Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Cabinet

Vaughan Roderick | 14:43, Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2009

cathays.jpgDyma Nhw;

Carwyn Jones Prif Weinidog
Ieuan Wyn Jones; Dirprwy Brif Weinidog, Economi a Thrafnidiaeth
Edwina Hart; Iechyd a Materion Cymdeithasol
Leighton Andrews; Addysg
Jane Davidson; Amgylchedd
Jane Hutt; Busnes a Chyllid
Carl Sargeant; Llywodraeth Leol
Elin Jones; Materion Gwledig
Alun Ffred Jones; Treftadaeth

Cwnsler Cyffredinol; John Griffiths

Dirprwy Gweinidogion; Lesley Griffiths, Huw Lewis, Gwenda Thomas, Jocelyn Davies

Prif Chwip; Janice Gregory

Wel, roedd pobol yn dweud bod Carwyn a phâr saff o ddwylo a does dim byd yn fan hyn i gorddi'r dyfroedd. Rwy'n synnu braidd bod Jane Hutt wedi goroesi. Oedd maint ei mwyafrif ym Mro Morgannwg yn ffactor, tybed?

Rwyf yn dechrau amau hefyd bod 'na rhyw gymal cudd yn Neddf Llywodraeth Cymru sy'n datgan nad yw llywodraeth yn ddilys os nad yw Gwenda Thomas yn ddirprwy weinidog!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:10 ar 10 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Holwr:

    A yw'r swydd datblygu economaidd wedi dod i ben?

  • 2. Am 19:08 ar 10 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nac ydy, fi oedd ar ormod o frys i deipio'r teitlau llawn! Mae IWJ o hyd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd ond gyda un newid pwysig. Gweler y post "tan ar groen"

  • 3. Am 19:21 ar 10 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Josgin:

    A all unrhyw un fy hysbysu beth yw agwedd Leighton Andrews at y Gymraeg ac addysg Gymraeg ?

  • 4. Am 23:04 ar 10 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Roeddwn i yn y coleg gyda Leighton ac fe ddewisodd e fyw yn y Neuadd Gymraeg er mwyn ceisio dysgu'r iaith -er nad oedd yr ymdrech yn llwyddiannus iawn ar y pryd! Cafodd ei blant ei hun addysg Gymraeg. Ydy hynny'n help?

  • 5. Am 18:55 ar 14 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Josgin:

    Diolch yn fawr

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.