Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹Éç Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Gigs : Heather, Drumbago a Bechdan Jam

Bechdan JamGig Cymdeithas yr Iaith ar nos Lun

Colli Tir - Colli Iaith yw enw noson agoriadol gigs Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, a Bechdan Jam, band ifanc o'r gogledd, sy'n agor y noson. Er nad oedd y lle yn llawn, mae tri aelod o'r band yn llwyddo i lenwi'r llwyfan, a'r ystafell, gyda'i caneuon roc a phop. Dim byd gwreiddiol efallai - ond digon o botensial.

Dwi'n meddwl mai'r amrywiaeth cerddoriaeth rhwng y bandiau oedd yn chwarae oedd un o'r prif resymau i mi fwynhau'r noson cymaint. Ac yn sicr, roedd Heather Jones, gyda'i llais peraidd, yn wrthgyferbyniad llwyr i ganeuon roc y grŵp ifanc blaenorol.

Dyma'r tro cyntaf i'r band chwarae gyda'i gilydd ar lwyfan, ac mae'n rhaid dweud eu bod yn cydweithio'n dda. Gyda dau lais yn gefn i'w un hi, mae'r caneuon yn harmoniaidd ar adegau, ond yn sicr yn swynol ac yn cymryd sylw y gynulleidfa ar bob adeg.

Gyda Heather Jones yn chwarae'r gitâr acwstig a gitâr drydan yn bresennol hefyd, ceir amrywiaeth i'r caneuon - rhai yn araf ac yn gwneud i chi eisiau cysgu, ychydig o roc nawr ac yn y man - a hyd yn oed blues ar adegau. Mae'r band cyfan i'w gweld yn mwynhau mas draw ar y llwyfan, ond Heather Jones ar ei phen ei hunan sy'n darparu uchafbwynt y set, gyda Colli Iaith.

Yn syth, mae llygaid pawb yn troi at y llwyfan, a'r goleuadau'n cael eu diffodd yn y neuadd - pawb yn canolbwyntio ac ar goll yn llais hyfryd Heather. Amhosib peidio cymryd sylw o'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan, ac mae geiriau'r gân yn ychwanegu at pa mor arbennig - a pherthnasol i'r noson - yw'r perfformiad.

Unwaith eto, band hollol wahanol i'r un cynt sy'n ymddangos nesaf - sef Drumbago. Rhaid cyfaddef mod i ddim yn gwybod llawer am y band yma - dim ond eu bod nhw'n hollol wych. Ar ôl clywed cymaint am y band, doeddwn i methu aros i'w gweld nhw'n fyw, ac yn sicr wnaethon nhw ddim siomi. Rhaid cyfaddef hefyd mod i ddim yn siwr sut i ddisgrifio'r gerddoriaeth - ond dwi'n meddwl bod hi'n iawn i ddweud nad oes band arall yn y Sîn Roc Gymraeg sy'n medru gwneud cynulleidfa i ddawnsio cymaint â'r band yma!

Gobeithio bydd albwm allan cyn hir, ond os am damaid i aros pryd, ceir dwy gân gan Drumbago i'w lawrlwytho ar www.unarddeg.com

Lowri Johnston - gigwraigDyma'r band sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r Sîn ar y foment - ewch i'w gweld yn bendant!

Gyda Ian Cottrell fel DJ yn darparu amrywiaeth o ganeuon rhwng y bandiau mae wedi bod yn noson wych, ac yn ddechrau grêt i wythnos sy'n addo bod yn llwyddiant ac yn lot fawr iawn o hwyl!

Adolygiad gan : Lowri Johnston

Am wybodaeth am gigs yr wythnos - cliciwch yma.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹Éç yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý