Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Traeth ym Mhrydain Treorci - Torremolinos y dyfodol
Mehefin 2003
Hafau poeth a sych - dyna mae gwyddonwyr Bangor yn ei addo erbyn diwedd y ganrif hon. Erbyn y flwyddyn 2080, yn ôl y gwyr hyn, fe fydd gan Gymru hinsawdd tebyg i hinsawdd haf gwledydd Môr y Canoldir ar hyn o bryd.

Trwy drugaredd fydd ein hinsawdd yn y dyfodol ddim yr un mor dwym â hinsawdd yr haf yng Ngwlad Groeg heddiw. Yn wir, y disgwyl yw y bydd hinsawdd Groeg yn rhy boeth i ymwelwyr o Brydain cyn pen dim. Yn y tymor hir mae gwyddonwyr yn disgwyl y bydd bygythiad difrifol i'r Maldives gan fod posibiliad mai'r ynysoedd hyn fydd y Cantref Gwaelod newydd wrth i lefel y môr godi.

Yn anffodus, nid y Maldives fydd yr unig le a fydd yn dioddef cynnydd yn lefel y môr, a hyn yn bennaf oherwydd bod disgwyl cynnydd mawr yn y glaw a fydd yn disgyn yn ystod y gaeaf. Fe fydd i'r cynnydd hwn ganlyniadau i'r gymdeithas gyfan gyda llifogydd yn dod yn nodwedd o'r gaeaf a'r cwmniau yswiriant o bosib yn gwrthod cynnig yswiriant ar gyfer tâi.

Hefyd bydd problemau'n deillio o sychder crasboeth yr hâf. Yn ôl yr arbenigwyr, bydd hyn yn esgor ar broblemau diogelu cyflenwad digonol a ddwr. Yn ôl pob tebyg, bydd angen cronfa ddwr ychwanegol ar yr ardal hon er mwyn cyflenwi'r boblogaeth yn ystod yr haf.

Manteision
Ond bydd manteision mawr yn yn deillio o'r newid hinsawdd arfaethedig. Pa mor aml ydyn ni wedi clywed y byddai pobl yn tyrru yma i dreulio eu gwyliau pe bai'r tywydd yn well? Wel, os ydy'r gwyddonwyr yn iawn, mae'r tywydd gwell ar y ffordd. Sut y bydd manteisio ar hyn?

Yn anad dim arall, bydd rhaid darparu cyfleusterau addas. Hynny yw, bydd rhaid adeiladu gwestai cysurus a moethus a fydd a leiaf o'r un safon a gwestai gwyliau gwledydd Môr y Canoldir heddiw. Er mwyn gwneud hyn, bydd gofyn tipyn o fuddsoddi a thra nad oes sicrwydd y bydd y newid disgwyliedig yn digwydd, go brin y bydd entrepreneuriaid yn awyddus i fentro'u harian. A fydd cynnig gwestai, neu efallai dai cyffredin yn cynnig gwely a brecwast yn ddigonol?

Yr Ardd
Un effaith arall a fydd yn bellgyrhaeddol, o leiaf cyn belled ag y mae un garfan arbennig o'n cymdeithas yn y cwestiwn, sef y garddwyr, fydd y newid yn y mathau o blanhigion y gellir eu tyfu. Bydd rhai planhigion yn diflannu gan y bydd yn rhy dwym a mathau sydd ar hyn a bryd yn rhy dyner i'w tyfu yma yn dod yn gyffredin.

Anodd yw meddwl am ein hinsawdd yn newid fel hyn, ac annos fyth yw amgyffred Cwm Rhondda yn ganolfan twristiaeth, ond pwy yn 1903 fuasai wedi gallu amgyffred y Cwm heb un pwll glo a chymaint o gapeli'n furddunod?

John Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý