麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Cas-newydd: Gwilym dydd Mercher

Gwilym OwenMae Gwilym Owen yn y Steddfod ac yn darlledu ar y Post Cyntaf bob bore.






Ymweliad amserol
Cyfarchion unwaith eto o Barc Tredegar, lle mae olwynion yr hen genedl fach niwrotig yna yn dal i droi.

Rhodri Morgan ac Elfed Roberts Ac roedd 'na le i lawenhau yma ddoe. Ein Prif Weinidog hoff, Rhodri Morgan, oedd Llywydd y Dydd a wyddech chi fe gyrhaeddodd mewn da bryd i esgyn i'r llwyfan i gyflwyno ei neges am ddau o'r gloch.

Sy'n profi unwaith ac am byth ei fod o bellach yn gallu deud faint o'r gloch ydi hi - wel ar ei wats o leia' - beth bynnag am sefyllfa Cymru.

Purion Steddfod
Ac er bod y Steddfod eleni yng nghanol dalgylch poblogaidd y Western Mail digon tila ydi'r sylw i'r Brifwyl yn y papur.

A phwy ond un o is olygyddion trendi y rhecsyn o Gaerdydd fyddai'n cyflwyno stori dudalen flaen am y nifer fawr o ymwelwyr sydd ar y maes am y tro cyntaf gyda'r pennawd "Eisteddfod Virgins flock in."

Dewis anffodus mewn cyswllt anffodus. Ddeuda i ddim mwy.

Fawr o hwyl
A rŵan at gyhoeddiad arall newydd sbon, Dim Lol y cylchgrawn dychanol ar gyfer pobl ifanc Cymru.

Ond rhaid imi ddeud y byddai "Dim Hwyl" yn well teitl i'r rhifyn cynta' 'ma.

Rywsut mae'r golygydd druan wedi syrthio rhwng dwy st么l.

Gwell hwyl y tro nesa' falla a beth am wrthod sylwadau maleisus personol ambell i gyfryngi chwerw sy'n defnyddio ei ryddid i golbio cydweithwyr yn ddienw.
Hen arfer Cymreig cas ydi hynny.

Croeso n么l?
A throi o falais at ddiniweidrwydd neu anwybodaeth un o aelodau Pwyllgor Gwaith Prifwyl Casnewydd - gwraig weithgar a chydwybodol.

Wrth ei dyletswyddau yn y pafiliwn yn 么l pob s么n ac yn sydyn yn dod wyneb yn wyneb 芒'r Prifardd J芒ms Niclas yr oedd hi wrth ei bodd.

"Dwi wedi bod isio'ch cyfarfod chi erioed" medda hi. "Sut ydach chi Cynan.?"

Dwn i ddim beth oedd yr ymateb na beth ddywedwyd wedyn!

Ei chop茂o hi
Ond yn sicr fe ges i ymateb sydyn iawn i'r cwestiwn ofynnais i bore ddoe ynglŷn ag absenoldeb adroddiad blynyddol y Brifwyl ar y We, fel yr addawyd mewn llythyr at aelodau'r Llys rai wythnosau'n 么l.

O fewn awr i'm darllediad ar y Post Cyntaf roedd yna gopi o'r cyfrwy adroddiad o'm blaen yn Ystafell y Wasg ac fe'm ceryddwyd gan y Cyfarwyddwr, Elfed Roberts, fod copi ar gael i bob aelod o'r Llys sy'n dymuno hynny cyn y cyfarfod blynyddol bore fory.

Cyd ymdrechu
A dau gwestiwn bach i orffen.

Yn gyntaf onid gwastraff amser ydi'r ffaith fod Cymdeithas yr iaith Gymraeg a Cymuned wedi penderfynu cynnal dau gyfarfod cyhoeddus - un ar 么l y llall - ym Mhabell y Cymdeithasau - rhwng dau a phedwar y pnawn ma.

Dowch dowch hogia bach. Mewn undeb mae nerth.

Drachtio diwylliant
A'r ail gwestiwn ydi hwn.
Ydi'r Prifeirdd Meirion MacIntyre Huws a Twm Morysfgh ynghyd 芒'r Prif Lenor Robin Llywelyn wedi peri gofid mawr i Feistres y Gwisgoedd yng Ngorsedd y Beirdd trwy benderfynu mynd am beint ar y maes yn eu gwisgoedd gorseddol ddydd Llun?

Tybed a fydd yna gyfarfod i'w disgyblu.
O Barc Tredegar, bore da.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 麻豆社 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy