Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

I blas Gogerddan heb dy dad...

Vaughan Roderick | 20:26, Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2009

tn-DARE08.jpgOs ydych chi'n anwybyddu'r gemau pleidiol yr hyn sy'n gwahanu'r rheiny sy'n dymuno gweld refferendwm ar bwerau'r cynulliad flwyddyn nesaf a'r rheiny sy ddim yw eu barn ynghylch yr hyn fyddai'n digwydd.

Dyw'r rhai sydd am weld pleidlais ddim yn sicr y bydd hi'n cael ei hennill ond maen nhw'n meddwl nod 'na siawns go dda y byddai hi. Hyd yn oed os oedd hi'n cael ei cholli fyddai hynny ddim yn ddiwedd y byd ym marn y garfan hon. Ni fyddai'r pwerau presennol yn cael eu colli. Gellid parhau i sicrhau rhagor o bwerau deddfu trwy LCOs a phwerau fframwaith ac ymhen cwpwl o flynyddoedd gofyn y cwestiwn i'r cyhoedd am yr eildro mewn refferendwm arall.

Barn Peter Hain ac eraill yw y byddai'r bleidlais mwy na thebyg yn cael ei cholli oherwydd amhoblogrwydd cyffredinol gwleidyddion ar hyn o bryd. Fe fyddai hynny'n atal y broses ddatganoli am ddegawd. Ni fyddai pobol Cymru yn cymryd yn garedig at weld y cwestiwn yn cael ei ofyn drosodd a throsodd nes i'r gwleidyddion gael yr ateb y maen nhw'n dymuno clywed.

Un o'r pethau rhyfedd am y ras i ddewis yr arweinydd Llafur oedd bod y rhan fwyaf o bobol Plaid Cymru yn y Cynulliad am weld Edwina Hart yn ennill. Y teimlad oedd y byddai hi, mwy na thebyg, yn fodlon cymryd risg a galw pleidlais. Hi hefyd fyddai'r ffigwr Llafur fyddai'n gallu darbwyllo pleidleiswyr craidd y blaid nad rhyw gynllwyn 'nashi' oedd y refferendwm.

Mae Carwyn, yng ngolwg y pleidwyr, yn ddyn rhy bwyllog a rhy ofalus i fentro galw refferndwm heb fod yn saff o'i hennill. Maen nhw'n poeni hefyd bod arno fe ormod o ffafrau i aelodau seneddol y Blaid am eu cefnogaeth yn yr etholiad.

Amser a ddengys faint o sail sydd na i'r ofnau hynny ond mae'n werth nodi nad oedd angen cefnogaeth yr holl aelodau seneddol yna ar Carwyn i ennill yn y diwedd. Yn ddiarwybod i bawb roedd ei bobol wedi gosod sylfaeni cadarn i'w hymgeisydd ymhlith aelodau cyffredin y blaid ac undebwyr llafur dros gyfnod o flynyddoedd. Roedd rheiny'n hen ddigon i sicrhau ei fuddugoliaeth. Sgiliau felly sydd angen i ennill refferendwm hefyd.

Mae agwedd rhai o'r bobol sy'n mynnu "mynd amdani" beth bynnag yw'r amgylchiadau yn fy atgoffa fi o eiriau'r hen gân "Plas Gogerddan";

"A'r hyn atebai llais o'r mur,
Trwy Gymru tra rhed dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr"

Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n gân dwp pan oeddwn i'n bump oed a dwi dal i feddwl hynny. Yn amlach na pheidio byw'n llwfr sydd orau! Rhywle rhwng safbwyntiau cefnogwyr "refferendwm doed a ddelo" a rhai Peter Hain y mae'r strategaeth gywir i'r rheiny sy'n dymuno pleidlais "ie", fe dybiwn i. A phwy sy rhywle rhwng y safbwyntiau hynny? Carwyn Jones.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:04 ar 2 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Efallai dy fod wedi esbonio hyn eisoes ond dwi yn ceisio cael claerder ynghlyn a'r broses yn fy meddwl. Oes rhywun all helpu ?

    Gyda etholiad cyffredinol rhywle rhwng Mai a Mehefin. Beth yw'r dyddiad olaf cyn etholiad fyddai Peter Hain yn gallu rhoi caniatad ? Petai Peter Hain wedi rhoi ei ganiatad cyn yr etholiad ond bod Llafur yn colli a fyddai yn rhaid i'r Ceidwadwyr gadw at ei addewid ac os felly beth fyddai'r amserlen. Beth hefyd fyddai'r cyfnod lleiaf sydd yn rhai ei ganiatau rhwng cyflwyno cais a chynnal etholiad a ellid ei gyfuno gyda dyddiad yr etholiad cyffredinol. Tybed a fyddai rhai Toriaid yn dymuno rhoi caniatad yn gynnar ar ol buddugoliaeth yn y gobaith y byddai'r bleidlais yn methu. O aros mae'n bosibl y byddai effaith ei polisiau yn uno gwrthwynebwyr ac yn cryfhau'r dadl dros gryfhau pwerau'r Cynulliad. Mae gen i nifer o gwestiynnau eraill ond dwi yn meddwl fod hwnna yn ddigon o gowdal ar hyn o bryd.

  • 2. Am 23:38 ar 2 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    1. Yn dechnegol gallai Peter Hain rhoi caniatad ar unrhyw adeg cyn i'r Prif Weinidog ymddiswyddo ar ôl colli etholiad. Mae gweinidogion yn parhau'n weinidogion tan hynny. Serch hynny mae'n draddodiad mai dim ond penderfyniadau cwbwl angenrheidiol sy'n cael eu gwneud ar ôl galw etholiad.

    2. Nid oes modd i lywodraeth newydd negyddu'r penderfyniad heb gyflwyno mesur i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru.

    3. Yn sicr mae rhai o wrthwynebwyr datganoli pellach am weld refferendwm gynnar.

  • 3. Am 09:29 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    Dwi'n credu y bydd yna 'boodbath' ar ryw adeg wedi'r Toriaid i ennil yr etholiad nesa'. Rwy'n golygu'r toriadau mawr yng ngwariant a swyddi cyhoeddus. Rwy'n cytuno gyda hyn. Mae'r cwpwrdd yn cael ei lenwi gydag arian benthyg. Ond, fel Cymro i'r carn, rwyf am gweld y refferendwm yn llwyddo. Dwi'n meddwl y byddai hi'n well aros hyd nes fydd effeithiau pendyrfyniadau'r Toriaid yn cael eu teimlo. Ond wedi dweud hyn....a fyddan't yn gallu argyhoeddi'r cyhoedd (y Cymry yn ogystal)yn gyffredinol fod y toriadau 'ma'n gwbwl angenreheidiol?

  • 4. Am 11:52 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Hendre:

    Byddai pleidlais ‘na’ mewn refferendwm ar Ran 4, yn dechnegol, yn cymeradwyo’r setliad sydd ohoni. Ond ryn ni i gyd yn gwybod fyddai hi ddim yn hir nes bod pobl Gwir Gymru yn honni mai pleidlais yn erbyn datganoli oedd y canlyniad. Byddai'r ymgyrch dros ddiddymu’r Cynulliad yn dechrau o ddifri y diwrnod ar ôl unrhyw bleidlais 'na'. Dyna’r broblem i’r rhai sydd o blaid pleidlais ‘ie’.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.