Yn ddiweddar, derbyniodd Y Gloran ddau lun diddorol gan Mrs Eiryl Evans, Ton Pentre, o'r cwmni drama uchod. Aelodau o gapel Hermon, Treorci oedd y bobl a ffurfiodd y cwmni a buon nhw wrthi yn cystadlu ac yn perfformio dramâu yma yn y Rhondda ac ymhellach i ffwrdd tan ddiwedd y pumdegau.
Y ddrama a berfformiwyd ym Mhwllheli oedd 'Ffroes', sef hanes par priod oedd yn dathlu pen-blwydd aur eu priodas ac yn dymuno cael ond un anrheg - set o lestri glas patrwm helyg (willow pattern).
Cynilodd y plant ddigon o arian i brynu set i'w rhieni, ond gan eu bod mor dlawd, erbyn i'r diwrnod mawr gyrraedd, doedden nhw ddim yn gallu fforddio dim i'w fwyta ond ffroes - gair y cymoedd am bancos, crempog neu pancakes!
Un sy'n cofio holl gyffro ennill y gystadleuaeth yw Mrs May Jenkins, Heol Glyncoli, Treorci sydd erbyn hyn yn 95 oed. Yn wir, mae ganddi'r union set o lestri a ddefnyddiwyd ar y llwyfan ym Mhwllheli yn ei chegin lle maen nhw'n cael lle o anrhydedd ar silffoedd amlwg.
Ei thad, Daniel Evans oedd un o bileri'r cwmni a chapel Hermon o ran hynny. Yn fardd gwlad ac emynydd, roedd yn frwd iawn yn hyrwyddo'r ddrama Gymraeg yn yr ardal yn hanner cyntaf y ganrif a aeth heibio.
Yn y llun gwelir aelodau'r cwmni sef. Rhes gefn o'r chwith: Daniel Evans (Iau - sef
tad Danny Evans, TÅ· Pencelli, Treorci).
Olwen Jones (gwraig Mel Jones y Bwtsiwr gynt), IsIwyn Evans (Teras Tynybedw).
Rhes flaen: Esther Ann Evans (Hilside, Y Pentre), Daniel Evans (tad May Jenkins), Jane Davies (Myrtle Hill) a Dafydd Lewis (Y Stryd Fawr - cynhyrchydd y cwmni).
Yn Eisteddfod Pwllheli, cafodd cwmnïau o'r Rhondda gryn lwyddiant yn y cystadlaethau drama gan i Gwmni Drama'r Maerdy gipio'r brif wobr am berfformio'r ddrama hir - prawf, oes oedd eisiau o nerth y mudiad drama yn y Rhondda yn y cyfnod.
Diolch i Mrs Eiryl Evans am anfon y lluniau atom ac am roi inni gyfle i olrhain yr hanes diddorol gyda chymorth May Jenkins.
|