麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur: fore Gwener

Lowri Johnston - gigwraigDyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod

Ar 么l treulio'r noson yng Nghaerdydd nos Fercher, dwi'n teimlo llawer yn well dydd Iau. Mae'n syndod cymaint o wahaniaeth mae noson dda o gwsg yn gwneud i rywun! Felly dwi'n ceisio ffeindio fy ffordd yn 么l o Gaerdydd - dwi'n cas谩u dreifio mewn dinasoedd ac ar y draffordd - felly dwi ddim yn mwynhau'r siwrnau o gwbl.

Yn syth i faes yr Eisteddfod ar 么l dychwelyd, gweithio tan dri unwaith eto ac yna draw i weld gem b锚l droed rhwng Cymdeithas yr Iaith a bandiau y S卯n Roc Gymraeg, ac mae'n g锚m ddiddorol a dweud y lleiaf.

Dwi ddim yn gwybod llawer am b锚l droed, dwi ddim am esgus mod i, ond dwi'n gwybod digon i wybod bod Cymdeithas yr Iaith wedi ennill o saith g么l i bump! Llongyfarchiadau iddynt...

Am dro o gwmpas maes yr Eisteddfod wedyn. Mae llawer o stondinau diddorol ar y maes, ond dwi'n teimlo bydd angen wythnos gyfan arall arna i er mwyn cael cyfle i'w gweld nhw gyd!

Profi gwaed
Dwi'n cas谩u gwaed, ac yn cas谩u nodwyddau gyda chas perffaith. Er hynny, dwi'n cael fy mherswadio i gael fy ngwaed wedi profi i weld pa gr诺p gwaed sydd gen i. Mae'r nodwydd yn fach iawn iawn (iawn) - a dweud y gwir, dwi ddim yn si诺r os dwi'n cael ei alw yn nodwydd gan ei fod mor fach, ond dwi am wneud er mwyn fy ngwneud i deimlo'n well mod i wedi bod yn ferch ddewr!

Felly, dyna fi, yn eistedd ar y gadair gyda fy mys bawd yn barod i gael ei bigo a nghalon yn curo ffwl pelt. Cau fy llygaid yn dyn, ac yn gwedd茂o i Dduw na fydd y dyn yn dwyn fy ngwaed i gyd. Un pigad bach, ac mae popeth drosodd. Agor fy llygaid a dwi dal yma, mae fy mawd dal yn sownd i'm llaw, ac yn bwysicach fyth, dwi'n cymryd bod gen i waed ar 么l! Y cam nesaf fydd rhoi gwaed...

Mae'n debyg mai O negatif yw fy ngr诺p gwaed, a dwi'n cael daliwr allweddu bach del i ddangos i'r byd. Ar 么l yr holl ddewrder, dwi'n teimlo mod i'n haeddu sglodion, felly draw i n么l bwyd. Dwi bron 芒 chael harten pan mae'r dyn wrth y cownter yn gofyn am 拢4 am sglodion a 3 darn o chicken nuggets (dylanwad fy ffrind sy'n Gardi) a dyna fy arian am y dydd wedi mynd!

Mynd i bwdu yn y babell roc am ychydig, ac yn gweld Meic Stephens yn chwarae set wych. Mae e'n llawn hwyl, er ei bod yn danbaid yn y babell, ond mae'n werth berwi yno i glywed 'Ysbryd Solfa'.

Yn 么l i'r babell wedyn, a gorwedd yn yr haul am ychydig o oriau gan drafod pa gig i fynd i weld heno. Cymdeithas yr Iaith sy'n mynd 芒 hi yn y diwedd, er bod y gig yn TJ's yn ein denu gan fod Drumbago, Mwsog, Cate Timothy a'r Poppies yn chwarae yno. Ond, y peints rhad a Pep Le Pew, Lo-Cut a Sleifar a Jakakoyak sy'n mynd 芒 hi, felly draw i Glwb Pont Ebwy.

Noson wych, ac o fewn dim mae'n amser dychwelyd i'r maes pebyll, ac ar 么l tipyn o drafferth i ddod o hyd i'r babell (dim fy mai i - gormod o bebyll newydd wedi cyrraedd yn ystod y dydd), rydyn ni'n mynd draw at y goelcerth gan aros yno tan oriau m芒n y bore, ac mae'n dechrau goleuo wrth i ni gropian draw at y babell.

Diwrnod diddorol iawn, dwi methu credu pa mor gyflym mae'r wythnos yn hedfan, gyda dim ond dwy noson ar 么l!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 麻豆社 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy