlo'r hyn yr oeddwn wedi'i weld - a sylweddoli hefyd, ac allwn ni ddim anghofio hyn, bod 'na ochr arall i'r cymhlethdod torcalonnus y galwn ni'n Wlad Sanctaidd, a bod na boen a cholled ymhlith teuluoedd Israelaidd hefyd. Roeddwn wedi gweld poen Gwlad Iesu fwy nag unwaith dros gyfnod o ddau ddegawd - ond roedd rhaid mynd yno i blith y bobl, roedd rhaid creu perthynas, er mwyn ei deimlo.
Yn ein hymwneud 芒'n cymydog 'da ni'n creu perthynas.
Yda ni'n clywed yr alwad.
Eisteddfod 1931 I gloi, dwi am fynd n么l i Eisteddfod Bangor 1931. Gwili oedd yr Archdderwydd... Gwenallt enillodd Y Gadair am ei awdl, Breuddwyd y Bardd, ond at enillydd Y Goron y flwyddyn honno dwi'n troi - y Parchedig Albert Evans-Jones - Cynan. O ddarllen y sylwadau ar wefan y 麻豆社 doedd y beirniaid - W J Gruffydd, Dyfnallt a J E Moelwyn Hughes ddim yn unfrydol wrth wobrwyo pryddest Cynan, "Y Dyrfa"
Mae'r gerdd "Y Dyrfa" yn adrodd hanes John Roberts - falle mai fe oedd ein Eric Liddle ni - Liddle oedd un o arwyr y ffilm drawiadol yna, Chariots of Fire - yr Albanwr oedd yn bencampwr Olympaidd yng ngemau Paris yn 1924.
Gwrthododd redeg ar y Sul oherwydd ei ddaliadau Cristnogol. Fydd na neb yn gwneud safiad fel 'na yn Athen yn ystod yr wythnosau nesaf. Maes o law fe aeth Liddle yn genhadwr i China.
Ond beth am y Cymro yma, John Roberts - dyn oedd wedi cael ei alw i chwarae rygbi dros ei wlad oedd hwn - ac mae'r gerdd yn mynd a ni i Twickenham, a John Roberts yn sgorio'r cais sy'n selio'r fuddugoliaeth.
Ond nid yn Twickenham yda ni yn gerdd, ond ar fwrdd llong lle mae arwr y bel hirgron wedi ymateb i alwad arall - yr alwad i ddilyn Iesu a mynd fel Liddle yn genhadwr i China.
Mae rhai o'i gyfeillion yn ei alw'n ffwl
- Ffwl, ffwl i'th gladdu di dy hun Yn China ddyddiau d'oes, A thaflu gyrfa aur i ffwrdd I s么n am 'Waed y Groes'!
Ond nid dyna fel mae e yn ei gweld hi: Tyrr gwawr y Dwyrain dros y llong gan newid lliwiau'r lli, A gwn yn awr yng ngolau'r wawr mai Ti sy'n iawn, Tydi O Grist, a'm dysgodd nad yw'r byd a'i holl wobrwyon maith Yn ddim i mi wrth ecstasi un foment yn dy waith.
Un o bobl ddoe a glywodd yr alwad i ddilyn Iesu.... Beth am heddiw? Dewch ar fy 么l i.
|