Cornel y Beirdd
Mae pethau'n ddifrifol pan mae'r beirdd yn dechrau cyfrannu! Mae'r englyn yma o fewn y rheolau (jyst!) ac mae croeso i feistri cerdd dafod y Ceidwadwyr ymateb!
Esgus o ddyn yw Oscar - i'w hunan
yn unig mae'n deyrngar;
hen gnaf pob barn a'i llafar
a sbif pob egwyddor sb芒r.
Y cwestiwn amlwg yw hwn. Os ydy Oscar yn ddyn mor ddi-egwyddor ( a dydw i ddim yn credu ei fod e) pam ei enwebu yn y lle cyntaf? Pwy oedd yn defnyddio pwy, tybed? Wedi'r cyfan o ychydig gannoedd o bleidleisiau'n unig yr enillodd Plaid Cymru ail sedd restr yn nwyrain de Cymru ac mae'n ddigon posib bod cefnogwyr personol yr ymgeisydd wedi gwneud gwahaniaeth.
SylwadauAnfon sylw
Dwi yn credu fod hwn yn bwynt digon dilys. Dwi yn siwr ei fod wedi bod yn ffafriol i Blaid Cymru gael aelod o gymuned ethnig ar ei rhestr a bod hyn wedi bod o gymorth i ennill pleidleisiau fodd bynnag mae'n rhaid cwestiynnu egwyddor sy'n caniatau i berson aros mewn swydd heb wynebu ei etholwyr.
Beth fydd sefyllfa ei staff fyddant hwy yn gallu parhau i dderbyn cyflog gan Oscar tan yr etholiad nesaf a pharhau i weithio dros Blaid Cymru tan yr etholiad nesaf ? Dyna'r lleiaf y gellid ei ddisgwyl.
Dwi yn siwr fod cynsail ar gyfer hyn o gofio etholiadau seneddol.
Drosodd at Syr Wyn felly.
Ydi o'n un da am ganu mawl?
Vaughan.
Mae'r newyddion am Rhodri yn non-existent ar 麻豆社 News 24 (a does na'm AMPM heddiw) felly allwch chi gadarnhau os yw'r brenhines wedi derbyn ymddiswyddiad Rhodri (ac ydi hi wedi derbyn?).
Ac hefyd pryd ydych yn tybio cael y bleidlais am Prif Weinidog nesaf? pnanwn 'ma?
Diolch!
Ydy mae'r fernhines wedi debyn yr ymddiswyddiad. Disgwylir i'r Prif Weinidog gael ei ethol am ddau.
Rydw i yn dal i ddarllen dy flogiau Vaughan ar y pwnc yma. Synnu nad oes NEB o鈥檙 De ddwyrain sydd yn ymwneud a'r Blaid yn ymateb. Wn i pam???
O鈥檙 diwedd mae rhai pobol yn dechrau gofyn cwestiynau. Roedd cefndir Osgar yn amlwg i lawer o'r funud gyntaf ymunodd gyda'r Blaid. Ddaeth yn gynghorydd sir gan ei fod mewn ward 鈥渓iwgar鈥 i ddenu llawer o bleidleisiau, ond gofynner beth oedd ei gyfraniad i'r ward ac i'r Ddinas pan oedd yn aelod o'r cyngor. Clywodd rhywun e yn areithio erioed yn siambr y cyngor?
Wrth gwrs mae hanes am Osgar!! Holwch sut ddaeth i'r amlwg yng Nghasnewydd tua 5/6 mlynedd yn 么l. Hefyd gofynnwch sut cymerwyd cangen Casnewydd o'r Blaid drosto gan e a'i deulu!! Hefyd gofynnwch pwy oedd yn brwydro mor ffyrnig i gael e ar y rhestr i ddechrau, a'r pwysau ar aelodau cyffredin i bleidleisio drosto oherwydd lliw ei groen a'i grefydd.
Ie pwy oedd yn defnyddiodd pwy? Nawr efallai gawn i ambell i ateb!!!
Beth sydd yn fy mhoeni i a llawer un arall yw'r cwestiwn o egwyddor sy'n caniat谩u i berson aros mewn swydd heb wynebu ei etholwyr? Ond i Osgar beth yw egwyddor? Mae hwn yn hen hanes a dydy e ddim yn becso'r dam!!
Gwych o gwpled
Esgus o ddyn yw Oscar - i'w hunan
yn unig mae'n deyrngar;
Mae yn dweud y cwbl ond beth hefyd am y 鈥淏ack room boys鈥?????
Chwerthinllyd yw ymateb y Blaid i helynt Mohammad Asghar mewn gwirionedd. Dewis Unoliaethwr yn ymgeisydd ac yna cwyno ei fod yn ymuno a phlaid unoliaethol maes o law!
Un peth wnaeth fy nharo i yn y busnes yma oedd son am Syr Wyn Roberts.
Dyna ddyn a allai fod wedi sefyll dros unrhyw blaid yn 1970, ac aeth trwy ei yrfa wleidyddol heb fawr o gredoau gwleidyddol (Dyna pam, mi dybiwn , na chafodd ei ddyrchafu - dim digon o ddogma ac argyhoeddiad i Mrs Thatcher).
Soniai 'Oscar' ei fod fel llais ' parot yn y jwngwl' pan yn trafod polisi'r blaid : onid oedd neb yn dechrau sylwi ei fod wedi dod i'r ystafell anghywir ?
' I propose a toast to the queen , Ieuan ! '
' Ho , ho ,very funny Oscar , now about our plans for a Welsh parliament'
' I want to abolish the assembly , Ieuan '
' Ha ha , even funnier ! what about the language bill ?'
' Scrap it , Ieuan .........'