| |
Cas-newydd Gwilym Owen - dydd Llun
Mae Gwilym Owen yn y Steddfod ac yn darlledu ar y Post Cyntaf bob dydd.
Bore da ar fore Llun o Barc Tredegar ar gyrion Dinas Casnewydd. Ydi, mae olwynion y jyncet fawr flynyddol wedi dechra troi ac eisoes mae'r sylwebwyr wedi bod yn defnyddio hen eiriau bach annifyr a phoenus, fel 'croesffordd', 'trafferthion ariannol', y rheol iaith, cwangoeiddio gweinyddiaeth yr Wyl.
Ydi, mae'r codwyr crach a'r corddwyr wedi bod wrthi'n barod. Ond peidiwch a disgwyl mwy o hynny gen i'r bore 'ma.
Bod yn bositif mewn dyddiau dreng dyna'r her yn nwy fil a phedwar. Ac mae yn ddigon o bethau i godi calon rhywun ar y maes yma.
Ta ta Cwangos Eleni falle fydd y tro olaf inni weld adeiladau mawr a smart yr hen Gwangos druan sydd wedi bod yn ei lordio hi yn flynyddol ar faes y Brifwyl.
Bellach mae'r gwron o Brif Weinidog hoff wedi tanio ei fasten gyntaf ac mae coelcerth y Cwangos ar fin cychwyn.
A gwynt teg ar eu holau nhw ddweda i.
Siawns na fydd angen maes mawr anghenfilaidd yn y dyfodol ac y bydd hi'n bosib mynd a'r Ŵyl i Lyn ac Eifionydd hyd yn oed.
Gorsedd gallach A dyna ichi newyddion da arall eleni. Fe all Robin Llyn a'i gyd orseddogion aros yn eu gwelyau y bore 'ma. Mae'r seremoni gyntaf ar y maes ei hun am unarddeg. - amser callach o lawer.
A siawns na fydd yna fwy o raen ar y digwyddiadau yn wyneb haul llygad goleuni.
Ond mae yna nodyn trist wrth gwrs. Eleni ydi'r tro olaf inni weld y meini carreg go iawn. Rhai plastig fydd ar faes y Faenol y flwyddyn nesa.
Ond problem i Archdderwydd newydd fydd honno.
Dwy syrcas? Ond falle bod gan Robin Llyn un broblem fechan heddiw hefyd. Oherwydd ar yr union amser pan fydd ef a'i giang yn gobeithio denu'r cannoedd o gwmpas y Cylch mae moderniaid marchnata Prifwyl Casnewydd wedi trefnu digwyddiad tebyg ar y Llwyfan Perfformio newydd ar y maes.
Ie, wir i chi am unarddeg hefyd y gwelwyd perfformiad cyntaf y Syrcas Eisteddfodol go iawn.
'No Fit Circus' oedd i henw hi.
Ddeuda o ddim ond awgrymu y gallai'r amseru fod wedi bod yn embaras i'r rhai oedd yn ei chael hi'n anodd i ddewis rhwng un syrcas ac un arall. Dim ond tynnu coes wir yr
Bocs sinig A dyna ichi syniad gwerth chweil mae Pwyllgor Llên y Brifwyl yma wedi'i gael. Rhoi hanner awr bob pnawn i rywun neu rywrai fynd ar y Bocs Sebon yn y Babell Lên.
Cyfle i unrhyw sinig neu sinach crintachlyd chwythu 'ffiwsan' yng ngwydd y genedl a theimlo'n well gobeithio.
Falle yr a i yno cyn diwedd yr wythnos, ond falle mai chwilio am sinig newydd maen nhw.
Lingo heddiw A rwan mwy o newyddion positif - y tro hwn o gyfeiriad Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Heno mae'r cylchgrawn Tacsi a noddir gan y Bwrdd yn trefnu gig ym Maes B ac yn unol a'r slogan, 'No Welsh. No Worries' - sy'n cael cefnogaeth y Bwrdd - grwp cwbl Saesneg, Goldi Lookin Chain fydd y sêr yno.
Go dda rhen Lingo Cwango - rhoi arweiniad dyna ydio!
Disychedu A nodyn gobeithiol arall cyn gorffen. Fedra neb gyhuddo trefnwyr y Brifwyl hon o drefnu Steddfod sych.
Mae na ddigon o ddiod ymhob man a'r Duw Bacws yn sicr ar ei orsedd, gyda bariau yfed ar gyfer Maes B yn TJs a'r NCLA.
Maes C, wedyn, yng nghlwb 'Whiteheads' ac wrth gwrs galwyni dihysbydd o gwrw 'Brains' ar y mae ei hun.
Ond chwarae Teg mae yna ychydig o gydwybod gymdeithasol hefyd. Lysh ydi'r Ddrama Gomisiwn yn Theatr Dolman - gwaith sy'n delio â phroblem alcoholiaeth. Chwarae teg i'r Sanhedrin.
Iechyd da felly i Brifwyl Casnewydd a Bore Da o Barc Tredegar.
|
|
|
|