Ddydd Sadwrn, Medi 12, fe fydd dros 200 o safleoedd treftadaeth yng Nghymru a Lloegr yn agor eu drysau fel rhan o gynllun Diwrnodau Treftadaeth Agored. Fe fydd gan y cyhoedd fynediad am ddim i nifer o safleoedd ar draws Cymru, a nifer ohonyn nhw yn y De Orllewin.
Rhaeadr Aberdulais
Dyma'r rhaeadr Ewropeaidd mwyaf sydd o hyd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Yn ogystal â'r rhaeadr, mae ty twrbinau, lle mae arddangosfa rhyngweithiol er mwyn dangos sut mae cynhyrchu trydan. Mae arddangosfa arall ar y safle yn dangos gweithfeydd tun ar waith. Mae modd hefyd i weld pysgodfa ar y safle.
Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo
Cafodd y castell ei godi yn y ddeuddegfed ganrif, ac o'i gwmpas, mae erwau o dir o'r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys parc ceirw. Mae mwy na 100 o geirw ar y safle. Y tu fewn i'r castell, mae arddangosfeydd amrywiol yn darlunio bywyd y cyfnod, gan gynnwys hanes y castell a'r ardal. Mae rhai o'r ystafelloedd yn dal i gael eu haddurno mewn dull sy'n nodweddiadol o'r flwyddyn 1912.
Mwynfeydd Aur Dolaucothi
Mae modd mynd ar deithiau dan ddaear i weld y mwynfeydd aur Rhufeinig, a chael gweld arddangosfa o sut mae cynhyrchu nwyddau allan o'r aur sy'n cael ei gloddio.
Gerddi Coediog Colby ger Amroth
Mae bywyd gwyllt y gerddi'n syfrdanol, ac fe gewch chi gyfle i grwydro o amgylch y safle, sydd wedi ei amgylchynu gan furiau cerrig. Mae llu o lwybrau â phyrth yn agor i goedwigoedd a chaeau Sir Benfro.
Ty Masnachwyr Tuduraidd, Dinbych y Pysgod
Cewch gyfle i grwydro o amgylch y ty Tuduraidd tri llawr hwn o'r bymthegfed ganrif, gan ddarganfod sut roedd y masnachwr Tuduraidd yn byw.
Aberdeunant, Llandeilo
Dyma ffermdy Sir Gâr traddodiadol ar ei orau. Yma fe gewch flas go dda ar sut mae byw a gweithio ar fferm yn yr ardal.
Llanerchaeron
Os mentrwch chi allan ychydig i'r gogledd o Sir Gâr, fe gewch chi ymweld â safle plasty Llanerchaeron ger Aberaeron. Yma, cewch weld crandrwydd y ddeunawfed ganrif yng Nghymru, gyda thir fferm o amgylch. Fe fydd y safle'n gartref i Eisteddfod yr Urdd 2010.
Am ragor o wybodaeth, ewch i lle cewch chi fanylion am yr holl safleoedd hyn a mwy yn Saesneg ac i am ragor o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd 2010.
Â鶹Éç Lleol Gogledd Orllewin.