Gigs: Pep Le Pew, Lo-Cut a Sleifar a Jakakoyak
Tri band sydd ar y rhestr heno - Pep Le Pew, Lo-Cut a Sleifar a Jakakoyak i agor y noson.
Fe welais Jakakoyak neithiwr yn gig Maes-B yng nghlwb TJs yng Nghasnewydd, a does dim llawer o wahaniaeth i'w set heno, sy'n llawn o ganeuon fel 'Am Cyfan Dy Pethau Prydferth'.
Set da iawn, ac yn grêt ar gyfer agor y noson gan ei fod mor ymlaciedig, ac yn hawdd gwrando arno. Fel neithiwr, 'Paid a gadael iddyn nhw dynnu fi lawr' yw uchafbwynt y set i mi, ond hefyd mae 'Novella' yn dod yn agos i'r brig. I orffen y set, mae'n chwarae cân newydd o'r enw 'Subway'. Mae'n swnio'n reit debyg i'w ganeuon eraill ar y grandawiad cyntaf, ond mae mwy o elfen o roc iddi. Ychydig o flas o'r hyn sydd i ddod gan Jakakoyak efallai?
Ti'n smeli?!
Yn ail i ymddangos yw Lo-Cut a Sleifar, sydd newydd ryddhau eu albwm cyntaf, Miwsig i'ch traed a miwsig i'ch meddwl. Mae'r albwm yn wych - CD y flwyddyn yng Nghymru o bosib - prynwch hi! Yn agor y set mae 'Sefyll fel un' sydd wedi ei hysgrifennu am Streic y Penrhyn, ond uchafbwynt y noson yw 'Smeli'. Fedra i addo i chi, pan glywch chi'r gân yma, bydd e'n sownd yn eich pen am oesoedd! Mae ganddo'r gytgan mwya' catchy erioed;
"Ti'n smeli, ma' 'na farcie dros dy wely,
Ti'n drewi, ti'n gwneud plant bach gyfogi
Ti'n smeli..."
Set dda iawn - 'Miwsig i'ch traed a Miwsig i'ch Meddwl' hefyd yn gân wych. Dwi'n teimlo y gall y set fyw ddatblygu, ond bydd hyn yn digwydd wrth iddynt chwarae mwy o gigs. Maen nhw wedi datblygu llawer yn barod ers dechrau chwarae'n fyw yn reit ddiweddar, ac felly dwi methu aros i'w gweld nhw'n datblygu ymhellach.
Huw Stephens a Bethan Elfyn yw'r DJ's heno, gyda digon o amrywiaeth o ganeuon i ddiddanu pawb rhwng y bandiau.
Pep Le Pew sy'n cloi'r noson. Erbyn hyn, mae'r llawr ddawnsio yn llawn a pawb yn mynd yn wyllt - amhosib peidio yng nghwmni'r band yma. Uchafbwynt y set i mi yw 'Y da y drwg a'r hyll' sy'n cloi'r noson. Mae'r set gyfan yn ffantastig - mae wedi bod blwyddyn gron ers i mi weld Pep Le Pew ddiwethaf ac felly mae'n braf gweld nhw eto. Aron ar ei orau yn diddanu'r gynulleidfa, a Dyl Mei yn troelli ar y decs.
Noson dda iawn, pob band wedi bod yn werth eu gweld ac wedi mwynhau mas draw!