Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofeb Llywelyn Ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri Prosiect Cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan
Cychwynodd y prosiect yn haf 1998 pan benderfynodd cymdeithasau, grwpiau ac unigolion lleol y dylid trefnu cofeb addas i anrhydeddu un o arwyr mwyaf Llanymddyfri a'r achos y bu farw drosto chwe chan mlynedd yn ôl.
Ffurfiwyd Pwyllgor Coffa ac yn fuan derbyniodd gefnogaeth gan bob rhan o'r gymuned. Gofynnwyd i Antur Cwm Tâf/Tywi symud y prosiect ymlaen a bu'n llwyddiannus yn sicrhau arian ychwanegol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cynhaliwyd arddangosfa o'r pum cynllun ar y rhestr fer yn ystod gwanwyn 2000 a gofynnwyd i'r cyhoedd fynegi eu barn. Y cynllun mwyaf poblogaidd o bell ffordd oedd un y brodyr Toby a Gideon Petersen o Sanclêr.

Saif eu cerflun dur gloyw 16 troedfedd ar garreg 17 tunnell a gludwyd o'r bryniau i'r gogledd i'r dref. Ym marn y Pwyllgor mae'r gofeb yn crisialu'r ysbryd sydd wedi cynnal Cenedl y Cymry hyd heddiw ac sydd wedi galluogi'r Cymry, eu diwylliant a'u hiaith i oroesi er gwaethaf yr holl fygythiadau i'w bodolaeth yn ystod y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.

O'r cychwyn cyntaf bwriad y Pwyllgor Coffa oedd dathlu rhinweddau dewrder a theyrngarwch a chreu:

1. Cofeb addas i nodi digmyddiad hanesyddol o bwys
2. Darn o waith celf cyhoeddus blaengar ac o safon uchel
3. Atyniad o bwys i dwristiaid ar gyfer Llanymddyfri a'r ardal o amgylch

Fe ddaeth dros ddwy fil o bobl i'r seremoni ddadorchuddio liwgar a chynhwysfawr ar Hydref 6ed 2001.

Roedd hwn yn brosiect cymunedol y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo. Bydd y cerflun gwych hwn yn fuan yn cael ei gysylltu â Blaenau Tywi; bydd yn symbol nid yn unig o'r gorffennol ond yn arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol.

Dymuna'r Pwyllgor Coffa ddiolch i Antur Cwm Tâf/Tywi, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl unigolion a sefydliadau a fu'n ein cynorthwyo.

Gan: Rhobert ap Steffan

Darllenwch hanes Llywelyn ap Gruffydd yma.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý