Gyda mwyafrif 13,000 pam fod yr aelod Llafur Kim Howells yn penderfynu canu'r gloch ar ei yrfa fel aelod seneddol? Wel fel nifer ar y meinciau Llafur tybed ydio'n synwhwyro mae cyfnod fel rhan aelod o'r wrthblaid fyddai'n wynebu ymhen rhai misoedd, nid rhywbeth sy'n apelio i gyn weinidog sydd wedi gwasanaethu mewn nifer o adrannau gwahnaol y llywodraeth. Ac yn dilyn y feirniadaeth ddiweddar o strategaeth y llywodraeth yn Afghanistan go brin y byddai'r chwipiaid Llafur yn cynnig cadeiryddiaeth un o'r pwyllgorau dethol i'r aelod dros Bontypridd.
Tybed oes mwy i ddilyn? Mae Paul Murphy yn sic yn disgyn i gategori tebyg. Fe fydd nifer o ddarpar ymgeiswyr yn llygadu agoriad yn sicr. Ym Mhontypridd a Torfaen mae na seddi na fyddai'n diflanu o afael Llafur hyd yn oed yn y gyflafan etholiadaol fwyaf erioed. Enwau posib yn y ffram ar gerdyn nadolig os gwelwch yn dda, mi roi gynnig ar un, Owen Smith...
Does na ddim llawer o Gymraeg rhwng y gweinidog iechyd Edwina Hart ag aelodau'r pwyllgor materion Cymreig yn San Steffan. Mae brawddeg agoriadol yr aelod Llafur Martyn Jones tuag ati yn awgrymu hynny. Wrth ei chroesawu ger eu bron yn y senedd dywedodd bod hi'n braf ei chael hi yno (ar ol iddyn nhw fethu droeon o'r blaen) gan ychwanegu "we thought you didn't like us".
Mi roedd na faterion pwysig dan sylw yn y cyfarfod heddiw - y berthynas rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth San Steffan ym maesydd iechyd a thrafnidiaeth. Ond yn ol y gweinidog trafnidiaeth Ieuan Wyn Jones mae'r ffaith fod gwariant yn llai o flaenoriaeth ar ochr Lloegr o'r A483 yn tarfu ar un o brif bolisiau trafnidiaeth llywodraeth y Cynulliad.
Wnaeth un o is- weinidogion trafnidiaeth llywodraeth San Steffan Chris Mole gynnig fawr o gydymdeimlad. Yn yr un modd meddai a fydda' llywodraeth San Steffan ddim yn dweud wrth lywodraeth y cynulliad sut i wario arian ddylai llywodraeth y cynulliad ddim disgwyl llawer o fewnbwn i'r modd mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn didoli pres. Awch. Ond tydio ddim yn datrys problemau traffic yr rhai hynny sy'n byw heibio cyffordd 7 yn Yr Orsedd (Rossett).
Daeth iaith y dafarn i senedd dy Iwerddon yr wythnos ddiwethaf pan ddwedodd aelod y Blaid Werdd Paul Gogarty wrth y dirprwy lefarydd 'lle i fynd', nid unwaith ond ddwywaith. Mi fyswn i'n cynnig y linc i youtube ond gan mai cysgodi yn absenoldeb Vaughan ydwi well i mi beidio cael fy nghydweithiwr i drafferth. Ond drwy chwilota eich hun fe welwch chi fod yr awyr wedi troi'n las.
Fe wnaeth i mi feddwl pa mor annoeth ydi hi ar brydiau i wleidyddion bellhau o'r deunydd ysgrifenedig sydd o'u blaenau. Prin iawn ydi'r achlysuron yn y cynulliad pan mae aelod yn llefaru'n rhydd heb gymorth nodiadau. Pwy sydd yn y gadair yn goruchwilio'r cyfan? Y llywydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Ond pe byddai'n dilyn cyfarwyddiadau beibl Ty'r Arglwyddi, 'Lords Companion' mae'n ymddangos na fyddai'n caniatau i aelodau'r cynulliad ddarllen eu cyfraniadau. Mae ymddygiad o'r fath yn
"alien to the custom of the House and injurious to the traditional conduct of its
debates"
Fe ddwedodd un aelod cynulliad wrthai rai wythnosau yn ol bod angen darllen ohewrydd eu bod nhw'n gwneud llawer mwy o gyfraniadau nag aelodau seneddol ac yn aml ychydig iawn o amser mae nhw'n gael i edrych ar yr hyn fydd yn cael ei ddarllen. Felly mae rhai nid yn unig yn gaeth i nodiadau ond nodiadau rhywun arall!
Annoeth fyddai gadael gwaddod CO2 tra bod cynhadledd Copenhagen yn ei anterth. Tybed felly beth fydd trefniadau cludiant tri o weinidogion llywodraeth Cymru Ddydd Mawrth nesaf, dau o Blaid Cymru ac un o'r Blaid Lafur. Ydi'r glymblaid yn ymestyn hyd at rannu car a pwy fydd y 'back seat driver'?
Mae'r dirprwy weinidog Jocelyn Davies yn ymddnagos ger bron y pwyllgor materion cymreig yng nghyd destun yr lco tai, y dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones a'r Gweinidog Iechyd Edwina Hart yn dystion yn ymchwiliad y pwyllgor i wahaniaethau traws ffiniol ym maesydd trafnidiaeth a Iechyd.
Oedd roedd rhaid i minnau edrych eilwaith i sicrhau nad oedd fy llygaid i'n methu. Edwina Hart ger bron y pwyllgor? Tra'n ennill fy mara menyn yn San Steffan fe glywais aelodau seneddol Llafur yn poeri gwenwyn am iddi wrthod ymddangos yn gynharach eleni. Does wybod sawl pleidlais gostiodd hynny iddi yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Yn ol un aelod o'r pwyllgor mae'r sefyllfa wedi bod fel 'pantomime'. Roedd disgwyl tan dymor y panto i gyfarch y pwyllgor o bosib yn gynllun wedi'r cwbl
Fe adawodd Vaughan gyda sach o Victoria Bitter dan ei gesail am dywydd cynhesach ac os ydi'r cyfeiriad at Eldorado ar ei gyfraniad diwethaf yn adlewyrchu ei hoffter o operau sebon yna fe fydd o'n mwynhau y rhifyn cyfredol o Neighbours a Home and Away.
Gan mod i'n etifeddu dyletswyddau anghyfarwydd dwi'n gofyn am help yn fy mhost cyntaf. A rhaglen 'Post Cyntaf' ar Radio Cymru fydd yn elwa. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan mae cynhyrchwyr rhaglenni yn tyrchu ym mhobman am stori i gynnal y gwasanaeth dros gyfnod yr wyl.
Mae adolygiad o'r flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd yn becyn ffyddlon ar y silff nadolig ond all unrhywun gofio unrhywbeth o bwys a ddigwyddodd cyn etholiadau Ewrop? Ers hynny fe gyheoddwyd adroddiad y confensiwn, ymddeoliad Rhodri Morgan, penodiad Carwyn Jones ac mae Cabinet newydd yn ei le. Heb anghofio wrth gwrs yr achlysur hanesyddol hwnnw pan adawodd un aelod cynulliad ei blaid am un arall. Ond cyn hynny? Plis, plis....
I glywed mwy o ddadansoddi am yr wythnos a fu yna mae'r rhifyn diweddaraf o 'Dau o'r Bae' ar y podlediad
Mae hi bron yn ddiwedd ddegawd. Lle uffern aeth hi, dywedwch? Hwn yw'r post olaf gen i am y ddegawd hon. Fe welaf i chi ym Mis Ionawr!
Yn y cyfamser rwy'n trosglwyddo allweddau'r blog i Aled ap Dafydd.
Cyn i mi hedfan i'r de am y Nadolig dyma rywbeth bach diddorol. Mae agendas y Cynulliad ar gyfer Ionawr newydd ymddangos ar y gwefan. Fe fydd yr aelodau'n brysur hefyd gyda digon ar eu platiau. Ond beth yw hyn? Ar ddydd Mawrth Ionawr 26ain does dim byd wedi ei restri ac eithrio'r sesiynnau cwestiynnau. Beth sydd i ddilyn, tybed? Os oeddwn i'n gorfod mentro swllt byswn i'n betio mai pleidleisio i alw refferendwm fydd yr aelodau.
Y glo mân sy'n mygu tân medden nhw ac mae 'na un darn bach o gyhoeddiadau Carwyn Jones ynghylch ei lywodraeth sy'n dân ar groen ambell i Lafurwr.
Cyn iddo gael ei ddyrchafu i'r Cabinet adfywio'r economi yn ardaloedd tlotaf Cymru, llefydd fel Merthyr, Cwm Cynon a'r hen bentrefi llechi, oedd maes llafur Leighton Andrews . Fel dirprwy weinidog roedd Leighton yn atebol i Ieuan Wyn Jones ond fe, yn amlach na pheidio, oedd yn cynrychioli'r llywodraeth wrth drefnu a lansio prosiectau.
Mae pethau wedi newid o dan Carwyn. Mae adfywio ardaloedd difreintiedig bellach yn rhan o adran Jane Davidson. Yn fwy pwysig y dirprwy weinidog perthnasol yw Jocelyn Davies o Blaid Cymru. Ofn rhai yn y blaid Lafur yw y bydd hynny'n galluogi i Blaid Cymru hawlio'r clod am lu o brosiectau yn yr union ardaloedd lle fydd Llafur a Phlaid benben a'i gilydd yn 2011. Yng ngeiriau un llafurwr gallai hon fod yn "gythraul o anrheg Nadolig i Blaid Cymru".
Carwyn Jones Prif Weinidog
Ieuan Wyn Jones; Dirprwy Brif Weinidog, Economi a Thrafnidiaeth
Edwina Hart; Iechyd a Materion Cymdeithasol
Leighton Andrews; Addysg
Jane Davidson; Amgylchedd
Jane Hutt; Busnes a Chyllid
Carl Sargeant; Llywodraeth Leol
Elin Jones; Materion Gwledig
Alun Ffred Jones; Treftadaeth
Wel, roedd pobol yn dweud bod Carwyn a phâr saff o ddwylo a does dim byd yn fan hyn i gorddi'r dyfroedd. Rwy'n synnu braidd bod Jane Hutt wedi goroesi. Oedd maint ei mwyafrif ym Mro Morgannwg yn ffactor, tybed?
Rwyf yn dechrau amau hefyd bod 'na rhyw gymal cudd yn Neddf Llywodraeth Cymru sy'n datgan nad yw llywodraeth yn ddilys os nad yw Gwenda Thomas yn ddirprwy weinidog!
Am y tro cyntaf ers dw'n i ddim pryd mae'n dawel 'ma'. Mae pawb yn palu trwy'r set ddiweddaraf o dreuliau aelodau seneddol. Mam gan ambell i un gwestiynau i'w hateb. Mwy am hynny yn y man.
Yn y cyfamser mae 'na ambell i sibrydiad ynghylch cabinet Carwyn. Jane Hutt yn aros wedi'r cyfan ac yn cymryd gofal dros gyllid a Leighton Andrews yn gofalu am addysg? Posib. Fel dwedais i. Sibrydion. Dim byd mwy.
Yn y cyfamser beth am balu trwy atodiad "Homes Wales" yn yr Echo. Beth yw hwn ar y clawr? TÅ· Crand o'r enw "Cefn Sal". Am enw! Mae'n rhaid bod y lle yn boen t*n! Fel mae'n digwydd mae 'na esboniad arall; "After building their own home Kevin and Sally decided to name it after themselves and came up with Cefn Sal". Anffodus!
Dyma gwestiwn cwis bach i chi. Pwy sy'n rhedeg Cymru ar hyn o bryd?
Nid Rhodri Morgan. Mae fe wedi mynd. Nid Carwyn Jones ychwaith. Mae'n rhaid iddo fe ddisgwyl sêl bendith y Frenhines.
Mae gweinidogion Llywodraeth Rhodri yn parhau yn eu swyddi ond pwy sydd wrth y llyw? Pwy sydd yn y sedd fawr? Credwch neu beidio am y tro cyntaf yn ei hanes y "blaid fach" sydd mewn grym. Ieuan yw'r "Greatest"!
Nawr, efallai y bydd hynny'n dod gwen i wyneb Ieuan. Rwy'n tybio y bydd 'na wen hyd yn oed yn fwy ar wyneb Glyn Davies wrth ddarllen y stori yn y Daily Mail.
"Passengers on board a luxurious cruise ship were shocked to find Lib Dem Lembit Opik joining them at a time when Parliament was sitting... the MP for Montgomeryshire... has just got back from a trip around the Canary Islands on board Cunard's second largest ship, the Queen Victoria... Opik, 44, was given a free six-day trip, worth around £3,000, in exchange for giving two lectures to the 2,000-odd passengers."
Ond pam mae teithwyr yn talu cymaint i glywed safbwyntiau Lembit? Wedi'r cyfan, mae'n bosib eu canfod am ychydig geiniogau'n unig ar dudalennau'r Sbort!
I ddod a gwen i wyneb pawb fe fydd Elinor Burnham yn canu carol i ni ar CF99 heno. Cofich wylio! Fe fydd Cunard yn ei bachu hi o fewn byr o dro!
Y bore wedi'r ffair yw heddiw yn y Bae! Mae'r rheiny sy ddim yn magu pennau tost ar ôl gwobrwyon "gwleidyddion y flwyddyn" yn ceisio dod dros holl gyffro a throeon trwstan ddoe a darllen yr ymysgaroedd ynghylch yr hyn sydd i ddod.
I'ch diweddaru mae'r Frenhines wedi derbyn ymddiswyddiad Rhodri Morgan gan ddiolch iddo am ei wasanaeth. Am ddau o'r gloch felly fe fydd y Cynulliad yn pleidleisio i ethol Carwyn Jones yn Brif Weinidog.
Ar ôl hynny fe fydd Carwyn yn cychwyn ar y gwaith o ddewis ei gabinet er bod angen mwy o fynd a dod rhwng y Bae a'r Palas cyn gallu cyhoeddi unrhyw beth. Mae'n bosib y bydd hin ddydd Gwener cyn i ni gael y darlun cyflawn.
Mae 'na awgrymiadau hefyd nad llenwi ambell i gadair wag fydd y Prif Weinidog newydd a'i fod yn ystyried gwneud yr hyn wnaeth Rhodri wrth olynu Alun Michael trwy ail-strwythuro'r portffolios a'r cyfrifoldebau.
Yn y cyfamser mae'r cynulliad yn cwrdd ag yn parhau a'r agenda arferol fel pe na bai'r llywodraeth ar fin gael ei hadrefnu. Mae 'na rywbeth swrrealaidd am y peth.
Un o'r pethau na ches i gyfle i blogio yn ei gylch ddoe oedd araith Andrew Davies ar ddiwedd y dadl ynghylch y gyllideb. Does dim dwy waith mai araith ffarwell oedd hi gan gynnwys diolchiadau i'r byd a'i wraig, myfyrdodau ynghylch ei yrfa a dyfyniadau o'i arwyr gwleidyddol.
Digon teg. Rhywdd hynt iddo.
A phwy yw hwn sydd ar ei draed heddiw yn ateb cweistynnau yn y siambr? Andrew Davies!
Mae pethau'n ddifrifol pan mae'r beirdd yn dechrau cyfrannu! Mae'r englyn yma o fewn y rheolau (jyst!) ac mae croeso i feistri cerdd dafod y Ceidwadwyr ymateb!
Esgus o ddyn yw Oscar - i'w hunan
yn unig mae'n deyrngar;
hen gnaf pob barn a'i llafar
a sbif pob egwyddor sbâr.
Y cwestiwn amlwg yw hwn. Os ydy Oscar yn ddyn mor ddi-egwyddor ( a dydw i ddim yn credu ei fod e) pam ei enwebu yn y lle cyntaf? Pwy oedd yn defnyddio pwy, tybed? Wedi'r cyfan o ychydig gannoedd o bleidleisiau'n unig yr enillodd Plaid Cymru ail sedd restr yn nwyrain de Cymru ac mae'n ddigon posib bod cefnogwyr personol yr ymgeisydd wedi gwneud gwahaniaeth.
Gyda'r Prif Weinidog yn rhoi ei dwls ar y bar ar ôl degawd ac Aelod Cynulliad yn croesi'r llawr am y tro cyntaf mae 'na beryg i ni, newyddiadurwyr y Cynulliad, golli persbectif. Wedi'r cyfan dyw'r hyn sy'n mynd ymlaen yn ein swigen ni yn y Bae ddim o gymaint a hynny o bwys i bobol ar lawr gwlad.
Oes 'na rywun sy'n gallu hoelio'n sylw ar y pethau pwysig mewn bywyd? Wrth gwrs bod 'na! Ydy, mae'n bryd i ni dalu ymweliad a'r Blaned Sbort a Lembit, y dyn a'i fys ar bwls!
Pwnc difrifol iawn sy dan sylw gyntaf sef newid hinsawdd ac uwch-gynhadledd Copenhagen. Mae Lembit yn gandryll bod ymgyrchwyr yn beio hedfan am ychwanegu at y broblem. Wedi'r cyfan mae hedfan yn beth da; "aviation is responsible for loads of goodstuff--from aid flights delivering food to poor countries, to Easyjet delivering you to Ibiza for beer and sunburn". Ond os ydy hedfan yn beth da sut mae achub y blaned? Mae gan Lembit yr ateb. Yr hyn sydd angen yw cael gwared ar "messy fuel-hungry things ". Ac eithrio awyrennau, wrth reswm!
Problemau'r di-waith sy dan sylw nesaf ac mae Lembit wedi sbotio swydd ym Mhrifysgol Leeds.
"They're looking for a researcher to do a full-time project on erotic dancing. The lucky candidate wiil get paid to meet and interview 300 lap-dancers and check out clubs... Sounds like a pretty cushy job but before people start calling it sleazy... projects like this allow the government to make the best decisions on how to regulate the night-time economy and protect girls from exploitation. So fair play to Leeds Uni and if they want a little helper I bet Sophia would be more than happy to hold the researcher's hand."
Dyw Lembit ddim yn dweud pryd mae'r job yn cychwyn ond os nad oes angen rhywun tan ar ôl Mai 2010 hwyrach y byddai'n gallach i gadw'r peth dan ei het- er ei les ei hun!
Mae rhai o'r sylwadau heddiw wedi cyhuddo Mohammad Asghar o beidio rhoi rhagrybudd i'w staff am ei benderfyniad i newid plaid. Mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn cadarnhau bod hynny'n wir.
Yn dechnegol mae'r staff yn cael eu cyflogi gan yr aelod nid y blaid. Ar bapur dylai penderfyniad yr aelod wneud dim gwahaniaeth i'w cyflogaeth. Yn realistig mae 'na ddyddiau llwm o'u blaenau. Ymhlith y pedwar gweithiwr syn cael ei gyflogi gan Oscar mae un o sêr ifanc Plaid Cymru, Steffan Lewis, darpar ymgeisydd y blaid yn Islwyn, ac un o'i hoelion wyth yng Nghaerffili John Taylor. Deallaf fod y staff mewn trafodaethau brys a'u hundeb.
Rwy'n synnu at allu Oscar a'r arweinydd Ceidwadol, Nick Bourne i gadw'r gyfrinach. Fe ddaeth y newyddion fel sioc i bawb ym Mhlaid Cymru a'r rhan fwyaf o Dorïaid hefyd. Efallai bod Nick yn ofni y byddai Ieuan Wyn Jones wedi llwyddo darbwyllo Oscar i newid ei feddwl pe bai'n cael y cyfle. Wedi'r cyfan, os mai cael ei wthio i lawr y rhestr gan Adam Price yn 2011 oedd yn becso Oscar (a dyna yw theori aelodau yn y ddwy blaid) efallai y byddai Ieuan wedi gallu lleddfu ei bryderon.
Yn y cyfamser mae'n rhyfeddod cyn lleied o amser wnaeth hi gymryd i newid ar wefan y Cynulliad. Ar y llaw arall go brin y bydd hyn yn wir am yn hir iawn;"Gwefan Personol; www.mohammadasghar.plaidcymru.org"
Mae'r holl helynt ynghylch Oscar wedi denu'r sylw i ffwrdd o ddiwrnod olaf Rhodri Morgan i ryw raddau ond roedd ei ateb olaf yn ei sesiwn gwestiynau olaf yn glasur!
Wrth ddisgrifio ffurfio clymblaid "Cymru'n Un" nododd bod Llafur wedi cymeradwyo'r glymblaid ar ddydd Gwener, Plaid Cymru wedi ei chefnogi ar y dydd Sadwrn a'i fod e wedi cael trawiad ar y galon ar y dydd Sul. Ai hwn gofynnodd y Prif Weinidog "oedd y tro cyntaf i'r croeshoeliad ddod tridiau ar ôl yr atgyfodiad?" Mae pawb yn mynd i golli leins fel 'na!
Efallai eich bod yn cofio'r ffwdan ynghylch cyfrifiad 2001 a diffyg blwch ticio i bobol nodi eu bod yn Gymry. Fe wnaeth y Pwyllgor Dethol Cymreig, sydd a mwyafrif Llafur, ymchwilio i'r peth ar y pryd gan ddod i'r yma;
"The failure to include a Welsh nationality tick box in the 2001 Census form is another example of the way in which Wales is sometimes simply overlooked at the UK level."
Fe fydd 'na flwch ticio Cymreig ar ffurflen cyfrifiad 2011 ond mae'r ffaith na fydd 'na un "Cernywaidd" wedi cythruddo rhai. Yr wythnos ddiwethaf fe gyflwynodd Aelod Seneddol Gogledd Cernyw, Dan Rogerson , sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol, seneddol i gynnwys blwch Cernywaidd. Methodd y cynnig o . O gofio pa mor gryf yr oedd Aelodau Seneddol Cymru yn teimlo am y ffaith bod Cymru yn "overlooked" yn 2001, tybed sut wnaethon nhw bleidleisio ynghylch Cernyw?
Dyma'r rhai oedd o blaid cynnig Dan Rogerson; Dai Davies, Hywel Williams, Mark Williams, Roger Williams a Jenny Willot.
Dyma'r rhai oedd yn erbyn y cynnig; Kevin Brennan, Chris Bryant, Martin Cayton, Ann Clwyd, Nia Griffith, Peter Hain, David Hanson, Dai Harvard, Kim Howells, Huw Irranca Davies, Siân James, Martyn Jones, Ian Lucas, Alun Michael, Madelaine Moon, Paul Murphy, Albert Owen, Chris Ruane, Mark Tami a Don Touhig.
Wel, mae heddiw yn ddiwrnod a hanner! Mae Rhodri yn gadael ac ar ben hynny mae Aelod Cynulliad newydd gyhoeddi ei fod yn croesi'r llawr. Mae Mohammad Asghar wedi ymuno a'r Ceidwadwyr!
Hwn yw'r tro cyntaf i aelod adael un blaid i ymuno ac un arall er bod tri wedi gadael neu wedi cael eu diarddel o blaid ac wedyn wedi eistedd fel aelodau annibynnol. Y tri hynny oedd Rod Richards, John Marek a Peter Law.
Efallai nad yw symudiad Mohammad Asghar yn gymaint â hynny o syndod. Mae e wedi bod yn aelod o'r blaid Geidwadol o'r blaen yn ogystal â phleidiau eraill. Beth yw'r rheswm am y penderfyniad? Yng ngeiriau Oscar ei hun "I believe in the Royal Family and one United Kingdom". Pam wnaeth Plaid Cymru ei ddewis yn lle cyntaf felly?
Cyn i chi ofyn does dim rhaid i aelod rhestr ymddiswyddo mewn achos fel yr un yma. Mae'n bosib dadlau nad oes gan aelod rhestr yr un fath o fandad personol ac aelod etholaeth ac y dylai fe felly ymddiswyddo. Nid dyna mae'r rheolau yn dweud.
Mae 'na gysur ym mhob colled ac mae 'na ddau gysur amlwg i Blaid Cymru yn y golled hon. Yn gyntaf mae'n rhoi modd i ddatrys rhai o'r problemau sy'n deillio o'r Pwyllgor Cyllid, pwyllgor y mae Oscar yn aelod ohono. Yn ail mae llwybr wedi ei agor i Adam Price gyrraedd y Cynulliad yn 2011.
Doedd hi ddim i fod felly. Roedd y posibilrwydd y byddai David Taylor yn cario baner Llafur yn Arfon yn ddigon i hela dyn i glafoerio ac estyn am y pop-corn. Mae gen i lot o amser i David ond fe fyddai ei agwedd ymosodol at ymgyrchu a chasineb rhai o bobol Plaid Cymru tuag ato wedi gwneud yr etholiad yn un difyr a dweud y lleiaf!
Rwyf wedi siomi braidd felly mai at Alun Pugh a nid David y mae Llafur wedi troi. Fel 'na mae. Mae'n amlwg bod Alun yn torri ei fol i ddod yn ôl i wleidyddiaeth llawn-amser ac ar ôl methu dod yn agos at sicrhau enwebiad cynulliad ym Mlaenau Gwent a Phontypridd mae sefyll yn Arfon yn rhoi rhyw fath o gyfle i fe. Cyfle o beth? Wel nid cyfle i fod yn Aelod Seneddol Arfon. Er bod y sedd newydd, ar bapur, yn ymylol does neb, hyd y gwn i, yn credu bod gobaith cath gan Lafur ei hennill tro nesaf.
Mae'n anodd osgoi'r casgliad felly bod Alun a'r un cymhellion a Christine Gwyther sy'n cynnig ei henw fel ymgeisydd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Nod y ddau, yn fy marn i, yw adeiladu cefnogaeth ar gyfer enwebiad fel ymgeisydd rhestr yn 2011. Does gan Lafur ddim aelodau rhestr yn y Gogledd ar hyn o bryd, wrth gwrs ond o ystyried maint ei mwyafrifoedd etholaethol mae 'na siawns go dda mai aelodau rhestr fydd rhai o gynrychiolwyr Llafur y gogledd yn y Cynulliad nesaf.
O ystyried hynny mae'n werth cofio pa mor uchel eu cloch oedd rhai o Lafurwyr y Gogledd wrth alw am wahardd ymgeiswyr etholaeth rhag cael eu cynnwys ar restr ranbarthol. Ydy pobol fel Ann Jones yn difaru erbyn hyn, tybed?
Un o'r is-etholiadau lleiaf cofiadwy yn ystod fy nghyfnod i yn y jobyn 'ma oedd is-etholiad Gwyr yn 1982. Gyda Gwynoro Jones yn sefyll (dros yr SDP) a Norman Tebbit yn rhoi sioc i bawb trwy ddefnyddio ei Gymraeg ifaciwi wrth ganfasio doedd yr etholiad ddim yn ddi-liw ond doedd e ddim yn un nodedig iawn chwaith.
Serch hynny roedd na un blaid fach ddiddorol ar y papur pleidleisio sef y "Democratiaid Cyfrifiadurol". Plaid storom Awst oedd hi wnaeth ddiflannu o fewn byr o dro. Doedd hynny ddim yn syndod chwaith. Wedi'r cyfan pwy, yn 1982, oedd yn gallu llyncu proffwydoliaeth hurt y blaid y byddai gan bron bob cartref gyfrifiadur o fewn byr o dro ac y byddai'r cyfrifiaduron hynny yn cysylltu a'i gilydd trwy ryw "rwydwaith" wyrthiol? Rhaid oedd credu hynny cyn hyd yn oed ystyried syniad y blaid o ddefnyddio'r dechnoleg i greu cyfundrefn o ddemocratiaeth uniongyrchol.
Mewn gwirionedd mae'r syniad o system ddemocrataidd lle nad oes 'na gwleidyddion na phleidiau yn hen fel pechod. Does dim angen cyfrifiaduron. Trwy loteri, wedi cyfan, yr oedd Athen yn dewis ei llywodraeth. Gweriniaeth Rhufain wnaeth fagu'r syniad o ddemocratiaeth gynrychioladol ac hyd y gwn i does 'na'r un wladwriaeth o unrhyw faint wedi ceisio efelychu system Athen ers hynny.
Mae hynny'n dod a ni at "Newid!" egin blaid sy'n bwriadu sefyll yn etholiad 2011. Mae ganddi swyddfa llawn-amser a ei olwg a'i amcan yw sefydlu cyfundrefn lle fyddai gan Gymru senedd wedi ei dewis trwy loteri a fyddai'n penodi llywodraeth o arbenigwyr.
Martin Davies perchennog cwmni dillad "" yw'r dyn tu ôl i'r blaid newydd. Mae ei gwmni yn arbenigo mewn cynhyrchu crysau, hwdis a bathodynnau ac arnynt sloganau gwladgarol. Mae'n rhyfedd felly bod "Newid" wedi mabwysiadu logo sy'n atgoffa dyn o un yr ymgyrch "Na" yn 1997 neu ai yfi yw'r unig un sy'n gweld tebygrwydd?
Hon yw sioe ffilmiau olaf 2009! Rwy'n mynd bant dros y Nadolig a dydw i ddim am ofyn i Aled ap Dafydd fydd yn gofalu am y blog fod yn "projectionist" dros dro! Mae hi braidd yn gynnar, efallai ond beth am fynd i ysbryd y Nadolig?
Nesaf dyma fideo gan Gymuned sy'n gwneud pwynt gwleidyddol mewn ffordd hynod o ddifyr a thymhorol.
Cywaith gan ddisgyblion Ynysoedd Heledd yw'r ffilm fer yma yng Ngaeleg yr Alban.
A bonws i orffen... "Manannan" ffilm beilot ar gyfer cyfres i ddysgwyr y Fanaweg.
Mae'r ddwy ffilm olaf yn dod o safle. Mae 'na lwyth o ffilmiau Gaeleg eraill ar y safle.
Un pwnc sy ddim wedi cael llawer o sylw'n ddiweddar yw'r ras i olynu Rhodri Morgan. Na nid yr yna, y llall! Pwy fydd yn cael yr enwebiad Llafur yng Ngorllewin Caerdydd nawr bod yr ymgeisydd amlwg, Eluned Morgan wedi tynnu ei henw allan o ystyriaeth
Does dim prinder enwau'n cael eu crybwyll. Yn eu plith dau o spads y Llywodraeth Mark Drakeford a Sophie Howe. Mae cyn arweinydd Cyngor Caerdydd, Russell Goodway yn gynghorydd yn yr etholaeth. Yn ôl y son mae Ramesh Patel wnaeth lwyddo i gadw Treganna allan o ddwylo Plaid Cymru, tra roedd wardiau cyfagos yn syrthio fel dail hefyd yn llygadu'r enwebiad.
Efallai eich bod yn cofio i'r Cynghorydd Patel fynd i drafferth ar ôl disgrifio cynlluniau i ymestyn Ysgol Gymraeg Treganna ar draul ysgol Saesneg leol fel "ethnic cleansing". Mae'r cynllun hwnnw ar ddesg y Gweinidog Addysg ar hyn o bryd ac mae'n bosib nad yw'r penderfyniad wedi ei gyhoeddi oherwydd ofnau y gallai ynghylch y pwnc fod yn sail i adolygiad barnwrol. Gwell yw aros tan iddo fynd yw'r rhesymeg, efallai!
Mae'n sicr bod y Gweinidog Addysg presennol Jane Hutt yn deall sensitifrwydd y sefyllfa. Wedi'r cyfan roedd hi ar un adeg yn cynrychioli ward cyfagos Glanyrafon ar y cyngor. Mae Jane yn debyg o golli ei lle yn Cabinet wythnos nesaf. Un o'i holynwyr posib yw Leighton Andrews. Nawr, atgoffwch fi i ba ysgol yr oedd plant Leighton yn mynd...
Os ydych chi'n un o'r rheiny sy'n ymddiddori yn yr hyn allai ddigwydd mewn refferendwm flwyddyn nesaf mae'n werth treulio ychydig o amser yn darllen erthygl Rachel Banner o "Gwir Gymru" draw ar safle . Mae'n cynnwys amlinelliad pur dda o'r themâu a dadleuon y byddai ymgyrch "na" yn cyflwyno yn ystod yr ymgyrch.
Problem yr ymgyrch "na" wrth gwrs yw mai cadw'r drefn fel ac y mae hi fyddai canlyniad pleidlais negyddol ac mae'n anodd dychmygu sut y gellid creu brwdfrydedd trwy ddadlau dros ragoriaethau LCOs a phwerau fframwaith! Mae'r ateb sy'n cael ei gynnig gan Rachel yn un clyfar.
Y bwriad yw portreadu'r cynulliad fel corff sy'n cynrychioli "elite" Cymru (y crachach fel byddai Don Touhig yn dweud), corff sydd ddim eto wedi gwneud digon i haeddu cael pwerau ychwanegol. Mae'r ymgyrch yn gwahodd yr etholwyr i hela'r neges yma i'w cynrychiolwyr yn y Bae "gweithiwch yn galetach, torrwch yn ôl ar eich costau, gwrandewch yn fwy astud ar y bobol ac wedyn fe wnawn ni ystyried rhoi rhagor o bwerau i chi. Tan hynny, anghofiwch hi!"
Fel dwedais i, dwi'n meddwl bod y lein yn un glyfar ac yn un a allai taro tant gyda'r etholwyr. Dwi'n fwy amheus am ail hanner y ddadl sef yr honiad y gallai cynyddu pwerau'r cynulliad arwain at dorri nifer yr aelodau seneddol o Gymru ac y byddai hynny'n andwyol i'n buddiannau ni.
Yn gyntaf wrth gwrs ni fyddai'r nifer o aelodau seneddol yn cael ei gwtogi o ganlyniad i bleidlais "ie". Gallai hynny ddigwydd rhyw ben, beth bynnag oedd canlyniad y bleidlais. Yng nghyd-destun refferendwm mae'n dipyn o fwgan o felly.
Mae 'na broblem arall da'r dacteg hon yn fy marn i. Mae hi wedi ei seilio ar y syniad bod pobol Cymru yn meddwl y byd o'i "hard won voice in parliament" tra'n dirmygu'r "elite" yn y Bae. Mae pob un darn o dystiolaeth sy 'na yn awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir a bod gan bobol Cymru llawer mwy o barch at eu haelodau cynulliad na'u haelodau seneddol. Os ydy "Gwir Gymru" am droi'r refferendwm yn gystadleuaeth poblogrwydd rhwng ASau ac ACau fe fydd pobol yr ochor ie wrth eu boddau!
"Marmite" oedd disgrifiad rhai o bobol Carwyn Jones o Edwina Hart yn ystod yr etholiad diweddar. Hynny yw, roedd pobol naill ai'n dwli arni neu'n ei chashau. Mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir am Andrew Davies ei threfnydd ymgyrch.
Doedd Andrew ddim wedi cau allan y posibilrwydd o aros yn y cabinet am ei ddeunaw mis olaf yn y Bae. Carwyn wnaeth gau'r drws yna trwy ddweud "rwy'n deall ei benderfyniad i ganolbwyntio'i egni ar ei etholwyr yng Ngorllewin Abertawe dros y 16 mis nesaf". Oi! Cawyn! Nid dyna ddywedodd e! Ti sy'n dweud hynny! Waeth i ti ychwanegu "caewch y drws ar y ffordd mas" ar ddiwedd y datganiad!
Yn y cyfamser mae ymadawiad Andrew yn creu problem i Peter Black. 1,511 oedd mwyafrif Andrew dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac mae Andrew'n boblogaidd yn yr etholaeth. Mae 'na bosibilrwydd go iawn y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio'r sedd yn 2011 ond gallai hynny olygu golli sedd restr Peter!
Lle sydd orau iddo sefyll felly, yr etholaeth neu'r rhestr? Fe fydd Peter yn gorfod darllen y "bar-charts" yn ofalus iawn. Rwy'n gobeithio ei fod yn gwneud y penderfyniad iawn. Mae ceisio dychmygu'r cynulliad heb Andrew yn ddigon gwael ond fe fyddai colli Peter hefyd yn ddigon i dorri calon dyn.
Mae gan Betsan bwynt da iawn ar ei blog ynghylch nifer yr aelodau cynulliad Llafur sy'n bwriadu ymddeol yn 2011. Gyda chyhoeddiad Andrew Davies mae'r cyfanswm bellach yn wyth, bron i draean yr aelodau presennol. Mae gan bob un ohonyn nhw eu rhesymau personol dros fynd ond mae'n anodd credu nad yw nifer yr ymddeoliadau hefyd yn dweud rhywbeth am gyflwr morâl o fewn y blaid.
Diddorol yw nodi nad yw'r un aelod o Blaid Cymru na'r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu gadael yn 2011 hyd yma er bod Alun Cairns a Janet Ryder yn ceisio am seddi seneddol.
Yn ogystal â phesimistiaeth mae 'na reswm arall am y nifer uchel o ymddeoliadau Llafur sydd eisoes wedi eu cyhoeddi. Dyw'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ddim wedi dechrau dewis ymgeiswyr cynulliad eto. Does dim pwysau ar aelodau fel Gareth Jones neu Brinle Williams i wneud penderfyniad felly.
Mae Llafur ar y llaw arall wrthi'n dewis yn barod. Mae plaid leol Andrew Davies yng Ngorllewin Abertawe, er enghraifft, yn cynnal cynhadledd ddewis ym Mis Ionawr. Un o'r rhesymau am y dewisiadau cynnar yw bod aelodau cynulliad am sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu cystadleuaeth gan gyn aelodau seneddol. Clywais fod un aelod cynulliad wedi dweud hyn am yr aelod seneddol sy'n cynrychioli'r un etholaeth "os ydy e'n colli ei sedd e dyw e ddim yn cael fy un i"!
Tra bod llwyth o aelodau cynulliad Lllafur am dorri allan o'r senedd mae'n ymddangos bod ambell i gyn-aelod yn ceisio torri yn ôl i mewn!
Yn ôl sibrydion y cyn aelod cynulliad Christine Gwyther yw'r ceffyl blaen i sefyll dros Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol. Does dim gobaith cath gan Lafur i ennill y sedd tro nesaf. Mae'n anodd osgoi'r casgliad felly mai adeiladu cefnogaeth o fewn y blaid yn y gobaith o gael lle ar restr y Gorllewin a'r Canolbarth y mae Christine. Wedi'r cyfan gydag Alun Davies wedi ei heglu hi am Flaenau Gwent mae 'na fwy o obaith iddi ddychwelyd fel aelod rhestr nac fel aelod etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin.
Dyma i chi ddatganiad newyddion rhyfedd gan Andrew Davies yn cyhoeddi ei fod am adael y Cynulliad yn 2011. Nid y penderfyniad sy'n syndod. Roeddwn i wedi cael achlust o'r peth neithiwr ac wedi lled-gyfeirio at y sibrydion ar CF99. Wedi'r cyfan, doedd Carwyn byth bythoedd yn mynd i gynnwys Andrew yn ei gabinet a dyw Andrew ddim yn ddyn y meinciau cefn. Na, dyw neidio cyn cael y pwsh ddim yn rhyfedd o gwbwl.
Ond y datganiad! Bois bach, dwi erioed wedi gweld shwt beth. Cofiwch mai o swyddfa Andrew ei hun mae hwn wedi dod. Mae'n cynnwys wyth dyfyniad gan wahanol fawrion yn canmol Andrew i'r cymylau. Mae'n arbed gwaith i ni newyddiadurwyr, efallai ond pam ar y ddaear cynnwys stwff fel hyn?
"His infectious enthusiasm and persistence are irresistible!"
"I can understand his wish to seek out new challenges but we will miss his judgement, political courage and good humour."
"Andrew Davies has a special talent: he makes everyone who works with him feel part of Team Wales."
"I was staggered to learn of Andrew's decision to stand down... I have no idea of his future plans, but this is a lucky day for some organisation which snaps him up."
"To say that his ability, initiative and loyalty will be missed within the party is a gross understatement and the Party will definitely be poorer."
Os ydych chi'n anwybyddu'r gemau pleidiol yr hyn sy'n gwahanu'r rheiny sy'n dymuno gweld refferendwm ar bwerau'r cynulliad flwyddyn nesaf a'r rheiny sy ddim yw eu barn ynghylch yr hyn fyddai'n digwydd.
Dyw'r rhai sydd am weld pleidlais ddim yn sicr y bydd hi'n cael ei hennill ond maen nhw'n meddwl nod 'na siawns go dda y byddai hi. Hyd yn oed os oedd hi'n cael ei cholli fyddai hynny ddim yn ddiwedd y byd ym marn y garfan hon. Ni fyddai'r pwerau presennol yn cael eu colli. Gellid parhau i sicrhau rhagor o bwerau deddfu trwy LCOs a phwerau fframwaith ac ymhen cwpwl o flynyddoedd gofyn y cwestiwn i'r cyhoedd am yr eildro mewn refferendwm arall.
Barn Peter Hain ac eraill yw y byddai'r bleidlais mwy na thebyg yn cael ei cholli oherwydd amhoblogrwydd cyffredinol gwleidyddion ar hyn o bryd. Fe fyddai hynny'n atal y broses ddatganoli am ddegawd. Ni fyddai pobol Cymru yn cymryd yn garedig at weld y cwestiwn yn cael ei ofyn drosodd a throsodd nes i'r gwleidyddion gael yr ateb y maen nhw'n dymuno clywed.
Un o'r pethau rhyfedd am y ras i ddewis yr arweinydd Llafur oedd bod y rhan fwyaf o bobol Plaid Cymru yn y Cynulliad am weld Edwina Hart yn ennill. Y teimlad oedd y byddai hi, mwy na thebyg, yn fodlon cymryd risg a galw pleidlais. Hi hefyd fyddai'r ffigwr Llafur fyddai'n gallu darbwyllo pleidleiswyr craidd y blaid nad rhyw gynllwyn 'nashi' oedd y refferendwm.
Mae Carwyn, yng ngolwg y pleidwyr, yn ddyn rhy bwyllog a rhy ofalus i fentro galw refferndwm heb fod yn saff o'i hennill. Maen nhw'n poeni hefyd bod arno fe ormod o ffafrau i aelodau seneddol y Blaid am eu cefnogaeth yn yr etholiad.
Amser a ddengys faint o sail sydd na i'r ofnau hynny ond mae'n werth nodi nad oedd angen cefnogaeth yr holl aelodau seneddol yna ar Carwyn i ennill yn y diwedd. Yn ddiarwybod i bawb roedd ei bobol wedi gosod sylfaeni cadarn i'w hymgeisydd ymhlith aelodau cyffredin y blaid ac undebwyr llafur dros gyfnod o flynyddoedd. Roedd rheiny'n hen ddigon i sicrhau ei fuddugoliaeth. Sgiliau felly sydd angen i ennill refferendwm hefyd.
Mae agwedd rhai o'r bobol sy'n mynnu "mynd amdani" beth bynnag yw'r amgylchiadau yn fy atgoffa fi o eiriau'r hen gân "Plas Gogerddan";
"A'r hyn atebai llais o'r mur,
Trwy Gymru tra rhed dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr"
Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n gân dwp pan oeddwn i'n bump oed a dwi dal i feddwl hynny. Yn amlach na pheidio byw'n llwfr sydd orau! Rhywle rhwng safbwyntiau cefnogwyr "refferendwm doed a ddelo" a rhai Peter Hain y mae'r strategaeth gywir i'r rheiny sy'n dymuno pleidlais "ie", fe dybiwn i. A phwy sy rhywle rhwng y safbwyntiau hynny? Carwyn Jones.
Gyda'r holl ddrama y tu allan i'r siambr does neb wedi bod talu rhyw lawer o sylw i'r trafodaethau y tu fewn iddi heddiw. Peidiwch â becso dydych chi ddim wedi colli llawer er bod y sesiwn yn dal i rygnu ymlaen a hithau bron yn saith o'r gloch.
Un datblygiad diweddar yn y Senedd yw caniatáu i aelodau ddangos fideos i gyfleu eu dadleuon. Mae'n syniad braidd yn rhyfedd a dweud y gwir. Does dim hawl gan aelod wahodd Mrs Jones, Cwmsgwt, i mewn i'r siambr i annerch yr aelodau ond mae perffaith hawl dangos fideo o Mrs Jones yn dweud eu dweud.
Yn ei dadl fer heddiw fe ddangosodd Bethan Jenkins fideo ynghylch cloddio glo brig ym Merthyr. Digon teg ond mae'n rhaid bod 'na rhyw fath o reolau ynghylch y peth. Os nac oes 'na dw'i fodlon cynnig ffeifer i unrhyw aelod sy'n trefnu i hon gael ei chwarae yn ystod sesiwn lawn!
Y prynhawn yma fe fydd Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones yn cwrdd am eu trafodaethau cyntaf ynghylch llywodraeth "newydd" y Jonesiaid. Rwy'n gosod "newydd" mewn dyfynodau gan ei bod o hyd yn seiliedig ar gytundeb "Cymru'n Un" Does 'na ddim ail-negodi i fod.
Dyw Ieuan chwaith ddim yn debyg o hwpo ei drwyn i mewn i ad-drefnu ochor Llafur y Cabinet. Mater i Carwyn yw hwnna. Ar y llaw arall mae'n bosib y bydd arweinydd Plaid Cymru yn lled awgrymu bod hi'n bryd cael cipolwg ar aelodaeth y pwyllgor cyllid, y pwyllgor sy'n gymaint o bla iddo!
Un peth ddylai Ieuan wybod yw bod gan Carwyn gythraul o "poker face". Roedd yr ymgeiswyr wedi cael gwybod canlyniad yr etholiad ychydig cyn y cyhoeddiad ddoe. Llwyddodd Carwyn i gadw wyneb syth wrth gerdded mewn i'r ystafell lle'r oedd y cyhoeddiad i fod. Cymaint felly nes i ddau o'i gefnogwyr pennaf argyhoeddi eu hun ei fod wedi colli!
Carwyn Jones yw'r arweinydd Llafur newydd. Doedd dim sioc funud olaf felly ac eithrio maint y fuddugoliaeth.
Beth sy nesaf, dwedwch? Perswadio pobol i ddefnyddio'r cyfenw cywir efallai!
Ta beth, fe fydd 'na ddigon amser i drafod y goblygiadau yn y man ond y peth cyntaf i nodi yw bod gan yr arweinydd newydd gythrau o fandad. Does arno fe ddim byd i'r ymgeiswyr eraill. Mae'n bosib y bydd Edwina neu Huw neu'r ddau yn y cabinet ond does y naill na'r llall yn gallu hawlio lle.
Gan fy mod wedi cyfaddef yn gynharach heddiw fy mod wedi colli etholiad i Leighton Andrews dyma gyfaddefiad arall. Fe nhad-cu wnaeth briodi taid a nain Carwyn. Diawch, mae Cymru'n lle bach!
Oce, mae pawb yn ddiamynedd heddiw. Dydw i ddim wedi clywed unrhyw beth, onest! Dyma ambell ddolen i'ch difyrru yn ystod yr oriau hir sydd o'n blaenau!
Mae'r Albanwyr yn dechrau dal lan 'da ni! Mae Â鶹Éç yr Alban wedi lansio blog gwleidyddol Gaeleg. Niall O'Gallagher sydd wrthi ac fe wnaeth e ddewis diwrnod da i lansio ei flog wrth i'r Papur Gwyn ar annibyniaeth i'r Alban gael ei gyhoeddi. Os nad ydych chi'n deall Gaeleg (ac rwy'n rhyfeddu bod rhai o ddarllenwyr y blog yma yn gallu) dyma farn Brian Taylor a dyma am gyflwr datganoli yn y Deyrnas Unedig. Gwell hwyr na hwyrach gyda'r ddolen olaf yna- ond mae'n werth darllen!
Mae ysgolian bach y Gogledd Orllewin oer o dan fygythiad ond nid yng Ngwynedd y tro hwn...
New York Times
Mae prif wrthblaid Awstralia mewn peryg o gwympo'n ddarnau. Mae hi newydd ethol ei thrydydd arweinydd mewn dwy flynedd, a hynny o un bleidlais!
Australian
Newid hinsawdd yw'r "iceberg" sy'n dryllio'r blaid ac mae'n suddo fel y Titanic!
SMH
Daw brawddeg y diwrnod o erthygl gan Owen Jones ar .
"Hegemonies of power are dynamic and are constantly being formed and reformulated through a conversation and debate between agents, be that of a covert or overt nature."
Pwy sy'n dweud nad yw Llafur yn siarad iaith y bobol? Ac yn olaf fe wnaeth rhywun hela'r neges yma i fi "ai fydd pobol Carwyn yn dathlu?" Drygionus.
Dim ond unwaith yr wyf wedi sefyll mewn etholiad ac etholiad Undeb Myfyrwyr oedd hwnnw. Fe wnes i golli. I Leighton Andrews. Roedd hynny yn ddigon i'm perswadio mai edrych ar wleidyddiaeth o'r tu fas oedd y llwybr cywir i fi mewn bywyd!
Ta beth, os nad yw pawb yn darllen yr ymysgaroedd yn anghywir, y prynhawn yma fe fydd Carwyn Jones yn cael ei ethol yn arweinydd Llafur. I Leighton y bydd y rhan helaeth o'r diolch am hynny. Etholiad Carwyn i'w golli oedd hwn. Roedd yn weddol saff o'i ennill os oedd ganddo ymgyrch effeithiol a does neb yn well trefnydd ymgyrch na Leighton. Rwy'n gwybod hynny o brofiad!
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.