Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Brenda James (gynt Roberts_ yn arddangos Tarw (Tua 1941.) Llun tray garedigrwydd Brenda James Hel atgofion (yr ail bennod)
O ddillad y cyfnod i'r sweets i'r adloniant - roedd bywyd yn ardal Talyllychau yn y 1930au yn wahanol iawn i heddiw.
Fel ymhob ardal arall yng Nghymru, mae Talyllychau wedi newid, ac i fi a'm cyfoedion, daw hiraeth am yr amser gynt. Yn ffodus, mae pentref Talyllychau yn dal yr un oddieithr fferm y Plas, sydd â'r ystabl, beudy a'r ysgubor yn dai i bobl i fyw ynddynt. Mae'r tŷ "King's Court" yn dal yn gartref i deulu, ac yn ôl traddodiad, bu i'r brenin Harri'r Seithfed gysgu un noson yno pan ar ei daith i Frwydr Bosworth.

Er i mi adael yr ardal ym 1942, rwyn dal i gyfeirio ato fel 'cartref 'o hyd. Gofynnodd sawl un i fi ers i mi ymddeol, "Leice' chi fynd nôl i fyw yn Nhalyllychau?" Fy ateb bob tro yw "Dim o gwbwl."

Pam? a minnau yn credu nad oes bentref prydferthach i'w gael yn y byd i gyd?

Cofio Talyllychau
Bellach nid oes un siop yn y pentref na chwaith Swyddfa Bost a rhaid yw bodloni teithio i dref Llandeilo, saith milltir i ffwrdd i brynu owns o de neu siwgr. Gellid prynu tipyn o bopeth yn "Siop Davies" yn y pentref slawer dydd, sef bwydydd, dillad gwaith, tywelion, hosanau, olew paraffin, paent, offer glanhau, meddyginiaethau i anifeiliaid, gwahanol fathau o sebon ac wrth gwrs siocledi a phob math o losin. Roedd yn daith o thua milltir a hanner o'm cartref, yng nghesail y bryniau. Roedd yn eitha' hawdd i fynd lawr, ond tasg anodd i ddringo adref a chario'r nwyddau. Wedi dweud hynny, roedd y brawd a'r chwaer Caradog a Mary Davies, perchnogion y siop yn hynod o garedig yn estyn bag bach o losin o'n dewis ni, yn rhad ac am ddim, fel "sweets bach yn gwmni i chi ar y ffordd gartref ." Dyna beth oedd melysu'r siwrne!

Roedd y Swyddfa Bost ar ochr y ffordd fawr o dref Llandeilo i Lansawel ac ar y gornel rhwng y ffordd fawr a'r hewl a arweiniai i'r pentref. Yn ogystal â'r Swyddfa Bost mewn un rhan, roedd siop fwydydd o bob math a dillad babanod yr ochr arall.

Soniai Mam yn aml am "siop Ann" ym Mancelwydd yr ochr draw i'r ysgol ac yn gyfleus iawn i redeg iddi amser cinio i brynu gwerth dime o losin `Spanish du'. Caewyd y siop ddechrau'r ugeinfed ganrif ond y cof cyntaf gen i amdani, oedd fel garej i fys bach cyntaf yn yr ardal, yn cario ond ugain o bobl. Tyfodd gwasanaeth fysiau y diweddar L.C.Williams yn gyson gan gludo pobl o Lanbedr Pont Steffan, Llanybydder Llansawel i lawr i Landeilo, Rhydaman a phentref Cross Hands gan wneud teithio yn hwylusach i bawb ac yn arbennig i bobl yn y pentrefi unig.

Dillad y cyfnod
Roedd yr ardal yn frith o grefftwyr. Cofiaf am ŵr yn gwau hosanau gwlân ac yna yn teithio'r ardal gyda phecyn ohonynt o dan ei gesail i'w gwerthu. Yn cadw tŷ iddo oedd dynes ddi-briod a honno yn gwneud crysau a phantos o wlanen Cymreig i'r Ffermwyr. Gwisgai fy nhad y rhain.

Doedd dim coler i 'grysau tad-cu', dim ond band cul fel sydd yn ffasiynol ar grysau modern heddiw a wisgir ar achlysuron crand. Gyda'r crysau gwlanen roedd coleri cotwm, gwynion, rhydd, i'w cael, gyda dwy studen, un wrth flaen y gwddf a'r llall yn y cefn i'w cadw yn eu lle a ffrynt wen a thyllau i dderbyn botymau'r crys, yn cuddio'r crys, o dan gwasgod. Roedd y pantos neu'r 'drafers' yn cyrraedd o dan y pengliniau gydag incil yn mynd drwy'r ymylon i fedru clymu'r pantos yn ddiddos, gan gofio bod y sanau gwlân yn cyrraedd drostynt i fyny at y benglin. Ffordd dda i gadw'n gynnes cyn bod sôn am wres canolog!

Byddai mam yn prynu hosanau gwlân i nhad a'm brodyr oddi wrth ferch yn byw ger Capel Carmel Llansadwrn. Gydag amser fe fyddai angen cyweirio tyllau yn sodlau. Fe fyddai mam yn gosod y rhain, wedi iddynt gael eu golchi, yn y 'cwdyn sane' a gadwai ar silff waelod y cwpwrdd wal ar ochr y lle tân i aros am 'awr fach sbâr' fin nos i'w cywiro. Os na fyddai gwaith arall i'w wneud, fel gwaith ysgol, fe fydde mam yn dweud "Ferched, mae esie c'wiro sane'r bois" Rhaid oedd mynd ati, a hynny yn 'groes i'r graen'. Fwy nag unwaith fe fues mor ddiamynedd, ac am gael gorffen y dasgyn tynnu ochrau'r twll a oedd yn yr hosan 'at ei gilydd' yn lle cymeryd amser i blethu'r gwlân cywiro yn deidi i lanw'r twll i fod yn llyfn ac esmwyth ar y droed. Fodd bynnag, hwyr neu'n hwyrach, fe fyddai rhaid wynebu cerydd pan fyddai'r sawl a wisgai'r hosan anghyfforddus yn gofyn;

"Pwy fuodd yn treio c'wiro'r sane 'ma, yn tynnu'r twll at'i gilydd? Ma' hen lwmpyn o dan 'n sowdl i ac yn g'neud dolur". Rhaid oedd ail gywiro'n go iawn.

Gydag amser, fe fyddai'n amhosibl cyweiro rhagor ac yna byddai mam yn ein danfon ni blant, yn ôl at y ferch a oedd yn gwau, er mwyn iddi wau traed newydd i'r hen goesau. Fe fyddai hynny yn rhatach na phrynu pâr newydd gan mai'r traed oedd yn treulio o fewn yr esgidiau trymion.

Roedd un neu ddau deiliwr yn gwneud siwtiau dynion a bechgyn, a sawl gwiniyddes yn gwneud ffrogiau a chotiau i ferched a gwragedd. Roedd y rhain yn fedrus iawn ac yn gwneud dillad o safonau uchel.

Pentref yr Halfway
I lawr ym mhentref bychan yr Halfway, ar y ffordd fawr o Landeilo, ble mae'r hewl yn troi tuag at bentref Cwmdu, roedd ffatrïoedd gwlanen, lledr ac esgidiau. Er mai ond tri tŷ, fferm Glanyrafon ddu isaf, a chapel yr Eglwys Apostolaidd sydd yn aros yn y pentref bach heddiw, bu thua dau gant o bobl yn byw yno yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bu teulu James Davies y crydd a'i deulu yn byw yn Ael-y-bryn, y tŷ drws nesaf i'r ysgol am gyfnod gyda Johnny ei fab yn ei helpu, ond derbyn swydd fel rheolwr siop y Co-op yn Llansawel wnaeth ei ŵyr, Stanley. Roedd y "Wellintons" wedi dod yn boblogaidd erbyn hynny ac felly y gwerthiant, a'r angen am atgyweiro'r esgidiau trymion yn lleihau. Byddem ni blant yn mynd i'r siop waith o'r ysgol, amser cinio, diosg ein hesgidiau, ac eistedd ar stôl fach tra byddai James neu Johnny yn atgyweiro.

Gwerthwyd esgidiau newydd yn siop Aelybryn ac nid oedd croeso gan James i rai a brynent esgidiau newydd yn siopau'r dref, ond yn dod i'w siop waith ef pan fyddai angen eu trwsio. Cofiaf yn dda amdanaf yn mynd a phâr, nas prynwyd ganddo, i'w trwsio.

"Ble prynodd dy fam y rhain dwed?"
"Mam-gu brynodd nhw i fi rywle."
Roedd mam-gu yn byw yn Llangadog, rhy bell iddi hi i ddod i brynu gyda James.. "Oh-Wyt ti'n lwcus o dy fam-gu".
"Odw,Mr Davies."

Prysurdeb yn y berllan ym Mlaennant gyda'r gwenyn. Tad Brenda James, Jesse Roberts ar y dde, ar y chwith, ei fab Gwyn ac yn cario bocs y tu ôl ei fab hynaf Islwyn. Llun trwy garedigrwydd Brenda James.Cyn oes y tractor a'r car roedd digon o waith i ddwy efail gof, un a elwid yn 'Efail Uchaf" yn agos i Blas Rhydedwin a'r llall, o bwys hanesyddol, yn union wedi mynd heibio i'r ysgol Morgan Griffiths oedd y gof ac yn un o ddisgynyddion Thomas Lewis y gof, awdur yr emyn fyd-enwog "Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd."

Dyledus oeddwn i Rachel, gwraig Morgan am gael cysgodi yn nhÅ· yr efail tra yn aros am y bys i fynd i'r 'Cownti Scwl'. Rhaid oedd gwisgo 'Wellingtons' i gerdded y ffordd arw o'm cartref, eu diosg, a'u gadael gyda Rachel a gwisgo esgidiau mwy gweddus i fynd ar y bys i'r ysgol. Ar lawer bore gaeafol, parod iawn fyddai Rachel i estyn chwpaned o de hyfryd i fi wrth aros am y bys. Ni wnaf fyth anghofio caredigrwydd y teulu Griffiths i ni fel teulu ac yn wir i bawb bob amser.

Profiad annisgrifiadwy i fi oedd ymuno gyda grŵp o Gymry, ar daith i Israel, o dan adain y Parchedig Athro Dr D. Ben Rees Lerpwl, a chael canu emyn mawr Thomas Lewis wrth ochr Gardd Gethsemane yn Jeriwsalem.

Cofiaf am sawl saer coed sef Richard Williams Abbey View a'i fab Basil John Davies King's Court a'i feibion David, Martin ac Arthur yn eu tro, a Griffith Morgan Porthselu a fu'n adeiladu tŷ gwair i ni pan yn wyth deg oed. Roedd 'nhad yn ymddiddori mewn gwaith coed ond ar wahân i gerddoriaeth, ei ddiddordeb pennaf oedd mewn cadw gwenyn. Cymerai Gwyn fy ail frawd ddiddordeb ond, wrth i'r afiechyd "Muscular Dystrophy" ei feddiannu, roedd yn rhaid dibynnu ar ei frodyr yn llwyr i wneud y gwaith; - ond yn ôl ei gyfarwyddyd ef.

Dysgu crefftau
Cynhaliwyd dosbarthiadau nos yn yr Ysgol i ddynion yr ardal i ddysgu gwneud pasgedi. Defnyddiwyd y rhain at wahanol dasgau e.e; fel pasgedi i gario dillad i'r lein ddillad ar ddiwrnod golchi. Byddent yn ddefnyddiol ar gyfer cario tatws, moron a llysiau eraill o'r ardd a'u gosod o dan y pistyll bach wrth gefn y tŷ. Byddai'r pridd yn cael ei gario gan y dŵr drwy'r fasged gan adael y llysiau yn lân. Cynhaliwyd dosbarthiadau gwau a gwnïo i'r gwragedd a'r merched yn y gaeaf. Buddiol iawn oedd y dosbarthiadau ac yn ogystal â dysgu crefftau roedd yn gyfle i gymdeithasu, i gael hanesion lleol, ac wrth gwrs ,i hel clecs a straeon ar adeg pan nad oedd neb yn derbyn papur dyddiol a chyn oes y radio heb sôn am deledu.

Mewn ffordd roedd yr ardal yn 'hunangynhaliol' a phopeth a oedd ei angen o fewn cyrraedd ac i ateb gofynion cyfyng a chyllid prin pobol. Mor wahanol oedd pethau bryd hynny, ond doedd neb yn grwgnach - pawb yn fodlon ar eu byd.
"Beth na wêl y llygad, ni chlwyfir y galon."

  • Cliciwch yma i ddarllen Pennod 1 o Atgofion Brenda James



  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý