Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2009

Pris y farchnad

Vaughan Roderick | 13:47, Dydd Mercher, 29 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Dyw ddim yn blogio mor aml â hynny. Mae hynny'n biti. Mae ei sylwadau wastad yn fachog a darllenadwy. Yn sydyn yr wythnos hon mae Adam wedi blogio dwywaith mewn deuddydd sy'n rhyw fath o record iddo fe. Beth yw'r rheswm am hynny?

Ydy Martin Shipton ar wyliau?

Nac ydy.

Mae'n ymddangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi llwyddo i fynd dan groen Adam er eu bod nhw yn ei farn ef yn "directionless, Anglo-centric and, if you don't mind me saying, slightly insipid". Pam maen nhw'n haeddu dau bost mewn deuddydd felly?

Cofiwch, mae'r frawddeg yma o eiddo Adam yn haeddu gwobr. "Being accused of being "other worldly" by Peter Black is a bit like being called a geek by someone at a Star-Trek convention."

Miaw.

Diweddariad;Mae'r sylw yma wedi ymddangos ar flog Adam;

"Adam, we are the only party opposing tuition fees in the Assembly, however we are always willing to work with others to help students. Why not get in touch and let's talk about how we can campaign together on this issue." Kirsty Williams AM

Rwy'n cael ar ddeall bod y sylw yn un go iawn gan Kirsty. Diawch, mae ganddi ddigon o amser ar ei dwylo!

.


Real Blincin Smonach

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Mercher, 29 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Rydym i gyd yn gyfarwydd a helyntion y Royal Bank of Scotland, y banc trachwantus hwnnw y bu'n rhaid i'r trethdalwyr achub ar gost o £33 biliwn. O leiaf gyda'r trethdalwyr bellach yn berchen y rhan fwyaf o'r cwmni fe fyddai rhyw un yn disgwyl rhyw faint o wyleidd-dra ar ran ei reolwyr.

Ond beth yw hyn? Yn ôl y "" mae'r banc wedi penderfynu gwahardd cwsmeriaid rhag sgwennu sieciau yng Ngaeleg yr Alban.

"A RBS spokesman said the bank was pleased to offer customers the choice of having their cheque books and statements printed in Gaelic. "But it is necessary, when customers issue cheques, that they are written in English, as in the UK that is the language understood by all those through whose hands the cheque may pass from the time it is issued until it is paid. We, as paying bank, must be able to verify that the amount written in words is the same as the amount shown in figures. If Gaelic is used, that would require having Gaelic readers at every place where Gaelic cheques may be presented. For practical reasons that is not possible, so we must insist cheques are written in English."

Ydy'r un polisi yn bodoli yng nghanghennau RBS (a'i is-gwmni Nat West) yng Nghymru? Go brin. Efallai y gallai'r banc dalu pensiwn Syr Fred mewn sieciau Gaeleg ac yna gwrthod eu prosesi!

Y cyntaf i'r felin...

Vaughan Roderick | 17:03, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (4)

Pa aelod cynulliad sy wedi ennill y llys enw "Windy"? Atebion ar gerdyn post. Dyma gliw bach.

Does 'na ddim cymaint â hynny o lysenwau yn y byd gwleidyddol. Fedrwch chi ddyfalu pwy yw;

1. Peaches

2. Jabba

3. Dave Spikey

4. Y Feical

5. Uncle Bryn

6. Swiss Tony

7. * wedi ei ddileu. Diolch i'r rheiny wnaeth negeseuo i dynnu fy sylw at un ystyr nad oeddwn wedi ei ddirnad. Ymddiheuriadau.

8. Woger Wabit

9. Lyrch y bytlar

Manion

Vaughan Roderick | 14:18, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Dyma sioc i chi! Mae'r pwyllgor dethol Cymreig wedi barnu bod yr ynghylch darparwyr gofal "yn glir yn gymwys ac yn gwbwl addas". Oes a wnelo hynny unrhyw beth a'r ffaith bod yr LCO yn adeiladu ar waith y Ddeddf Gofal? Roedd honno'n fesur preifat wedi ei chyflwyno gan Hywel Francis- sy'n digwydd bod yn gadeirydd y pwyllgor dethol.

"Hyderus yn hytrach na phryderus." Dyna ddisgrifiad Rhodri Morgan o agwedd y llywodraeth tuag at y posibilrwydd o bandemig ffliw moch. Trwy gyd-ddigwyddiad cynhaliwyd ymarferiad ynghylch digwyddiad o'r fath wythnos ddiwethaf. Enw'r ymarferiad oedd "Operation Taliesin". Pam yr enw hwnnw? Does neb yn siŵr iawn. Yr unig esboniadau posib yw bod taliesin yn golygu "talcen disglair" yn yr oesoedd canol ac felly yn cyfeirio at olwg chwyslyd cleifion neu fod rhyw un wedi dewis yr enw ar fympwy! Yr ail yw'r esboniad mwyaf tebygol. Does 'na ddim llawer o weision sifil sy'n arbenigo ar Gymraeg Canol!

Yfory fe fydd y llywodraeth yn lansio strategaeth dwristiaeth bwyd i Gymru. Syniad rhagorol. Beth am gychwyn gydag ymgyrch i ddiogelu a hybu ein ?

Y gwin yn troi'n sur

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (4)

Diawch, mae 'na ddeunydd darllen amrywiol yn y swydd yma. Dyma fi'n pori'n gyntaf trwy (pdf) sy'n dweud hyn;

"Rhaid i Aelodau'r Cynulliad...ymddwyn yn anrhydeddus bob amser...dylai Aelodau'r Cynulliad bob amser ymddwyn mewn ffordd a fydd yn cynnal a chryfhau ffydd a hyder y cyhoedd yn unplygrwydd y Cynulliad ac osgoi unrhyw ymddygiad a fydd yn dwyn gwarth ar y Cynulliad neu ar ei aelodau'n gyffredinol."

Oes modd cymhwyso datganiad Alun Davies a'r rheol yna, tybed? Ydy dweud hyn am Trish Law yn "dwyn gwarth ar y cynulliad neu ae ei aelodau'n gyffredinol"?

"The current incumbent does little or nothing to fight for Blaenau Gwent. Her contributions to the Assembly are woeful. She has let down the people of Blaenau Gwent and broken the promises she made."

A beth am ymateb Kirsty Williams?

"If he does win I hope he dopes a better job for Blaenau Gwent than he's done for the people of Mid and West Wales"

O son am Kirsty fe wnes i ofyn iddi heddiw a oedd hi'n gysurus a sylwadau Lembit Opik ynghylch y Ffrancod yn ei golofn yn y "Daily Sport". Yr ymateb? "Dydw i ddim yn darllen y Daily Sport. Efallai dylwn i."

Fe wnâi ar dy ran di, Kirsty. Dyma berl diweddaraf aelod Maldwyn.

"Overall, the recovery plan looks good, although not as good as Sport stunna Kelly McGregor (left)"

Ni allaf ddianc rhag hwn.


Mae'r chwarae'n troi'n chwerw...

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Sylwadau (1)

Beth wnawn ni o hyn, tybed? Mae Alun Davies wedi penderfynu ceisio am yr ymgeisyddiaeth Lafur ym Mlaenau Gwent yn hytrach nac amddiffyn ei sedd bresennol fel aelod rhestr yn y Gorllewin a'r Canolbarth.

Yn yr hinsawdd bresennol mae'n ymddangos yn benderfyniad rhyfedd. Does 'na ddim awgrym, hyd y gwelai i, na fyddai Llafur yn gosod Alun ar frig y rhestr yn ei ranbarth yn 2011. Gyda Llafur yn annhebyg o adennill etholaethau yn y rhanbarth hwnnw y tro nesaf gallai Alun fod yn ddigon hyderus o gadw ei le yn y cynulliad.

Ym Mlaenau Gwent fe fydd e'n wynebu Trish Law a'r peiriant annibynnol sydd wedi llwyddo i ennill y sedd cynulliad (dwywaith) a'r sedd seneddol (dwywaith) ac sydd wedi disodli Llafur ar y cyngor lleol. Mae Alun wedi dewis gweithio ar dalcen caled iawn felly ac o'r cychwyn mae e wedi penderfynu gwneud y frwydr yn un bersonol. Mae'n dweud hyn yn ei ddatganiad.

"The current incumbent does little or nothing to fight for Blaenau Gwent. Her contributions to the Assembly are woeful. She has let down the people of Blaenau Gwent and broken the promises she made. Enough is enough."

Dydw i ddim yn cofio un aelod cynulliad yn bod mor bersonol ynghylch un arall. Beth yw'r esboniad am y penderfynniad a'r geiriau cryfion? Casineb traddodiadol aelodau Llafur tuag at "fradwyr" sy'n gadael y blaid neu'r angen i rywun sydd wedi dod at Lafur o blaid arall i brofi ei deyrngarwch llwythol? Ychydig o'r ddau efallai.

Clyfar

Vaughan Roderick | 19:35, Dydd Llun, 27 Ebrill 2009

Sylwadau (3)

"The Board of S4C Digital Media Ltd has announced that it has sold its shareholding in SDN Ltd ("SDN") to ITV plc ("ITV") for a net consideration of approximately £34 million in cash."

"SDN was purchased in April 2005 for £134 million (€150m) from a consortium of United Business Media and S4C. NTL Broadcast, which later became part of Arqiva, was also a shareholder"

27/4/2005

Bargen! Beth yw gwerth SDN heddiw yn wyneb yr argyfwng economaidd? Y nesaf peth i ddim byswn i'n tybio! Go brin y byddai'n fwy na'r £3 miliwn o doriad yng nghyllideb S4C!

"ITV is looking to offload it as part of a series of cost-cutting measures designed to balance its books. The sale of SDN could raise about £200m (US$291.8m), according to reports."

"Investment bank Numis described SDN as an "excellent business" and a "hidden gem"" within ITV that generated £33m in revenue for the broadcaster in 2008."

Oes angen dweud?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Sul, 26 Ebrill 2009

Sylwadau (1)

Dyma ffilmiau'r penwythnos.Diolch am eich awgrymiadau.

Fersiwn Awstralia o John Bird a John Fortune yw John Clarke a Bryan Dawe. Dyma nhw yn trafod y sefyllfa economaidd.

Enghraifft o gerddoriaeth Gibraltar. Rheswm arall dros beisio mynd yno. Ymddiheuriadau i Chris Needs!

Atgofion o'r argyfwng economaidd ddiwethaf!

Mae angen rywbeth i godi calonnau cefnogwyr y Sgarlets!


Clochemerle

Vaughan Roderick | 15:08, Dydd Iau, 23 Ebrill 2009

Sylwadau (6)

Fel mae ei lys enw'n awgrymu mae "Dai Delighted" yn ddyn dymunol iawn. Roedd e'n "delighted" i fod yn Ysgrifennydd Cymru, yn "delighted" i agor ffordd osgoi Cwmsgwt ar ddiwrnod gwlyb ac yn fwyaf arbennig yn "delighted" bod 'na gonsensws ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru.

Ie, David Hunt oedd yn gyfrifol am y ddau ar hugain o gynghorau sy'n rhedeg ein gwasanaethau lleol, y system y mae bron pob aelod cynulliad yn ei diawlio ond does bron neb yn fodlon ei newid.

Yr hyn sy'n rhyfedd oedd bod 'na gonsensws rhwng y pleidiau ynghylch y system newydd yn ôl yn y nawdegau. O safbwynt y gwrthbleidiau , oedd yn gefnogol i ddatganoli, fe fyddai cael gwared ar un haen o lywodraeth leol yn negyddu'r ddadl bod Cymru'n cael ei or-lywodraethu yn ystod ymgyrch refferendwm. O safbwynt y Torïaid roedd lleihau'r nifer o gynghorwyr yn ffitio'u hathroniaeth ac roedd adfer enwau siroedd hanesyddol megis Penfro a Mynwy wrth yn apelio at selogion y blaid.

Dim ond yn ddiweddar y gwnes i ddarganfod bod 'na reswm arall dros y newid sef arian o Ewrop. Ar y pryd roedd Ewrop wed rhannu Cymru'n ddau ranbarth economaidd, y de a'r gogledd, gyda'r naill na'r llall yn ddigon tlawd i dderbyn arian o gronfeydd amcan un.

Phil Williams o Blaid Cymru, os gofiai'n iawn, oedd y person wnaeth sylweddoli y gallai Cymru elwa'n sylweddol pe bai'r gorllewin a'r cymoedd yn cael eu trin fel rhanbarth. Fe lwyddodd Ron Davies i ddarbwyllo 'r Undeb i wneud hynny ond dim ond ar ôl i Dai Delighted chwarae ei ran.

Mae rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar ardaloedd llywodraeth leol ac er mwyn creu rhanbarth Phil Williams roedd angen darnau jig-so o'r maint a'r siâp cywir- sef y ddau ar hugain o gynghorau sy'n bodoli nawr. Roedd y cymhelliad yn un nobl ond o ganlyniad mae llawer o'r cynghorau yn rhy fach. Maent hefyd wedi eu cynllunio'n fwriadol i fod naill ai'n dlawd neu'n gefnog - rhyw fath o apartheid economaidd er mwyn sicrhai pres Ewrop.

Er nad oes 'na awydd i ad-drefnu llywodraeth leol ar hyn o bryd, gallai hynny newid os ydy'r wasgfa ar wariant yn parhau ac os ydy'r cynghorau yn gwrthod cydweithio a'i gilydd. Dydw i ddim yn meddwl y byddai ots gan David Hunt. Mae'n debyg y byddai'n "delighted"!

Jingo

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2009

Sylwadau (4)

Mae gen i ben tost ar ôl ceisio deall effaith y gyllideb ar lywodraeth Cymru. Beth am gael hoe yng nghwmni Lembit a'i golofn yn y Daily Sport "Tackle these daft frogs"?

"I HOPE you didn't try getting the ferry to France this week because the English Channel was shut. A fleet of French fisherman got themselves all wound up about their fishing quotas. British fishermen would have signed a petition and marched round Westminster waving their tackle in the air... let's hope the situation gets sorted before the French run out of cider, we run out of onions and Daily Sport babe Gemma Massey has to dress up like Vera Lynn and fly across to sing about Bluebirds over the White Cliffs of Dover."

Fedrai ddim goddef mwy ond cyn troi yn ôl at lyfr mawr coch y trysorlys beth am oedi am eiliad i ddarllen y Daily Star a'r diweddaraf ynghylch ymgyrch y papur dros ddathlu diwrnod Sant Siôr. Och, gwae ni.

"There is a widespread feeling that mass immigration has confused our sense of identity. Many of our values and tradition are under attack from PC loonies, Ilsamic extremists and Eurocrats"

Gwaeth na hynny

"Saint George's Day is in serious danger of being forgotten.. half of English people have no idea what our national hero did."

Efallai nad ydynt yn gwybod chwaith bod Siôr yn nawddsant Catalonia, Portiwgal, Lithwania, Ethiopia, Rwsia a Phalestina a llond dwrn o wledydd eraill yn ogystal â Lloegr. Efallai y byddai'n syniad i un o'r "mass immigrants" o un o'r gwledydd hynny gynnig gwersi addysg grefyddol!

Dime dime dime, hen blant bach

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Yn yr hen ddyddiau roedd gwylio'r gyllideb yn dipyn o hwyl. Roedd hi'n braf gweld aelodau seneddol fel Leo Abse yn gwisgo i fyny ar gyfer yr achlysur ac roedd hi'n hilariws ddarganfod o ba le rhyfedd yr oedd Â鶹Éç Cymru wedi penderfynu darlledu ei rhaglenni arbennig. Fe ddaeth y sbort arbennig yna i ben ar ôl i Dewi Llwyd fynnu mai digon oedd digon ar ôl cyflwyno rhaglen o adran dillad isaf merched Marks & Spencer yng Nghaerfyrddin.

Go brin fod unrhyw un yn y cynulliad yn gwenu heddiw. Yn ôl Swyddfa Cymru fe fydd y gyllideb yn golygu y bydd gan lywodraeth y cynulliad £150 miliwn yn llai i wario dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae tablau'r trysorlys yn awgrymu y gallai'r ffigwr fod yn uwch. Dyw gweithio'r union ffigwr allan ddim yn hawdd. Oherwydd maint enfawr y symiau yn nogfennau'r gyllideb mae'r trysorlys yn rowndio i fynnu neu i lawr i'r can miliwn agosaf. Gallai toriad o 0.1 biliwn felly olygu unrhyw beth rhwng £51 miliwn a £149 miliwn.

Roedd cyllideb 2008 yn proffwydo y byddai gan lywodraeth y Bae £14.2 biliwn ar gyfer gwariant cyfredol ac £1.8 biliwn ar gyfer gwariant cyfalaf yn 2010-2011. Mae'r gyllideb heddiw yn rhagweld £14.0 biliwn (cyfredol) ac £1.7 biliwn (cyfalaf). Ydy hynny'n golygu toriadau o £300 miliwn? Efallai. O bosib. Efallai ddim.

Fe gawn ni ragor o oleuni yn y man.

Diweddariad;

A goleuni a fu. Yn ol llywodraeth y cynulliad mae'r gyllideb yn golygu torridau o £216 miliwn (cyfredol) a £200 miliwn (cyfalaf). Poenus.


Car Bach Hud

Vaughan Roderick | 15:28, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009

Sylwadau (1)

Weithiau mae'n anodd deall y busnes datganoli yma ac i wybod pa bwerau sydd wedi eu trosglwyddo a pha rai sy ddim.

Fe achosodd y dryswch hynny drafferth i'r cynulliad wrth geisio tynhau rheolau diogelwch bysys ysgol gyda chryn grafu pen ynghylch beth yn union oedd yn bosib ei wneud. Cafwyd enghraifft arall wrth i gyfreithwyr y Cynulliad a chyfreithwyr San Steffan anghytuno ynghylch yr hawl i wahardd smacio plant- mater o les plant yn ôl y Bae ond mater i'r gyfraith droseddol yn ôl Westminster.

Nawr dyma i chi broblem fach arall. Mae'r adran drafnidiaeth yn Llundain yn bwriadu torri cyfyngiadau cyflymdra ar briffyrdd dwy lôn o 60 i 50 milltir yr awr. Digon teg. Mae perffaith hawl gan yr adran i wneud hynny. Mae gosod cyfyngiadau cyflymdra safonol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn fater i'r llywodraeth ganolog.

Achub bywydau ac osgoi damweiniau yw cymhellion yr adran drafnidiaeth wrth gwrs ond gallai'r newid danseilio un o brif addewidion Llywodraeth Cymru sef gwella'r cysylltiadau rhwng de a gogledd. Wedi'r cyfan, ac eithrio ambell i filltir priffordd dwy lon yw'r A470 rhwng Merthyr a Chyffordd Llandudno. Fe fyddai'r munudau sydd i'w harbed trwy gael gwared â throeon Ganllwyd a Choed y Brenin, fel enghraifft, yn cael eu colli eto pe bai 'na gyfyngiad o 50 milltir yr awr wrth fynd heibio Trawsfynydd ar Sarn Helen.

Yn fan hyn mae pethau'n dechrau mynd yn ddryslyd. Er mai San Steffan sy'n gyfrifol am osod y cyfyngiadau Bae Caerdydd a'r cynghorau sy'n gyfrifol am ei gweithredu.Hynny yw er mai cyfyngiadau'r adran drafnidiaeth sy'n ymddangos yn rheolau'r ffordd fawr mae gan lywodraeth y cynulliad yr hawl i eithrio ffordd neu ffyrdd o'r cyfyngiadau hynny.

Dyna, o leiaf, yw fy nealltwriaeth i o bethau. Rwy'n amau y bydd ambell i gyfreithiwr yn ennill ceiniog neu ddwy allan o hon!


Car Bach Hud

Vaughan Roderick | 15:28, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Weithiau mae'n anodd deall y busnes datganoli yma ac i wybod pa bwerau sydd wedi eu trosglwyddo a pha rai sy ddim.

Fe achosodd y dryswch hynny drafferth i'r cynulliad wrth geisio tynhau rheolau diogelwch bysys ysgol gyda chryn grafu pen ynghylch beth yn union oedd yn bosib ei wneud. Cafwyd enghraifft arall wrth i gyfreithwyr y Cynulliad a chyfreithwyr San Steffan anghytuno ynghylch yr hawl i wahardd smacio plant- mater o les plant yn ôl y Bae ond mater i'r gyfraith droseddol yn ôl Westminster.

Nawr dyma i chi broblem fach arall. Mae'r adran drafnidiaeth yn Llundain yn bwriadu torri cyfyngiadau cyflymdra ar briffyrdd dwy lôn o 60 i 50 milltir yr awr. Digon teg. Mae perffaith hawl gan yr adran i wneud hynny. Mae gosod cyfyngiadau cyflymdra safonol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn fater i'r llywodraeth ganolog.

Achub bywydau ac osgoi damweiniau yw cymhellion yr adran drafnidiaeth wrth gwrs ond gallai'r newid danseilio un o brif addewidion Llywodraeth Cymru sef gwella'r cysylltiadau rhwng de a gogledd. Fe fyddai'r munudau sydd i'w harbed trwy gael gwared â throeon Ganllwyd a Choed y Brenin, fel enghraifft, yn cael eu colli eto pe bai 'na gyfyngiad o 50 milltir yr awr wrth fynd heibio Trawsfynydd ar Sarn Helen.

Yn fan hyn mae pethau'n dechrau mynd yn ddryslyd. Er mai San Steffan sy'n gyfrifol am osod y cyfyngiadau Bae Caerdydd a'r cynghorau sy'n gyfrifol am ei gweithredu. Pe bai cyngor lleol (Gwynedd yn achos Sarn Helen) yn gwneud cais i eithrio ffordd arbennig o'r cyfyngiad safonol fe fyddai llywodraeth Cymru a'r hawl i ganiatáu hynny. Dyna, o leiaf, yw fy nealltwriaeth i o bethau. Rwy'n amau y bydd ambell i gyfreithiwr yn ennill ceiniog neu ddwy allan o hon!

Gwthio'r Troli

Vaughan Roderick | 11:54, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Lle digon rhyfedd yw'r siop Tesco sydd i lawr yr heol o gartref fy nheulu ym . Ceir ystod eang o nwyddau digon cyfarwydd i ni yng Nghymru- Tesco finest, Tesco value ac yn y blaen. Ar y llaw arall go brin y bydd siopau'r cwmni yng Nghymru yn cynnig crancod byw yn y dyfodol agos nac yn cyfyngu nwyddau nad ydynt yn halal i ystafell gefn yr "European Delicatessen".

Y gallu i addasu i farchnadoedd sydd wedi galluogi i'r cwmni drawsnewid ei hun o fod yn drydydd gwmni manwerthu Prydain o safbwynt ei maint i un o'r tri mwyaf yn y byd mewn cyfnod o ychydig flynyddoedd. Heddiw cyhoeddodd y cwmni adroddiad blynyddol gan nodi ei fod wedi gwneud elw'r llynedd o dros £3 biliwn gan werthu gwerth dros biliwn o bunnau o nwyddau bob wythnos.

Un peth sy'n ddiddorol yw bod y cwmni wedi dechrau trin Cymru fel marchnad ar wahân i Loegr gan ryddhau manylion ar wahân am ei berfformiad yma. Nodir, er enghraifft faint yn union o bobol mae'r cwmni'n cyflogi yng Nghymru a'r nifer o fwydydd Cymreig sy'n cael eu gwerthu. Yn ogystal cyhoeddodd y cwmni gynllun i ehangu'r defnydd o Gymraeg i gynnwys peiriannau "twll yn y wal" a biniau ail-gylchu.

Ar hyn o bryd dyw hi ddim yn ymddangos y gallai'r LCO iaith olygu gorfodaeth ar y cwmni i ddefnyddio'r Gymraeg. Pam felly y mae Tesco yn gwneud hynny? Daioni Calon? Go brin. Ymateb i alw cwsmeriaid? Efallai. Plesio gweinidogion sydd a'r gair olaf ar geisiadau cynllunio? Dwi'n ormod o sinig weithiau.

Rialtwch - bonws bach

Vaughan Roderick | 19:57, Dydd Llun, 20 Ebrill 2009

Sylwadau (1)

Mae Â鶹Éç Alba wedi cynhyrchu rhaglen ddifyr iawn ynghylch Winnie Ewing "Madame Ecosse",

Mae hi ar gael ar iPlayer y Â鶹Éç neu mewn darnau ar You Tube gan gychwyn fan hyn.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 14:25, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Y Rhyddfrydwyr yw thema'r wythnos hon. Pam, tybed?

Y ffilm yma yw'r darn gorau o ddychan i mi weld erioed. Fel cefndir i bawb dan hanner cant roedd cyn-arweinydd y Rhyddfrydwyr a'i gyd-ddiffynyddion (dau ohonynt o Borthcawl) newydd eu cael yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio Norman Scott, cyn-gariad Thorpe. Roedd 'na gwyno ar y pryd bod crynhoad y barnwr yn anhygoel o ffafriol i'r amddiffyniad. Dyma fersiwn Peter Cook o sylwadau'r barnwr yng nghyngerdd Amnest Rhyngwladol y "Secret policeman's Ball"

Nesaf araith enwog David Steel yn yr Arcadia, Llandudno. "Go back to your constituencies..."


Lembit! Aelod Maldwyn yn proffwydo buddugoliaeth i'w blaid yn is-etholiad Crewe a Nantwich.

Canlyniad yr etholiad hwnnw.

Gyda llaw, mae gen i ynghylch dyfodol y Democratiaid Rhyddfrydol ar y prif safle.

Taflu cerrig

Vaughan Roderick | 12:18, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Sylwadau (3)

Roeddwn i'n ceisio bod mor garedig â phosib ynghylch gobeithion etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar "Post Cyntaf" a "Good Morning Wales" heddiw ac wedyn dyna Nick Clegg yn fy nghyhuddo o fod yn negyddol a phesimistaidd. Dwyt ti ddim wedi gweld dim byd eto, gwd boi!

Ta beth, rwyf wedi arfer ac ymosodiadau gan wleidyddion yn ddiweddar. Efallai eich bod chi'n cofio Rhodri Morgan yn rhoi clatsied i mi bythefnos yn ôl ynghylch fideo Delilah. Gwnes i ddim crybwyll y peth ar y pryd ond roedd e hefyd yn grac da fi am gwestiwn arall yn yr un gynhadledd newyddion.

Yn sgil methiant Cymdeithas Adeiladu Dunfermline gofynnais iddo oedd y llywodraeth wedi cysylltu â'r "Principality", sefydliad ariannol mwyaf Cymru, i sicrhau nad oedd y gymdeithas honno'n wynebu trafferthion. Gan fod tair cymdeithas o tua'r un faint a'r "Principality" wedi methu neu wedi cael eu traflyncu yn ystod y misoedd diwethaf roeddwn yn teimlo bod y cwestiwn yn un digon teg. Doedd y Prif Weinidog ddim yn cytuno. Roedd y cwestiwn yn "absẃrd" meddai.

Diddorol felly oedd gweld y pennawd yma yn y Western Mail heddiw.

""

Efallai bod hi'n sioc i Rhodri. Doedd hi ddim yn sioc i fi!

Tai ar y tywod

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Iau, 16 Ebrill 2009

Sylwadau (4)

Rwy'n darllen agenda cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar hyn o bryd. Mae hwn yn wasanaeth cyhoeddus o bwys... darllen dogfenni diflas er mwyn i chi beidio gorfod gwneud!

Yn ôl yr arfer mae'r cynigion yn hir a manwl. Mae'r cynnig ar dai fforddiadwy, er emhraifft, yn cynnwys bron i wyth gant o eiriau. Mae hynny'n ddeuddeg gwaith cymaint â'r deg gorchymyn! Am wn i mae 'na ryw faint o chwyddiant geiriol yn digwydd fan hyn!

I fod yn deg wrth gwrs mae'n bosib bod y cynigion yn hir er mwyn gwneud safbwyntiau'r blaid yn gwbwl eglur. Digon teg.

Dyma i chi gymal saith yn ail ran y cynnig sy'n nodi "bod yr hawl i brynu wedi dod â buddion i lawer o deuluoedd yng Nghymru ac wedi caniatáu i bobl i gael mynediad i'r grisiau prynu tai na fuasent fel arall yn gallu gwneud hynny".

Gallwn gymryd felly bod y blaid yn cefnogi'r hawl.

Ond och! Beth yw hyn?

Mae cymal wyth yn nodi "bod yr hawl i brynu wedi difrodi stociau tai rhan fwyaf yr awdurdodau lleol ac nid yw wedi'i gydbwyso gan adeiladu o'r newydd na chaffael stoc".

Ydy'r blaid yn erbyn yr hawl i brynu felly?

Nawr mae'n ddigon posib i'r ddau osodiad bod yn gywir, wrth gwrs, ond pam rhestru pob un ddadl mewn cynnig? Malu awyr hunan-bwysig yw rhestru dadleuon fel hyn.

Mae cnawd y cynnig mewn deg o gymalau sy'n dilyn yr holl ragymadroddion diflas a dibwrpas. Beth yw'r polisi felly ynghylch yr hawl i brynu?

Ym.

Ar ôl rhestri'r dadleuon o blaid ac yn erbyn yr hawl i brynu tai cyhoeddus o'r stoc bresennol does dim un gair o bolisi. Dim. Un. Gair. Dim ond un cyfeiriad bach sy 'na at yr hawl o gwbwl sef hwn bod "tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd i'w diogelu rhag yr hawl i brynu am leiafswm sylweddol o amser".

O leiaf mae hynny'n eglur.

Och eto! Beth yw hyn yn rheolau sefydlog y blaid? "Mae'r holl fesurau a gwelliannau yn ymddangos yn y canllaw hwn yn Gymraeg a Saesneg. Am mai yn Saesneg yn wreiddiol y cyflwynwyd pob mesur a gwelliant, os oes anghysondeb rhwng yr ieithoedd, bydd y fersiwn Saesneg yn cymryd blaenoriaeth".

A beth mae'r fersiwn Saesneg o'r cymal uchod yn dweud?

"New build social housing to be protected from the Right to Buy for a minimum of substantial minimum period of time."

Wyth gant o eiriau felly ac ar eu diwedd dim byd o gwbwl ynghylch y stoc bresenol o dai a sbageti geiriol ynghylch tai newydd. Mae hwn yn mynd i fod yn benwythnos hir!

O.N. Mae 'na broblem wrth adael sylwadau ar hyn o bryd. Yn wahanol i rai dydw i ddim yn ei chael hi'n anodd i ddweud "sori"! Dwi'n ceisio ei datrys!

O.N.N Mae'r system sylwadau yn awr yn gweithio.

Tacluso

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Mawrth, 14 Ebrill 2009

Sylwadau (3)

Dwi'n cyfuno ambell i bost a sylwad yn fan hyn cyn i bethau fynd yn rhemp! Mae Dylan Jones Evans wedi tynnu fy sylw at y ffaith nad yw blog "Welsh Ramblings" ar gael ar hyn o bryd. Fe ddiflannodd yn sgil cyhuddiadau ar ddyddiadur Iain Dale mai rhai o staff Plaid Cymru oedd yn gyfrifol am y safle. Dydw i ddim yn gwybod pu'n ai ydy hynny'n wir ai peidio ond dyna yw'r gred gyffredinol yn y Bae. Hyd y gwelai i, doedd y safle ddim wedi croesi llinell ond mae pawb yn sensitif am y pethau 'ma'r dyddiau hyn! Gwaith cynnal a chadw neu "ordyrs" oddi uchod? Pwy a ŵyr?

Yn y cyfamser mae David Taylor mewn eto- y tro hwn am sylwadau ar Twitter. Ac eithrio fideo Delilah (efallai) dyw cynnwys "" ddim yn llai derbyniol na chynwys "Welsh Ramblings" yn fy marn i ond yn yr hinsawdd bresennol mae 'na beryg bod y safleoedd ymosod yma yn fwy o drafferth nac o werth i'r pleidiau. A fydd David yn derbyn "ordyrs"?. Fe gawn weld.
.

Mae rhyw un arall wedi sylwi...

Vaughan Roderick | 20:08, Dydd Llun, 13 Ebrill 2009

Sylwadau (3)

O ddyddiadur

"Readers in Scotland and Wales may be having a wry smile at the fact that the grubby Red Flag blog didn't quite make it to the internet in time. For in those two countries, Labour has indeed started up versions of the Red Rag. In Wales we have the Aneurin Glyndwr blog (started in March 2009) and in Scotland A Leaky Chanter (started in December 2008). They are not as salacious as the Red Rag was intended to be, but they clearly exist as attack blogs, purely designed to attack the motives of the other parties, although the concentrate primarily on the nationalist parties."

Roeddwn i'n dechrau ofni mai fi oedd yr unig un i weld y gymhariaeth!

Rialtwch byd-eang

Vaughan Roderick | 10:56, Dydd Sul, 12 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Diolch i bawb am eich awgrymiadau.

Eitem ddiddorol am wleidyddiaeth (a theledu cymunedol) Maorïaid Seland Newydd i gychwyn.

Camelot...

Diolch i AB am y ddwy ddolen gynta. Awgrymiadau Dewi yw'r ffilmiau yma o'r wladfa. Caewch y drysau.

A i orffen. Mae George Thomas yn fyw ac yn iach ac yn byw yn Wick.

Diolch byth.

Vaughan Roderick | 16:19, Dydd Sadwrn, 11 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Mae'n debyg y gallai'r stori achosi niwed difrifol i'r Blaid Lafur. Fe fydd yn rhaid disgwyl tan yfory i weld cynnwys yr e-byst yn y papurau Sul i wybod pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa ond mae'n anhygoel credu bod na ffigyrau Llafur amlwg yn Llundain yn credu bod sefydlu gwefan i bardduo eu gwrthwynebwyr yn syniad da.

Mae Llafur Cymru yn fwy call. Mae'n anodd dychmygu y gallai unrhyw beth felly ddigwydd yn fan hyn.

Mae'n werth darllen , a .

Un cwestiwn. Os oedd "Red Rag" yn syniad plentynnaidd ( "juvenile" i ddefnyddio union air Downing Street) sut mae disgrifio Delilah?

Rialtwch y Pasg

Vaughan Roderick | 18:49, Dydd Gwener, 10 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Ai losin llygad yw'r term cywir am "eye-candy" dwedwch? Ta beth ar ôl y fferins asgell chwith wythnos ddiwethaf fe wnes i addo da-da i'r dde'r wythnos 'ma. Dyma nhw.

Churchill a'r llen haearn.

Mae'n fore yn America

Buddugoliaeth Margaret Thatcher yn 1979...

...A pharti olaf Maggie

Twll yn y wal i orffen

Fe fydd 'na ail set o ffilmiau (eich awgrymiadau chi) dros y Sul.

Sianel Saith

Vaughan Roderick | 17:29, Dydd Iau, 9 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Dydw i ddim yn sicr pam ond mae'n ymddangos bod y blog wedi troi'n golofn am bensaernïaeth yn ystod y dyddiau diwethaf! Adeilad sy'n denu fy sylw eto heddiw- ond un sy'n cael ei ddymchwel y tro hwn!

Mae'r Cydbwyllgor Addysg newydd symud i fewn i bencadlys newydd yn Llandaf (adeilad trawiadol iawn gyda llaw) ac mae'r hen swyddfa gerllaw yn cael ei throi'n rwbel. Adeilad digon di-nod oedd hwnnw ond roedd yn haeddu lle (fel ôl-nodyn o leiaf) yn y llyfrau hanes. Hwn oedd pencadlys Teledu Cymru yr ymgais byrhoedlog i sefydlu sianel deledu Gymreig yn y chwedegau cynnar. Methdalodd y fenter ar ôl rhyw ddeunaw mis a chafodd yr orsaf ei llyncu gan TWW. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach collodd y cwmni hwnnw ei drwydded i HTV.

Mae 'na rhywbeth eithaf symbolaidd mewn gweld yr hen stiwdios yn diflannu ar adeg pan mae'r cyfryngau traddodiadol o dan y fath bwysau. Mae gorsafoedd radio (gan gynnwys Valleys Radio mwy na thebyg) yn rhoi'r gorau i ddarlledu oherwydd diffyg hysbysebion. Mae papurau lleol hefyd yn diflannu. Darllenwch yr erthygl yn y Times am gyflwr y wasg ym Mryste ac fe gewch chi ddarlun eglur o ba mor ddifrifol y mae pethau. Rydym i gyd yn gyfarwydd a'r problemau sy'n wynebu ITV Cymru. Does dim syndod felly bod dau o bwyllgorau'r cynulliad yn cynnal ymchwiliadau i gyflwr y wasg a darlledu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Hyd yn hyn mae ymchwiliadau hynny wedi bod yn llawn o grochlefain a llaesu dwylo. Tro ar ôl tro clywir yr un hen sylwadau "beth gallwn ni wneud?"... "yn anffodus dyw darlledu ddim wedi datganoli a chwmnïau preifat sy'n perchen y papurau"... ayb ayb.

Ond mae 'na bethau y gallai'r cynulliad a'r llywodraeth wneud nawr. Beth am gylchlythyr yn gorchymyn i gynghorau hysbysebu mewn papurau lleol yn hytrach na chyhoeddi eu papurau eu hun i ddechrau? A beth am ddatgan y bydd y llywodraeth a'i hasiantaethau ond yn prynu amser hysbysebu ar orsafoedd radio a theledu sydd yn cynnig gwasanaeth newyddion Cymreig teilwng?

Dumbo yn y Bae

Vaughan Roderick | 16:25, Dydd Mercher, 8 Ebrill 2009

Sylwadau (4)

Pan oedd fy nhad-cu yn ddociwr yng Nghaerdydd yn ôl yn y tridegau a'r pedwardegau "swyddfa'r docs" oedd yr enw cyffredin ar yr adeilad crand sydd nawr yn cael ei adnabod fel y "Lanfa" neu'r "Pierhead".

Talodd Ron Davies bunt am gyn pencadlys Cwmni Rheilffordd Caerdydd fel rhan o'r cytundeb gyda chwmni Grovesnor Waterside i leoli'r cynulliad yn y Bae yn hytrach nac yn Neuadd y Ddinas neu ar Sgwâr Callaghan. Fel mae'n digwydd fe wnes i fachu'r bunt ac mae hi gen i o hyd!

Roedd y Lanfa'n dipyn o fargen ar y pryd neu felly oedd pethau'n ymddangos ond mae atgyweirio'r a chynnal y lle wedi costi miliynau o bunnau dros y degawd diwethaf a'r gwir amdani yw does neb erioed wedi bod yn sicr sut mae defnyddio'r lle.

Bwriad Ron oedd mai'r Lanfa fyddai pencadlys Llywodraeth Cymru i wneud y rhaniad rhyngddi hi a'r cynulliad yn gwbwl eglur. Gwrthod y syniad yna wnaeth Alun Michael a Rhodri Morgan, ill dau, gan gredu y byddai'n creu delwedd hen-ffasiwn a ffroen uchel i'r llywodraeth.

Cyn agor y Senedd roedd yr adeilad yn gartref i arddangosfa (ofnadwy o wael) yn esbonio gwaith y cynulliad ac yn cael ei ddefnyddio fe canolfan addysg i bartïon ysgol- y gwaith sydd bellach wedi ei leoli yn hen siambr y cynulliad yn Nhŷ Hywel.

Mae'r lanfa felly ar gau i'r cyhoedd unwaith yn rhagor wrth i filoedd ychwanegol gael ei wario i greu "canolfan hyblyg ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a chynadleddau".

Mae angen gwneud rhywbeth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth 183,000 o bobol ymweld â'r senedd ond llai na 55,000 a'r Lanfa.

Roedd John Morris yn hoff o son am yr eliffant ar stepen ei ddrws. Oes na eliffant gwyn ar stepen drws y Senedd?


Croeso Chwedeg Nain

Vaughan Roderick | 11:49, Dydd Mercher, 8 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Ymhen ychydig wythnosau fe fydd y cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oedd ac fe fydd 'na dipyn o sbloits yn y senedd.

Mae'n ddiddorol nodi mai ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf ac nid ar ddyddiad yr agoriad brenhinol y bydd y dathliadau'n cael eu cynnal. Mae 'na "ben-blwydd" brenhinol arall eleni hefyd. Ar Orffennaf y cyntaf fe fydd hi'n ddeugain mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.

Mae'n debyg y bydd yr achlysur yn cael ei nodi ond o'r hyn dwi'n clywed bydd 'na ddim byd mawr yn digwydd a dim byd swyddogol yng Nghaernarfon. Yn ôl gwefan Cadw fe fydd 'na berfformiad o "Twelfth Night" yn y castell ar Fehefin 25ain ac ar Orffenaf 4ydd fe fydd Marchogion Ardudwy yn perfformio ond ar Orffenaf 1af- dim byd.

Dyw'r pethau yma ddim yn cael eu dathlu neu eu hanwybyddu ar hap a damwain. Mae rhyw un yn rhyw le wedi penderfynu peidio codi crachen. Nid adlewyrchiad ar y Tywysog na'i waith yw hynny ond cydnabyddiaeth bod yr Arwisgiad wedi rhannu Cymru ac wedi esgor ar brotestiadau a thrais. Pe bai'r Arwisgiad wedi cymryd lle yng Nghastell Caerdydd, dyweder, efallai y byddai digwyddiad yn cael ei gynnal eleni- ond yng Nghaernarfon? Dim ffiars o beryg.

Llai o sbort

Vaughan Roderick | 21:02, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Tynnu coes Lembit oeddwn i yn y post "Am sbort" gan ddyfynnu o'i golofn yn y "papur" hwnnw. Fe wnes i gynnwys y dyfyniad yma.

"So, for once, leave Citizen Smith alone. And as for you, Mr Smith, next time order it through the Daily Sport, mate--and DON'T claim it on expenses."

Dwi newydd gofio bod Lembit wedi dweud rhywbeth ychydig yn wahanol wrth bapurau go iawn, y , er enghraifft.

Lembit Opik, the Liberal Democrat MP, said that Miss Smith had been left "compromised," adding: "This is immensely embarrassing for Jacqui on a personal and domestic level. "I haven't got any particular issue about what they watch in their own time, I do have an issue about the fact that he has compromised her.'

Sut mae'n cymhwyso eu safbwyntiau, dwedwch? Efallai nad yw cysondeb yn bwysig ar blaned Opik.

Does un man yn debyg i gartref

Vaughan Roderick | 20:12, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Prif Weinidog Cymru yw'r unig un o brif-weinidogion y Deyrnas Unedig sydd heb breswylfa swyddogol neu o leiaf gobaith o gael un.

Mae gan Gordon Brown Downing Street a Chequers, wrth gwrs. Mae preswylfa swyddogol Prif Weinidog yr Alban, yn lle digon deche ac heb os fe fydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn etifeddu yn hwyr neu'n hwyrach.

Beth am ein Prif Weinidog ni? Fe fyddai yn addas oni bai am y lleoliad! Y gwir amdani yw bod ambell i was sifil wedi llygadu ar gyrion Caerdydd o bryd i gilydd ond mae'n gwleidyddion yn ddieithriad yn casau'r syniad. Gyda'r holl ffwdan am ail gartrefi fedrai ddim o'u beio nhw!

Am sbort!

Vaughan Roderick | 13:15, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Sylwadau (3)

Mae'n dawel yma. Mor dawel nes i mi ddarllen colofn ddiweddaraf Lembit yn y Daily Sport i basio'r amser. Dyma ambell i uchafbwynt.

"SO big man Barack turned up in London from the US this week --and did you see what he brought with him? Five hundred staff, a flipping huge chopper (by which I mean a big helicopter) and the coolest car going. That's travelling in style."

"NOW, be honest. Have you ever watched an "adult film"? Of course you have. But I bet that fact never showed up on the front page of every newspaper...So, for once, leave Citizen Smith alone. And as for you, Mr Smith, next time order it through the Daily Sport, mate--and DON'T claim it on expenses."

"Now Communist North Korea, which has atom bombs, is planning a big "missile test". That's the political equivalent of taking your willy out and shaking it about in front of your neighbours."

Beth fedrai ddweud?

Da yw swllt

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Sadwrn, 4 Ebrill 2009

Sylwadau (8)

Cyflogau blynyddol;

Prif Weithredwr Cyngor Merthyr (Cyllideb 2009-10 £104 miliwn); £131,500

Prif Weithredwr Ofcom (Cyllideb 2009-10 £136.8 miliwn); £417,500

Prif Weithredwr NASA (cyllideb 2009-10 $19.7 biliwn/£13.3 biliwn); $177,000/ £119,000

Jyst dweud.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 08:53, Dydd Sadwrn, 4 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Roedd newyddiadurwyr y Â鶹Éç i fod i streicio ddoe. Yn ffodus gohiriwyd y gweithredu ar y funud olaf. Doedd dim rhaid i mi felly apelio am barseli bwyd- Waitrose ac M&S yn unig- mae gan bawb safonau!

Dyma'r ffilmiau gyda thema asgell chwith/undebol y wythnos hon. Er mwyn cydbwysedd fe gawn ni'r asgell dde wythnos nesaf!

Fe wnawn ni ddechrau gyda fersiwn Gymraeg o'r athem gomiwnyddol "L'internationale". Niclas y Glais (pwy arall?) oedd yr awdur. Côr Cochion Caerdydd (pwy arall eto!) sy'n canu.

Yr un gân mewn 47 o wahanol ieithoedd.

Fersiwn gwefreiddiol o "Joe Hill"

Teyrnged i Paul Robeson.

Ac yn olaf fersiwn Robeson o "Ar hyd y nos".

Man Gwyn Man Draw

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Gwener, 3 Ebrill 2009

Sylwadau (1)

Mae'n sbel ers i mi gynnig casgliad o ddolenni. Dyma rai sy'n apelio.

Ar ôl cymryd rhai misoedd i ffwrdd i ddod i nabod ei ail blentyn (ai tadolaeth yw'r term?) mae yn ôl wrth ei waith a'i flog. Mae ei dafod mor finiog ac erioed. Dyma David yn trafod yr LCO tai.

"This may be a row over a power that isn't used and a veto that isn't exercised. So why the fuss? This graph shows that right-to-buy sales have slumped to a five-year low, from 1,500 in early 2004 to just 32 in the last three months of 2008."

Mae hefyd wedi dychwelyd.

Ar ei flog Saesneg maeyn cynnig ei fersiwn ef o Delilah.

"So before, they start another just war
Forgive me Aneurin, I just cant vote Labour no more
,"

Mae ysgrifennydd BMA Cymru yn galw am ddiddymu taliadau presgripsiwn yn Lloegr gan ddefnyddio ystadegau i wfftio'r gwrthwynebiadau i'r polisi Cymreig.

"The argument used by some critics of free prescriptions that millionaires are using them to pick up items like bonjela for free, doesn't really stand up..."

Gallwch ddilyn cynhadledd Plaid Cymru ar ond hyd yma mae sylwadau yn fwy difyr.

"Welsh speaking blogger Dyfrig Jones has just had to finish his speech having bitten hs tongue. Difficult language, Welsh... "

Mae'r blogs Cymraeg, wrth gwrs, i gyd ar gael ar .

Pla

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Gwener, 3 Ebrill 2009

Sylwadau (2)

Mae'r pethau firol yma'n bridio fel... um... firws. Mae'n siŵr eich bod wedi gweld y yma erbyn hyn. Dyma ymdrech diweddara'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Hwn yw'r enghraifft gyntaf yng Nghymru i mi weld o arfer sy'n gyffredin iawn yn America sef ffilmio'ch gwrthwynebwyr gwleidyddol er mwyn defnyddio'u geiriau eu hun yn eu herbyn. Dyma enghraifft enwog o'r UDA. Yn 2006 y Seneddwr George Allen oedd y ceffyl blaen i ennill enwebiad y Gweriniaethwyr ar gyfer yr arlywyddiaeth. Cafodd ei ffilmio wrth ymgyrchu yn ei dalaith ei hun, Virginia.

Y broblem? Roedd y Democrat oedd yn ffilmio Allen o dras Indiaidd ac mae "macaca" yn fath o fwnci ac yn air sy'n cael ei defnyddio fel sen hiliol yn Ffrangeg- iaith y mae Mr Allen yn gyfarwydd â hi. Y canlyniad? Diwedd gyrfa wleidyddol.

Yma mae beddrodau'n tadau

Vaughan Roderick | 12:18, Dydd Iau, 2 Ebrill 2009

Sylwadau (4)

Rwy'n dwli ar y dylai Cymry alltud gael bleidleisio mewn refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad.

Fe fyddai'n datrys yr holl ddadlau ynghylch defod y Cymry ar Wasgar/Cymru a'r Byd. Gallwch chi ddychmygu'r dagrau wrth i haid o Americanwyr fwrw eu pleidleisiau wrth i gôr meibion ganu "Unwaith eto yng Nghymru annwyl"?

Y broblem wrth gwrs yw diffinio "Cymro Alltud". Mae Arglwydd Garel Jones ei hun yn cydnabod y broblem.

"Yn amlwg, fyddai rhywun ddim am gyrraedd sefyllfa lle mae cwpwl o gannoedd o filoedd o bobl yn Ariannin adawodd Cymru yn 1850 yn pleidleisio."

Ond na phoener. Mae pobol sy'n ceisio am ddinasyddiaeth Brydeinig yn gorfod eistedd . Fel cymwynas i drigolion Tooting a Threlew dw i wedi llunio prawf Cymreig cyffelyb. Credwch neu beidio mae'r cwestiynau yma i gyd wedi eu modelu ar gwestiynau go iawn "Byw yn y DU".

1. Beth yw enw'r cyhoeddiad sy'n croniclo trafodaethau'r Cynulliad?
2. Mae pobol Cymru yn bwyta twrci adeg Nadolig. Cywir neu anghywir?
3. Ar ba ddyddiad y mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu?
4. Beth yw'r oedran gadael ysgol yn Sir Fflint?
5. Yn lle y mae "cofi" yn cael ei siarad?
6. Oes 'na fwy o Fethodistiaid nac o Fedyddwyr yng Nghymru?
7. Pa system bleidlesio sy'n cael ei defnyddio i ethol cynghorau cymuned?
8. Oes rhaid i fyfyrwyr dalu ffioedd dysgu yng Nghymru?

A fyddai Arglwydd Garel Jones yn pasio tybed?

Mae'r awgrym yn dwyn i gof corff rhyfedd o'r enw "Cyngor Cymru a Mynwy", un o'r ymdrechion cynnar i leddfu'r galw am ddatganoli. Yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yr oedd y Cyngor yn cwrdd ond cymaint oedd dylanwad Cymry Llundain arno nes i ryw wag awgrymu y byddai'n rhatach cynnal y cyfarfodydd ar blatfform gorsaf Paddington!

OwainBevan (6)

Vaughan Roderick | 19:31, Dydd Mercher, 1 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Mae'n rhaid bod y post diweddara ar yn gellweirus. Mae'n hysbysebu cyfrol am y gwersi i Brydain o fuddugoliaeth Obama ac mae'n cynnwys y sylw yma.

"As an Obama-inspired project, Aneurin Glyndwr highly recommends this new book"

Fedrai ond dyfynnu Darren Millar "Not so much an Obama moment as an Oblimey one!"

Cafwyd ambell i gais i gyhoeddi'r ffilm o gynhadledd newyddion Rhodri ddoe. Mae peth o'r sain ar gael yn barod trwy wrando ar "Good Evening Wales" neithiwr ar i-Player. Mae'r clip yn cael ei chware oddeutu 17.35. Rydym yn dal nôl ar y lluniau am y tro oherwydd ei bod yn bosib y bydd Dragon's Eye yn dychwelyd at y stori yma yfory- yn fwyaf arbennig at honiad Rhodri nad oedd yn gwybod am y wefan o flaen llaw a bod y Â鶹Éç yn ddrygionus trwy awgrymu hynny. Dyma'r union eiriau. Yn Saesneg y gwnes i ofyn y cwestiwn.

Vaughan; "Do you regret giving a quote to the website and have you asked the people behind it to apologise to the Deputy First Minister?"

Rhodri Morgan; Let this be the only further question on the website. Look, let's be clear. There was no advance authorisation or awareness on my part or the Secretary of State's part or Labour Party Wales' part of the plans to develop this website. None whatsoever. So the website was developed by a team of Labour supporters as a way of getting into new media engagement...a lot of excitement after the Obama election victory and everyone says "oh isn't it brilliant the way they've done the new media engagement the way they've got all these websites springing up from everywhere" and you know they've had a go at doing it. Now,you know, we were not aware they were doing it, didn't approve the contents, weren't aware of the contents, style or anything whatsoever. So you know that's all I can say.

Vaughan; But you gave them the quote. You gave them the quote.

Rhodri Morgan; Pardon?

Vaughan; You gave them a quote. They quote you on the website.

Rhodri Morgan; Yeah, but its very naughty of the Â鶹Éç to imply that quote could be construed by anybody as implying approval or endorsement of the content or the style of the website. Since I haven't seen it or read it or had any foreknowledge of it it is very very naughty to imply that the content or style of it has in some way been endorsed by me. Now it hasn't nor by the Secretary of State nor by the Labour Party Wales. Now that's it. This is not about the website this morning. I've said what I've got to say and I've criticised the media for implying I'm associated with this content. I am not associated with this this content and that's it as far as I'm concerned. OK. Least said soonest mended. That's the only question on the website. I'm not going to say any more about it. this is not about the website. this a government press conference not a party press conference, ok?"

Mae 'na ambell i beth i nodi yn fan hyn. Nid gwadu mae Rhodri ei fod yn gwybod am y fideo neu am y gan "Delilah". Mae'n gwadu ei fod yn gwybod unrhyw beth am y wefan yn ei chyfanrwydd. Hynny er iddo gynnig dyfyniad i'r safle bod AG yn "website to watch".

Y broblem yw hyn. Mae sawl ffynhonnell ddibynadwy wedi cadarnhau wrth y Â鶹Éç bod swyddfa Rhodri a phobol yn agos ato yn ymwybodol o'r wefan ac mae un ffynhonnell (uchel iawn yn y Blaid Lafur) yn benderfynol bod y Prif Weinidog ei hun yn gwybod am y cynlluniau o flaen llaw. Yn ol un ffynhonell mae llawer o bobol yn esgus gwybod llai nac oedden nhw ac mae 'na ddicter bod David Taylor yn gorfod ysgwyddo'r bai.

Mae 'na dri phosibilrwydd. Yn gyntaf bod ystod eang o bobol yn dweud celwydd wrth y Â鶹Éç ac mae hynny'n annhebyg. Yn ail mae'n bosib bod Rhodri ei hun yn camarwain y wasg a'r partneriaid llywodraethol. O nabod y dyn dwi'n ffeindio hynny yn anodd credu. Yr esboniad mwyaf tebygol, yn fy nhyb i, yw bod Rhodri wedi drysu rhwng y fideo a'r wefan ac mae ceisio gwadu unrhyw wybodaeth am "Delilah" oedd ei fwriad yn hytrach nac unrhyw wybodaeth am y safle.

Dyma oedd gan Peter Hain i ddweud heno.

"Mae'r cyfan sy' da ni i ddweud ar y wefan"

A beth sydd ar y wefan o hyd?

"This brand new political website is definitely one to watch!"
- Rt Hon Rhodri Morgan AM, First Minister for Wales

Mae angen i'r Prif Weinidog glirio'r awyr.

Ffŵl Ebrill (2)

Vaughan Roderick | 15:17, Dydd Mercher, 1 Ebrill 2009

Sylwadau (7)

Onid oes gan ein haelodau bethau gwell i wneud? Yn dynn ar sodlau ei derbyniad i ddathlu chwyldro Ciwba ac ethol Hugo Chaves yn Venezuela dyma aelodau'r cynulliad yn derbyn e-bost arall gan Leanne Wood yn hyrwyddo adeiladu paradwys y proletariat.

Annwyl Bawb,
Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod yn prysur agosau at Ebrill 1af - y dyddiad sy'n dynodi 70 mlwyddiant ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen. Rwyf wedi gosod Datganiad Barn ynglyn â nodi gwirfoddolwyr o Gymru a fu'n ymladd yn y rhyfel. Gobeithio y byddwch yn ystyried llofnodi'r Datganiad - mae ffurflen wedi ei atodi er cyfleustra. Mae'r Datganiad yn darllen fel a ganlyn:

Mae'r Cynulliad hwn: Yn nodi ar 1af Ebrill y bydd 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen, ac yn cydnabod aberth y gwirfoddolwyr Cymreig a aeth i frwydro yn erbyn ffasgiaeth; Yn ailddatgan ei wrthwynebiad i ffasgiaeth; Yn dymuno coffáu pobl o Gymru a wirfoddolodd i frwydro yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen ; yn cefnogi gosod cofeb barhaol yn y Senedd.
Leanne.

Bant a ni. Fe wnai anwybyddu'r atebion gan Lorraine Barret, Geoff Cuthbert a Huw Lewis yn tynnu sylw at y gofeb genedlaethol ym Mharc Cathays ac ail-ymuno a'r gohebiaeth gyda ymyrraeth Leighton Andrews.

Leanne,
Forgive me, but 70 years ago weren't Plaid Cymru's leaders supporting Franco?
Regards

Leighton

Cheap shot Leighton.
How long ago is it that you were a Lib Dem?

Helen Mary

Ha Ha. I defer to Gwyn Alf Williams, a fomer Plaid Vice President, in When Was Wales? (Penguin) when he argued: "During the 1930s Plaid became even more of a right wing force. Its journal refused to resist Hitler or Mussolini, ignored or tolerated anti-Semitism and, in effect, came out in support of Franco. In 1941 Saunders Lewis' pamphlet "The Church and the World" explicitly rejected the war against Nazi Germany while in 1944 Ambrose Bebb condemned the plot to assassinate Hitler."
Leighton

And your point is???Perhaps we could look at the difference in attitude to working people? Labour's present leadership compared to those of 70 years ago?Discuss.
Glyn Erasmus (swyddog y wasg Jocelyn Davies)

There were, of course other voices in Plaid at that time. Be that as it may, the very fact that Gwyn Alf joined Plaid shows how much we've changed since then, thank goodness. As, of course, as the Labour Party. From the socialist force for good it was then to what it is now. I suspect we both have better things to do than argue about history.
Helen Mary.

Gyda llaw roedd y pethau gwell oedd gan Helen i wneud yn cynnwys annerch rali yn erbyn toriadau mewn addysg bellach. Fe wnaeth Rhodri Glyn, Joyce Watson ac Alun Davies siarad hefyd. Pa lywodraeth gyflwynodd y toriadau? Nid yr un sy'n cael ei chefnogi gan Helen, Rhodri, Joyce ac Alun bid siŵr!

Yn ôl at yr ohebiaeth.

No offence but this is getting on my nerves! Can you argue amongst yourselves, I have no real interest in the history of Welsh socialism!
Jonathan Morgan

Helen, Certainly agree we both have better things to do.
Leighton.

Annwyl Bawb,
Dwi'n cytuno hefyd. Beth am ddechrau gyda bod yn ofalus ynghylch pwy sy'n derbyn eich e-byst?

Vaughan


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.