Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwm Abergwaun Adnabod Ardal - Abergwaun
Mae'r ardal hon yn cynnwys tref Abergwaun sydd ar arfordir gogleddol Penfro a'r pentrefi cyfagos.
Mae dwy ran i dref Abergwaun sef y dref newydd a Chwm Abergwaun, yr hen dref a ddatblygodd o amgylch yr harbwr.

Yn ystod y 16eg ganrif roedd Cwm Abergwaun yn borthladd prysur. Roedd tipyn o fasnachu yn digwydd yma. Penwaig oedd y prif fasnach ac roedd tomen ohonyn nhw'n cael eu hallforio mor bell â gwledydd môr y Canoldir. Yn ystod y 19eg ganrif adeiladwyd iard longau yma.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif datblygodd porthladd Wdig a dirywio wnaeth porthladd Cwm Abergwaun. O Wdig y bydd y llongau yn hwylio i Iwerddon heddiw.

Cwm AbergwaunMae Cwm Abergwaun yn llecyn hardd gydag awyrgylch arbennig. Dyma leoliad y ffilm 'Under Milk Wood' a 'Moby Dick'. Gwnaethpwyd 'Under Milk Wood' ym 1971 gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor. Ar lan y môr yng Nghwm Abergwaun mae carreg sy'n coffáu'r digwyddiad hwn.

Ffrancod yn Abergwaun
Ni ellir meddwl am Abergwaun heb gofio am laniad y Ffrancod, un o'r digwyddiad rhyfeddaf yn hanes Cymru.

Ar Chwefror 22ain 1797 glaniodd byddin fechan o longau Ffrengig ger Carreg Wastad dair milltir i'r gorllewin o Abergwaun. Roedd yr ymosodiad yn rhan o'r rhyfel rhwng Ffrainc a Phrydain a ddechreuodd yn 1793, wedi'r Chwyldro Ffrengig ym 1789. Roedd Ffrainc yn berchen ar y fyddin gryfaf yn y byd. Felly aeth y newyddion bod y Ffrancwyr wedi glanio yn Abergwaun o amgylch y wlad fel tân gwyllt gan greu panig llwyr.

Wedi glanio aeth y fyddin ati i ysbeilio ffermdai a thyddynnod Pen-caer gan yfed y casgenni gwin oedd yn cael eu cadw yma wedi i'r perchnogion eu cludo o long smyglo oedd wedi ei dryllio ar y creigiau cyfagos.

Tra roedd dynion Penfro'n ymgasglu ynghŷd i'w hymladd casglodd gwraig leol o'r enw Jemeima Nicholas grŵp o ferched ynghŷd. Ymosododd y merched ar y Ffrancod yn gwisgo'r wisg Gymreig.

Roedd y Ffrancwyr erbyn hyn yn feddw wedi iddyn nhw fod yn yfed ar ôl glanio a dychrynodd y llu pan welsant y merched yn gwisgo'r wisg draddodiadol gan ildio. Dywedir bod Jemeima ei hun wedi ymladd tua deuddeg ohonynt gyda dim ond picfforch a'u dwyn i dref Abergwaun i'w rhoi dan glo.

Dridiau yn ddiweddarach ildiodd y Ffrancwyr i'r Arglwydd Cawdor gan osod eu harfau ar draeth Wdig.

Heddiw mae cofeb i goffau'r glaniad ar yr arfordir yng Ngharreg Wastad ac mae hysbysfwrdd yn adrodd yr hanes ger porthladd Wdig.

Yn 1997 er mwyn dathlu dau ganmlwyddiant y glaniad lluniwyd tapestri mawr fel tapestri Bayeux yn adrodd yr hanes. Mae hwn yn cael ei arddangos yn Neuadd Eglwys y Santes Fair ar sgwâr Abergwaun ac ym mynwent yr eglwys honno mae bedd Jemeima Nicholas.

Tafarn y Royal OakAr ganol y sgwâr mae tafarn y Royal Oak. Dyma lle'r oedd pencadlys y dynion lleol yn ystod goresgyniad y Ffrancod ym 1797 ac yma'r arwyddwyd y cytundeb rhwng y Cymry a'r Ffrancwyr yn cadarnhau bod y Ffrancwyr yn ildio.

Cysylltiad D.J. Williams ag Abergwaun
Cysylltir Abergwaun hefyd â D.J.Williams, un o arweinwyr cynnar Plaid Cymru, gan iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yma. Ganed D.J.Williams ym Mhenrhiw, plwyf Llansawel yn Sir Gaerfyrddin. Aeth i ysgol Rhydcymerau ac yna gweithio ar y tir nes yr oedd yn un ar bymtheg oed.

Wedyn aeth i weithio i un o byllau glo De Cymru. Gadawodd y pwll wedi pedair blynedd ac aeth i gael mwy o addysg yn Llanybydder a Chaerfyrddin.

Wedi hynny aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac wedyn Coleg Iesu, Rhydychen. Yn 1919 cafodd ei benodi yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ac arhosodd yno hyd ei ymddeoliad ym 1945.

Ym 1925 roedd DJ yn rhan o'r cwmni bychan a sefydlodd Plaid Cymru. Yn ystod ei fywyd gweithiodd yn galed dros y blaid honno. Cafodd ei garcharu am naw mis ym 1936 ynghŷd â Saunders Lewis a Lewis Valentine am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth.

Carreg D JMae'r siop lyfrau Gymraeg yn Abergwaun wedi ei henwi ar ei ôl a saif carreg goffa iddo ar lawnt y Wesh. Mae'r garreg wedi ei chreu drwy ddefnyddio carreg las Pen-caer.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld ag Abergwaun ddwywaith. Tystiolaeth o hynny yw cerrig yr orsedd ac mae dwy gylch o gerrig i'w gweld yn y dref.

Saif y cylch cyntaf ar y tir uwchben y môr yn wynebu Cwm Abergwaun. Codwyd y cylch ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936. Ar bob carreg mae enw'r plwyf a'i cyfrannodd.

Yn anffodus bu'n rhaid cynnal un o seremonïau'r Eisteddfod mewn ysgoldy gerllaw oherwydd y tywydd stormus. Roedd hyn yn torri traddodiad a gwylltiodd un derwydd o ganlyniad. Yn ei ddicter gweinyddodd ei seremoni ei hun yng nghanol y glaw ac i gyfeiliant sŵn y gwylanod.

Yn 1986, hanner can mlynedd wedi ei ymweliad diwethaf, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Abergwaun unwaith eto a'r tro hwnnw codwyd cylch yr orsedd ym mharc Lota yn y dref.

Gerllaw'r cylch cyntaf, lle mae'r tir yn gostwng tua'r harbwr, mae dwy fagnel. Defnyddiwyd un ohonyn nhw'n dyddio yn Rhyfel y Crimea a'r llall yn yr Ail Ryfel Byd. Mae magnel yn sefyll ar ganol sgwâr y dref hefyd.

Mwy am fro Abergwaun - ewch i dudalen 2



Cyfrannwch

Dewi o Hwlffordd
(Manylion diweddara Randibw) Mae Randibw yn cwrdd bron bob dydd Sadwrn yn y Dderwen, sgwa^r Abergwaun, o 11.00y.b. tan 1.00y.p. Dyma gyfle i`r oedolion sy`n dysgu Cymraeg ymarfer eu Cymraeg tu fa`s i`r `stafell ddosbarth. randibw@hotmail.co.uk

Dewi o Hwlffordd
Oedolion yn dysgu Cymraeg yn Abergwaun.
Mae llawer o oedolion yn dysgu Cymraeg yn Abergwaun. Maen nhw'n moyn siarad yn gymdeithasol a'r Cymry - tu fa's i'r 'stafell ddosbarth. Mae`r dysgwyr yn cwrdd bron bob ail ddydd Sadwrn y mis yn y Dderwen ar sgwa^r Abergwaun o 11.00yb tan 1.00yp. Enw`r cwrdd `ma yw `Randibw yn Abergwaun`. Hefyd, mae`r dysgwyr yn mynd i weld llefydd o ddiddordeb yn yr ardal. Oes amser `da chi? Am fanylion cysylltwch a`r Ganolfan E-Ddysgu ar bwys Ysgol Bro Gwaun - 01348 872488 neu randibw@hotmail.co.uk


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý