Rhannu arian Plant ar y Maes
Mae Pudsey ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sadwrn yn rhannu grantiau Â鶹Éç Plant Mewn Angen i helpu plant a phobl ifanc.
Yn gynharach eleni, yn rownd gyntaf y ceisiadau am grantiau, rhannwyd gwerth hyd at £1, 254, 170. Bydd arian dydd Sadwrn yn £1, 073, 559 arall sy'n gwneud cyfanswm Cymru eleni y mwyaf erioed gyda 142 o gynlluniau ar eu mantais.
Bydd prosiect iechyd meddwl yn Sir Benfro yn derbyn £91, 356 dros dair blynedd a bydd £450 ar gyfer offer anghenion arbennig mewn meithrinfa ym Stad Parc Caia yn Wrecsam.
Bydd arian hefyd i : £35, 803 i Gymdeithas Trigolion a chymuned Phillipstown. Bydd yn mynd tuag at benodi gweithiwr ieuenctid a gweithiwr technoleg gwybodaeth ar gyfer y prosiect pobol ifanc yn Phillipstown, 9fed cymuned mwyaf difreintiedig Cymru.
£34, 886 ar gyfer cynlluniau PPA ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd. Bydd yr arian yn mynd i roi cefnogaeth bellach i grwpiau meithrin i blant sydd â phroblemau ymddwyn.
£34, 375 i Ganolfan St Briavels sy'n darparu therapi ar gyfer plant sy'n dioddef o barlys yr ymennydd. Bydd yr arian yn galluogi plant na fyddai'n gallu fforddio mynd yno yn arferol, i dderbyn triniaeth yno.
£28, 475 i gynllun Crossroads Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi plant sy'n gofalu am aelodau o'u teuluoedd.
£19,956 i Fairbridge Cymru. Bydd yr arian yn talu am gydlynydd ar gyfer y prosiect i helpu plant sy'n wynebu problemau, a'u cynorthwyo i gyrraedd eu potensial.
£18, 378 i'r Central African Association sy'n cynnig addysg ychwanegol i blant sydd wedi eu cartrefu yn ne Cymru, yn blant i geiswyr lloches neu ffoaduriaid o wledydd Affrica sydd mewn rhyfel.
£12, 050 i'r Mudiad Ysgolion Meithrin i ddatblygu therapi cerddorol i blant sydd o dan anfantais.
£11, 009 i Glwb R.O.C.K , sef clwb ar ôl oriau'r ysgol, i dalu am 2 gweithiwr yn ardal Abertyleri.
"Rhai enghreifftiau yn unig yw'r rhain o'r ystod eang o waith sy'n cael ei gyflawni gan sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, gyda chymorth Â鶹Éç Plant Mewn Angen," meddai Marc Phillips, Cydlynydd Cenedlaethol Â鶹Éç Plant Mewn Angen.
"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni, oherwydd haelioni pobol Cymru, yn gallu cynnig mwy a grantiau nag erioed o'r blaen.
"Ond fe wyddom hefyd bod y galw am gymorth yn fawr - bron i 5 gwaith yn fwy na'r hyn allwn ni ei gynnig heddiw. Am bob un sefydliad dderbyniodd arian heddiw, rydym hefyd wedi gorfod gwrthod llawer o geisiadau haeddiannol."
|