Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwenllian: Tywysoges y Deheubarth
Hanes Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth a'r frwydr ym Maes Gwenllian rhyw filltir o Gydweli.
Mae stori Gwenllian yn symboleiddio dewrder gwragedd Sir Gâr cymaint ag oedd Buddug yn symboleiddio dewrder y gwragedd Celtaidd o dan deyrnasiad y Rhufeinwyr. Cadwodd ei gweithredoedd ei henw fel gwir arwres yn yr oesoedd ar ôl hynny.

Lleolir Maes Gwenllian milltir i'r gogledd o Gydweli. Dyma safle brwydr sy'n gysylltiedig ag un o'r gweithredoedd mwyaf arwrol yn hanes Sir Gâr.

Mae enw'r maes yn coffáu dewrder Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth. Bu'r Deheubarth yn un o'r teyrnasoedd cryfaf yn y cyfnod hwnnw cyn goresgyniad y Normaniaid ac yr oedd ei diriogaethau yn cynnwys Sir Gâr , gyda'i phrifddinas yn Ninefwr, ger Llandeilo.

Wedi marwolaeth Harri'r cyntaf Lloegr ym mis Rhagfyr 1135, ymunodd dynion y Deheubarth â gwrthryfel yn erbyn teyrnasiad yr Eingl-Normanaidd. Codwyd byddin yn Sir Frycheiniog a gorymdeithiodd i'r de i ymosod ar Normaniaid Arglwyddiaeth Gŵyr. Cafwyd brwydr yn agos i Gasllwchwr a lladdwyd 500 o Normaniaid. Achubodd Gruffudd ap Rhys ar y cyfle i geisio gwthio'r Normaniaid allan o'i diroedd.

Ceisiodd ffurfio cynghrair gyda'r Tywysog Gruffudd ap Cynan. Gadawodd Gruffudd i fynd i'r Gogledd i geisio ennill cefnogaeth dros ryfel newydd dros annibyniaeth. Dyma'r adeg dyngedfennol pan ddechreuodd arweinydd y Normaniaid, Maurice de Londres, Arglwydd Cydweli, ei wrthymosodiad ei hun yn erbyn y Deheubarth.

(Daeth yr wybodaeth uchod o wefan Gymunedol Cwm Gwendraeth yn wreiddiol.)

Ydych chi'n gwybod fwy am yr hanes? Cyfrannwch yn y blwch isod.



Cyfrannwch

Rhian Eglwyswrw
Roedd Gwenllian yn dywosoges hyfryd a dewr iawn.
Mon Jan 21 20:41:29 2008

Angharad o Gwytherin
rydw i yn meddwl ei bod yn dywysoges ddewr iawn dros ben
Mon Feb 19 19:29:39 2007

Bleddyn, Llandudoch
Bu iddi farw tra’n ymladd dros y Cymry yn erbyn yr Arglwydd Normanaidd, Marice de Londres.
Tue Jan 23 19:46:01 2007

Ffion, Clunderwen
Rydyn ni yn astudio am Gwenllian yn yr ysgol ac oedd hi wedi farw yn 1136.
Mon Jan 22 21:01:55 2007

Ffion, Maes-y-felin
Rydw i yn mynd i'r un ysgol â Gwyndaf a rydw i hefyd yn astudio Gwenllian o Gydweli, rydw i yn meddwl fod Gwenllian yn Dywysoges hyderus iawn
Wed Jan 17 19:12:47 2007

Gwyndaf, Efailwen
Rydyn yn gwneud Gwenllian yn yr ysgol ac roedd yn gweud yn y llyfr, mae gan Gwenllian 4 mab o'r enw Meredudd, Rhys, Maelgwn a Morgan.
Tue Jan 16 17:20:19 2007


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý