Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Rhoi'r tlws ar y bar
Ionawr 2005
Ym mis Mawrth 1939, agorodd ffatri Alfred Polikoff (Cymru) Cyf. yn Ynys-wen, Treorci.
Er mwyn sefydlu'r ffatri hon a greodd swyddi i lawer yn yr ardal, yn enwedig merched, cafwyd fenthyciad o £40,000 gan y Trysorlys, gwerthwyd gwerth £55,000 o gyfrandaliadau a manteisiwyd ar fenthyciad arall o £20,000 gan Ymddiriedolaeth Nuffield.

Gwnaed hyn oll yn bosib gan Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1937 oedd a'r nod o leddfu'r lefelau uchel o ddiweithdra mewn ardaloedd tebyg i'r Rhondda.

Er taw Cwmni Burberry biau'r ffatri erbyn hyn, mae hi yma o hyd yn darparu swyddi i bobl yr ardal, 50 Mlynedd o WasanaethYchydig cyn y Nadolig ymddeolodd gweithiwr a dreuliodd bron 50 mlynedd yn gweithio yn y ffatri 49 mlynedd a 3 mis i fod yn fanwl.

Cafodd Noel Henry ei fagu yn Stryd Tynybedw, Treorci. Aeth yn syth o'r ysgol yn fachgen ifanc 16 oed ym mis Medi 1955 i weithio yn Adran Ddosbarthu Ffatri Polikoff ac un o'i dasgau cyntaf oedd clymu bwndeli o drowsusau dril ar gyfer y fyddin. Maes o law, daeth Noel yn gyfrifol am yr adran honnio am gyfnod byr cyn iddi gael ei huno a'r Adran DilladGwely.

Gydag amser symudodd ymlaen i'r Adran Ddatblygu a Chynllunio a chyflawni swyddi cyfrifol yn yr adran honno. Yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y ffatri, gwelodd Noel newidiadau mawr.

Yn y saithdegau roedd Polikoff yn cyflogi 1600 0 bobl, 80% ohonynt yn ferched. Erbyn 2000 roedd llai na 300 ar y llyfrau ond mae'n dda dweud bod y nifer Cwmni Burberry sydd wedi bod yn gyfrifol am ei rhedeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'r cwmni hwnnw'n anelu at ddenu cwsmeriaid o haen uchaf a drutaf y farchnad.

Rhan fawr o fusnes Polikoff oedd gwerthu trwy gatalogau a'r cwmni'n cyflenwi siwtiau, siacedi ac eitemau tebyg drwy'r post. Yn ogystal a chyflogi pobl leol meithrinai Cwmni Polikoff ei staff rheoli ei hun o blith y gweithlu, ac o ganlyniad cododd bechgyn lleol fel Gareth Davies a Ray Brown i safleoedd uchel yn y cwmni.

Yn ol Noel, roedd pawb a weithiai yn y ffatri yn ymhyfrydu yn eu gwaith ac roedd y balchder hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn safon y cynnyrch.

Gofal y Cwmni

Mae e'n hael iawn ei ganmoliaeth hefyd i'r ffordd y cai'r gweithlu ei drin gan fod llawer o sylw'n cael ei roi i iechyd a diogelwch. O ganlyniad, ychydig iawn o ddamweiniau a ddigwyddai yno.Yn ogystal mae'r Cwmni wedi bod yn ofalus i gydnabod teyrngarwch y gweithwyr.

Fel nifer o bobl eraill, derbyniodd Noel rodd o wats ar ol cwblhau 25 mlynedd o wasanaeth a rhodd bellach ar ddiwedd 40 mlynedd. Am y trydydd tro, ychydig cyn y Nadolig, fe'i cydnabyddwyd wrth iddo ymddeol, ond yn ogystal a'r anrhegion hyn, teimla wrth roi'r gorau i'w swydd y bydd yr atgofion hapus sydd ganddo am gyd-weithwyr a throeon trwstan a ddigwyddodd yn gynhaliaeth wrth iddo geisio ymgyfarwyddo a hamddena ar ol gweithio'n ddistop am bron hanner canrif.

Dymunwn ymddeoliad hir a hapus i Noel a'i wraig, Janet, sy'n byw nawr yn Jones St, Treherbert.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý