Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Â鶹Éç Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Gwerthu cerddi dros Batagonia

Gerallt Lloyd Owen - cyfle i brynu un o'i gerddiYn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd bydd arwerthiant o gerddi am y Wladfa gan rai o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru yn eu llawysgrifen wreiddiol.



Bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu rhaglen addysg Gymraeg yn Nhrelew, Patagonia.

Mae cymuned Gymraeg Trelew yn hel arian i brynu adeilad pwrpasol i gartrefu Ysgol Feithrin Gymraeg ac i ddarparu lle i gynnal dosbarthiadau Cymraeg a gweithgareddau eraill.

Mae'r cerddi, gan:
Gerallt Lloyd Owen,
Dic Jones,
Myrddin ap Dafydd,
Iwan Llwyd,
Twm Morys a
Grahame Davies.

Gellir eu gweld ym mhabell Cymdeithas Cymru Ariannin ar vy Maes.

Cesglir cynigion gydol yr wythnos a'r pris uchaf fydd wedi dod i law cyn diwedd yr wythnos fydd yn llwyddo.

Ysgol feithrin
Meddai Catrin Morris de Junyent, sy'n wreiddiol o Gymru ond sydd bellach wedi cartrefu yn Nhrelew:
"Mae'r ganolfan newydd yma yn hanfodol i barhad a chynnydd y Gymraeg yn Nhrelew. Ar hyn o bryd yr ydym yn cynnal gweithgareddau yn festri Capel Tabernacl Trelew ond mae'r lle yn rhy fach i ateb ein gofynion.

"Mae'r adeilad yr ydym wedi dod o hyd iddo ar werth am US$40,000 sydd bron yn $120,000 peso erbyn hyn, neu tua £25,000. Mae'n swm anferth i'w godi ble bynnag ydych chi, does dim dwywaith am hynny, ond y gwir ydy na fedrwn ei godi yma ym Mhatagonia ar ein pen ein hunain."

Ychwanegodd fod yr Ysgol Feithrin yn mynd o nerth i nerth dan arweiniad Shirley James, Judith Jones a Romina Herrera.

'Yr orau'
"Credwn mai dyma'r ysgol feithrin orau yn Nhrelew nid yn unig am ei bod yn un cyfrwng Cymraeg ond hefyd o ran ansawdd yr addysg a roddir i'r plant bach.

"Ers ei sefydlu, mae cyfrannu addysg ragorol wedi bod yn un o brif nodau'r ysgol gan ein bod o'r farn mai dyma'r unig ffordd i ennill cydymdeimlad a chefnogaeth rhieni i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Eleni rydym wedi ymestyn y ddarpariaeth i gynnig dwy awr a hanner bob prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cynigiwn hefyd ddosbarth ôl-feithrin dair gwaith yr wythnos, a dosbarth i bobl ifanc yn eu harddegau. Ein gobaith yw medru cynnig dosbarth bob bore a phob prynhawn y flwyddyn nesaf. Bydd wedyn yn ysgol drwy'r dydd a byddai pwysigrwydd symbolaidd iawn i hynny.""

Dywedodd y byddai darpariaeth o'r fath yn sail i ddatblygu addysg gynradd Gymraeg yn Nhrelew, sy'n cydfynd ag argymhellion gan yr Athro Robert Owen Jones i'r Cynulliad Cenedlaethol yn Rhagfyr 2003.

"Ers 1997 mae'r Cynllun Dysgu Cymraeg ym Mhatagonia wedi bod yn darparu arian i anfon athrawon o Gymru i Ddyffryn Camwy a'r Andes. Mae'r cynllun hwnnw yn dod i ben ymhen dwy flynedd a byddai prynu'r ganolfan yma yn sicrhau dyfodol mwy cynaladwy i addysg Gymraeg yn Nhrelew yn y tymor hir," meddai.

Cefnogir y cynlluniau gan Gymdeithas Gymraeg Trelew a Chymdeithas Dewi Sant.

Gellir gwneud cyfraniad yn uniongyrchol at: 'Canolfan Trelew', Banc y Nat West, Sgwar Uxbridge, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5AR, gan wneud sieciau yn daladwy i 'Canolfan Trelew'.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y Â鶹Éç yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý