Gan ddilyn ffasiwn yr oes, fe gyhoeddodd y pregethau a draddodwyd ganddo yn dilyn, "... gwahoddiadau drwy y wasg, trwy lythyron cyfrinachol ac mewn ymgom bersonol ..." Ymddangosodd casgliad o'r pregethau hyn mewn llyfr yn dwyn y teitl, "Pwlpud Noddfa" a gyhoeddwyd yn 1905. Yn gam neu'n gymwys mae teimlad ar led nad yw cynnwys y pregethau hyn yn golygu dim inni heddiw. Ym marn bardd y Goron, Aled Jones Williams, nid yw "... yr hen iaith grefyddol ddim yn siarad dim â ni heddiw." Ond yn sicr ddigon mae'r deunydd a gynhyrchid ar droad y ganrif yn cyfleu digon o wybodaeth inni parthed nodweddion ein cymdeithas ni heddiw. Traddodiad y canu corawl Un o'r nodweddion hynny yw y traddodiad canu corawl a dyfodd i fod yn un o nodweddion Cymru yn llygaid pobl y byd. Allan o'r traddodiad hwn y tyfodd corau meibion byd-enwog megis Corau Treorci, Treforys a Phendyrys i enwi ond tri. Ym mhregeth William Morris 'Caniadaeth y Cysegr' gellir gweld yr ymddygiadau a arweiniodd at y traddodiadau canu corawl a fu mor gadarn eu gafael ar weithgareddau diwylliannol cymdeithas nid yn unig Blaenau'r Rhondda Fawr ond hefyd Cymru gyfan. Yn ei bregeth, mae Morris yn honni pethau ysgubol am gerddoriaeth. "Lleolir canu ymhlith y celfau breiniol ... a ... "...roedd canu yn bodoli cyn bod Eden ardd na chodwm ..." Yna, gyda mwy nag arlliw o rethreg pregethwyr y cyfnod, ychwanegodd, "... roedd canu yn bod cyn dyn, cyn cread a chyn creu, a'r peth cyntaf a ddisgynnodd ar glustiau yr hen ddaear ma oedd canu." Aeth yn ei flaen i fynnu bod Paul a'r Iesu ei hun a hyd yn oed Duw yn gerddorol ac i honni wedyn "...Byddai'n wyrth i chwi gael gafael mewn dyn heb gerddoriaeth yn ei natur ... Y mae pob dyn yn cael ei eni â chanu yn sylfaen i'w fodolaeth..." Gymaint oedd brwdfrydedd Morris i ddangos pwysigrwydd cerddoriaeth fel yr oedd weithiau'n anwybyddu grym rhesymeg fel y gwnaeth yn yr haeriad hwn "...fod canu yn naturiol felly mae'n Gristnogol."Nid oes rhyfedd felly fod trwch ei gynulleidfa, megis trwch pob cynulleidfa yng Nghymru, yn anwesu canu â brwdfrydedd mawr. Diddorol yn y cyd-destun yw cofio nad pobl ddifeddwl a oedd yn barod i dderbyn pob un o syniadau'r pregethwyr yn ddi-gwestiwn oedd y bobl hyn. Yn 1897 fe aeth y glowyr ar streic am chwe mis - digwyddiad a arweiniodd at sefydlu'r Fed. Roedd Morris fel y rhan fwyaf o bregethwyr, yn erbyn y streic a gwelir ei ymddygiad pan ddywed, wrth bregethu am natur y Nefoedd, mai lle ydoedd "... heb strike na lockout yn y tir." Felly a ellir honni'n betrys mai dilyn eu greddfau eu hunain wnaeth pobl y cyfnod hwn yn ogystal â dilyn cyfarwyddyd eu harweinwyr ysbrydol wrth anwesu canu corawl?
|