| |
Medal Lenyddiaeth
Mymryn o lwyddiant i Annes
Un o hoff eiriau ei thad a roddodd i enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Casnewydd deitl i'w chasgliad o straeon meicro buddugol.
Wedi iddi gwblhau ei straeon dywedodd Annes Glynn iddi fynd i bori drwy'r geiriadur i chwilio am deitl.
"A phan welais i'r gair symudliw mi gofiais ei fod yn un o hoff eiriau fy nhad ac yn air yr oedd o'n hoff o'i ddefnyddio."
Yr oedd o hefyd yn air a dybiai oedd yn cyfleu natur y gyfrol a enillodd gymaint o ganmoliaeth gan feirniad y gystadleuaeth, Harri Parri, Hafina Clwyd a John Rowlands.
"Mae'n air," meddai, "sy'n cyfleu sut mae madfall yn newid ei liw ar gyfer ei amgylchedd ac rwy'n gobeithio y bydd darllenwyr gwahanol yn dod a lliw gwahanol i wahanol straeon," meddai.
Dyma'r tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i lên meicro ennill un o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ond er bod gwaith Mymryn yn bytiog ar un olwg, dywedodd Harri Parri wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid fod "hyd, lled, dyfnder, uchder, undod a phatrwm" i'r gwaith.
Un o rinweddau'r gwaith, meddai, oedd osgoi magl geiriogrwydd y mae sgrifennwyr rhyddiaith mewn perygl o gael eu dal ynddi.
"Gellid ystyried y gyfrol naill ai'n ddilyniant o ddarnau gorffenedig o ryddiaith neu'n gadwyn o gerddi cain," meddai gyda "pob rhyw ddernyn yn rhyddiaith greadigol ac yn rhan o sampler gorffenedig."
Ychwanegodd mai rhagoriaeth bennaf yr awdur yw bod "yn gonsuriwr geiriau".
"Bendithwyd Mymryn â'r ddawn honno ac mae graen arbennig ar yr hyn a adeiladodd. Ysgrifenna'n hynod delynegol," ychwanegodd.
Dywedodd Annes Glynn mai'r testun "Newid" a'i sbardunodd i gystadlu ond mai'r bwrioad gwreiddiol oedd cyfansoddi nofel.
"O fynd ati i sgwennu yr oedd rhain jyst yn dŵad," meddai am y mân straeon gan ei gorfodi i benderfynu mai cadwyn o'r rheini fyddai'n gweddu orau.
Y rhan anoddaf o'r gwaith oedd caboli'r straeon yn rhai gorffenedig.
Hwn oedd yr ail dro iddi gystadlu am y fedal ac fe ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth Storiau Meicxro y llynedd.
|
|
|
|