Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gloran
Urdd Gobaith Cymru yn cydnabod cyfraniad Ysgol Treorci
Rhagfyr 2004
Bellach mae disgyblion Ysgol Gyfun Treorci yn o^l wrth eu desgiau yn gweithio'n brysur ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Anrhydedd fawr a ddaeth i ran yr ysgol ddechrau mis Medi oedd derbyn gwahoddiad i gyhoeddi Neges Ewyllys Da'r Urdd yn 2005.

Erbyn hyn, mae'r chweched dosbarth wrthi'n llunio'r neges a fydd ar y thema, "Ca^r dy gymydog". Mae hon yn thema addas iawn o gofio mai Shelter Cymru yw'r elusen a fydd yn cydweithio â'r Urdd y flwyddyn nesaf.

Cyfle i drafod
Daeth Owain Llewelyn o'r elusen i siarad â rhai o'r disgyblion am broblemau digartrefedd yng Nghyrnru. Bu'r ymweliad yn gyfle i'r disgyblion ymarfer eu Cyrnraeg, ei holi am y broblem yn y gymuned hon ac ystyried beth y gallant ei wneud i gynorthwyo pobl lai ffodus yn ein cymdeithas. Braf yw gweld cymaint o bobl ifainc yn ymgyrnryd â'r gwaith o ddifrif gydag 18 o'r chweched isaf ac 17 o'r chweched uchaf sy'n astudio Cymraeg yn cymryd rhan. Fe fydd y profiad a ddaw i'w rhan yn ystod y flwyddyn nesaf o fudd mawr i'r disgyblion wrth iddynt gyhoeddi'r neges ar y radio, i aelodau o'r Cynulliad ac ar lwyfan neuadd ysblennydd Canolfan y Mileniwm.

Cyfle i ddathlu
Bydd cyfle i bobl y Rhondda ymfalchïo gyda'r disgyblion mewn noson o ddathlu cyhoedddi'r neges yn theatr y Parc a'r Dar, nos Lun, 21 Chwefror 2005. MaeYsgol Gyfun Treorci yn diolch i'r Urdd am y cyfle i fod yr ysgol Saesneg ei chyfrwng gyntaf i gyhoeddi'r Neges Ewyllys Da ac am roi cyfle i ddisgyblion sydd â'r Gyrnraeg yn ail iaith iddynt i gyhoeddi neges mor bwysig i bedwar ban byd. Mae cyffro yn barod ymhlith disgyblion yr ysgol wrth feddwl am gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd fel yn y gorffennol gan obeithio'n fawr iawn y bydd yr Adran Gerddoriaeth yn llwyddiannus eto yn y Genedlaethol. Bydd yr Adran Chwaraeon hefyd yn gobeithio ailadrodd llwyddiant y llynedd. Mae ein dyled fel cenedl ac fel ysgol i'r Urdd yn fawr iawn wrth i'r mudiad roi cyfle i' n hieuenctid brofi cymaint.

Gwersylla
Ym mis lonawr eto bydd yr ysgol yn mynd â dros 200 o ddisgyblion Blwyddyn 7, 8, 12 a 13 i Langrannog, traddodiad sydd wedi bodoli yn yr ysgol ers dros 20 mlynedd a bydd dros 300 o ddisgyblion yn mynychu cwrs yng Nglan-llyn ym rnis Tachwedd. Gobaith Ysgol Gyfun Treorci, gyda chymorth mudiadau fel Urdd Gobaith Cyrnru a menter laith Rhondda Cynon Taf yw sicrhau bod y disgyblion yn tyfu'n ddinasyddion cyfrifol a fydd yn parhau i gefnogi'r Gymraeg yn y Rhondda fel sawl un arall a gafodd ei addysg yn yr ysgol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý