Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tua'r Gorllewin

Vaughan Roderick | 12:46, Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2009

logo1.gifUn pwnc sy ddim wedi cael llawer o sylw'n ddiweddar yw'r ras i olynu Rhodri Morgan. Na nid yr yna, y llall! Pwy fydd yn cael yr enwebiad Llafur yng Ngorllewin Caerdydd nawr bod yr ymgeisydd amlwg, Eluned Morgan wedi tynnu ei henw allan o ystyriaeth

Does dim prinder enwau'n cael eu crybwyll. Yn eu plith dau o spads y Llywodraeth Mark Drakeford a Sophie Howe. Mae cyn arweinydd Cyngor Caerdydd, Russell Goodway yn gynghorydd yn yr etholaeth. Yn ôl y son mae Ramesh Patel wnaeth lwyddo i gadw Treganna allan o ddwylo Plaid Cymru, tra roedd wardiau cyfagos yn syrthio fel dail hefyd yn llygadu'r enwebiad.

Efallai eich bod yn cofio i'r Cynghorydd Patel fynd i drafferth ar ôl disgrifio cynlluniau i ymestyn Ysgol Gymraeg Treganna ar draul ysgol Saesneg leol fel "ethnic cleansing". Mae'r cynllun hwnnw ar ddesg y Gweinidog Addysg ar hyn o bryd ac mae'n bosib nad yw'r penderfyniad wedi ei gyhoeddi oherwydd ofnau y gallai ynghylch y pwnc fod yn sail i adolygiad barnwrol. Gwell yw aros tan iddo fynd yw'r rhesymeg, efallai!

Mae'n sicr bod y Gweinidog Addysg presennol Jane Hutt yn deall sensitifrwydd y sefyllfa. Wedi'r cyfan roedd hi ar un adeg yn cynrychioli ward cyfagos Glanyrafon ar y cyngor. Mae Jane yn debyg o golli ei lle yn Cabinet wythnos nesaf. Un o'i holynwyr posib yw Leighton Andrews. Nawr, atgoffwch fi i ba ysgol yr oedd plant Leighton yn mynd...

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:11 ar 4 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Rhobat Bryn:

    Dw i ddim yn deall at beth dych chi'n cyfeirio pan dych chi'n son am sylwadau Rhodri Morgan.

  • 2. Am 16:33 ar 4 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n flin gen i, Rhobat. Cyfeirio at ymateb Rhodri i sylwadau Ramesh oeddwn i. Dyma'r ddolen; Rwyf wedi ychwanegu'r ddolen at y post i'w gwneud yn fwy eglur

  • 3. Am 16:45 ar 4 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Mike Parker:

    Dydy'r linc ddim yn gweithio.

  • 4. Am 21:50 ar 4 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

  • 5. Am 18:10 ar 5 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd jon jones:

    Sori Vaughan mae hwn yn hollol "off subject" ond allai ddim meddwl am ffordd arall o gael ateb i'r cwestiwn. Rwyf newydd gael sgwrs gyda fy ngwraig lle ddwedais i fod ffermwyr wedi lladd buwch tu fas i bencadlys y Swyddfa Gymreig (neu efalle yn amser y Cynulliad oedd e) ym Mharc Cathays fel rhan o brotest yn erbyn y gwaharddiad BSE. Doedd hi ddim yn credu fi. Ydw i'n mynd yn wallgof neu ydych chi'n cofio'r achlysur hefyd? Os felly, gallech chi bostio dolen i'r stori ar y we?

  • 6. Am 11:25 ar 6 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ydw, roeddwn i yno! Yn ystod helynt y cwotau llaeth digwyddodd y peth os gofia i'n iawn. Yr hyn wnaethon nhw oedd dympio corff buwch farw ar stepiau hen adeilad y Swyddfa Gymreig. Roedd hi'n amlwg i gyflwr yr anifail ei bod wedi ei lladd neu wedi trigo yn ddiweddar iawn ond dwn i ddim am amgylchiadau'r farwolaeth.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.