Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yosser

Vaughan Roderick | 12:01, Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2009

blackstuff_mid1_150x200.jpgDyma i chi ddatganiad newyddion rhyfedd gan Andrew Davies yn cyhoeddi ei fod am adael y Cynulliad yn 2011. Nid y penderfyniad sy'n syndod. Roeddwn i wedi cael achlust o'r peth neithiwr ac wedi lled-gyfeirio at y sibrydion ar CF99. Wedi'r cyfan, doedd Carwyn byth bythoedd yn mynd i gynnwys Andrew yn ei gabinet a dyw Andrew ddim yn ddyn y meinciau cefn. Na, dyw neidio cyn cael y pwsh ddim yn rhyfedd o gwbwl.

Ond y datganiad! Bois bach, dwi erioed wedi gweld shwt beth. Cofiwch mai o swyddfa Andrew ei hun mae hwn wedi dod. Mae'n cynnwys wyth dyfyniad gan wahanol fawrion yn canmol Andrew i'r cymylau. Mae'n arbed gwaith i ni newyddiadurwyr, efallai ond pam ar y ddaear cynnwys stwff fel hyn?

"His infectious enthusiasm and persistence are irresistible!"

"I can understand his wish to seek out new challenges but we will miss his judgement, political courage and good humour."

"Andrew Davies has a special talent: he makes everyone who works with him feel part of Team Wales."

"I was staggered to learn of Andrew's decision to stand down... I have no idea of his future plans, but this is a lucky day for some organisation which snaps him up."

"To say that his ability, initiative and loyalty will be missed within the party is a gross understatement and the Party will definitely be poorer."

Andrew Davies neu Yosser Hughes? Barnwch chi!

Gissa job.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:40 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Mihangel:

    Dechreuad y CV gorau erioed efallau!

  • 2. Am 13:09 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Mae'n rhaid bod hynny'n gwneud Gorllewin Abertawe yn fwy o darged i'r Rhyddfrydwyr nag erioed, dydi?

  • 3. Am 13:51 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    Ceisio argyhoeddi'i hun?

  • 4. Am 13:55 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt da iawn! Mae gan Andrew enw da iawn yn Abertawe am sicrhau datblygiadau megis SA1 ac Amazon.

  • 5. Am 19:20 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Josgin:

    Biti. Clywais o ffynhonell annibynnol sydd yn uchel ei barch o fewn y byd addysg mai Andrew Davies oedd yr unig AC bron oedd a diddordeb mewn gwyddoniaeth , technoleg a mathemateg . Yr ydym bellach wedi disgyn y tu ol i Lloegr yn y meysydd yma oherwydd diffyg arbennigedd ymysg gweision sifil a gwenidogion.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.