Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clochemerle

Vaughan Roderick | 15:08, Dydd Iau, 23 Ebrill 2009

Fel mae ei lys enw'n awgrymu mae "Dai Delighted" yn ddyn dymunol iawn. Roedd e'n "delighted" i fod yn Ysgrifennydd Cymru, yn "delighted" i agor ffordd osgoi Cwmsgwt ar ddiwrnod gwlyb ac yn fwyaf arbennig yn "delighted" bod 'na gonsensws ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru.

Ie, David Hunt oedd yn gyfrifol am y ddau ar hugain o gynghorau sy'n rhedeg ein gwasanaethau lleol, y system y mae bron pob aelod cynulliad yn ei diawlio ond does bron neb yn fodlon ei newid.

Yr hyn sy'n rhyfedd oedd bod 'na gonsensws rhwng y pleidiau ynghylch y system newydd yn ôl yn y nawdegau. O safbwynt y gwrthbleidiau , oedd yn gefnogol i ddatganoli, fe fyddai cael gwared ar un haen o lywodraeth leol yn negyddu'r ddadl bod Cymru'n cael ei or-lywodraethu yn ystod ymgyrch refferendwm. O safbwynt y Torïaid roedd lleihau'r nifer o gynghorwyr yn ffitio'u hathroniaeth ac roedd adfer enwau siroedd hanesyddol megis Penfro a Mynwy wrth yn apelio at selogion y blaid.

Dim ond yn ddiweddar y gwnes i ddarganfod bod 'na reswm arall dros y newid sef arian o Ewrop. Ar y pryd roedd Ewrop wed rhannu Cymru'n ddau ranbarth economaidd, y de a'r gogledd, gyda'r naill na'r llall yn ddigon tlawd i dderbyn arian o gronfeydd amcan un.

Phil Williams o Blaid Cymru, os gofiai'n iawn, oedd y person wnaeth sylweddoli y gallai Cymru elwa'n sylweddol pe bai'r gorllewin a'r cymoedd yn cael eu trin fel rhanbarth. Fe lwyddodd Ron Davies i ddarbwyllo 'r Undeb i wneud hynny ond dim ond ar ôl i Dai Delighted chwarae ei ran.

Mae rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar ardaloedd llywodraeth leol ac er mwyn creu rhanbarth Phil Williams roedd angen darnau jig-so o'r maint a'r siâp cywir- sef y ddau ar hugain o gynghorau sy'n bodoli nawr. Roedd y cymhelliad yn un nobl ond o ganlyniad mae llawer o'r cynghorau yn rhy fach. Maent hefyd wedi eu cynllunio'n fwriadol i fod naill ai'n dlawd neu'n gefnog - rhyw fath o apartheid economaidd er mwyn sicrhai pres Ewrop.

Er nad oes 'na awydd i ad-drefnu llywodraeth leol ar hyn o bryd, gallai hynny newid os ydy'r wasgfa ar wariant yn parhau ac os ydy'r cynghorau yn gwrthod cydweithio a'i gilydd. Dydw i ddim yn meddwl y byddai ots gan David Hunt. Mae'n debyg y byddai'n "delighted"!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:54 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd Gareth:

    Dwi ddim yn cofio manylion y map nawr, ond dwi'n eitha siwr fod ardal amcan 1 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn cyfateb yn eitha agos i hen siroedd Gwynedd, Dyfed, Gorllewin Morgannwg a Morgannwg Ganol.

    Synnen i felly os na fyddai'r cyfuniad o'r 4 sir yna hefyd yn gymwys i gael arian amcan 1, heb orfod aildrefnu'r siroedd.

    (Wrth gwrs byddai gorllewin Gwent yn colli allan.)

  • 2. Am 16:32 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Ddim dwy waith nad wyt yn iawn, mater o amser fydd hi nes fyddwn yn ol i Clwyd & Gwynedd, ond beth am newidiadau posib arall fel sydd yn cael ei gysidro gan Gyngor Sir Powys a gweithio yn agosach hefo Bwrdd Iechyd Lleol Powys. Pam yn wir pan awn ni ddim mymryn yn bellach a rhoi cyfrifoldeb am ofal (henoed, plant, oedolion) i'r Awdurdodau Iechyd newydd fasa na dipyn llai o ffraeo a checru rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynglyn a pwy sydd yn mynd i arianu beth...amersau diddorol i ddwad!!

  • 3. Am 16:42 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Un haen o lywodraeth leol; cael gwared a'r cynghorau cymuned diangen a'r siroedd sydd heb fod yn ddigon bach na'n ddigon mawr. Nol a'r cymydau! Yn yr ardaloedd gwledig mae nhw'n ddieithriad bron yn cyd-redeg ag ardaloaedd teithio i waith pobl a dalgylch ysgolion uwchradd.

    Neu, fel arall, nol a'r hen Wynedd (1974 er mwyn Cymreigio Ynys Mon a Dyffryn Conwy), nol a Clwyd (sy'n gwneud lot o sens), nol a Gwent a nol i rannu Morgannwg yn dair sir. Nol a Dyfed - ddim siwr, galle ni gael Dyfed Waliae a gadel i Dde Penfro cael UDI fel sir arwahan?

  • 4. Am 17:12 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae hi ychydig yn fwy cymhleth na hynny. Mae Sir Ddinbych, Blaenau Gwent, Islwyn a Thorfaen i gyd o fewn ffiniau rhanbarth ancan un on y tu allan i'r pedair hen sir. Yn ogystal roedd yr adrefnu yn cynwys symud nifer o wardiau er mwyn cyrraedd y targed. Er engraifft fe symudwyd nifer o bentrefi cefnog iawn ym Morgannwg Ganol i fewn i Sir Caerdydd er mwyn sicrhai bod RCT yn ddigon tlawd.

  • 5. Am 12:56 ar 24 Ebrill 2009, ysgrifennodd Twm Twp:

    Ar y llawr, fel petai, clywir sibrydion fod swyddogion cynghorau sir a'r cynulliad yn trafod ad-drefnu. Ceir dadleuon ar hyn o bryd ynglyn ag ail-sefydlu'r hen Gwynedd (heb Conwy); yr hen Ddyfed i gyd-fynd a rhanbarth Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda; gwasanaethau cymdeithasol i uno gyda iechyd; Ceredigion a Powys i uno; Conwy a Dinbych am uno; Nedd Port Talbot ac Abertawe am uno ac ati ac ati.

    I fod yn onest cynta'i gyd - gorau'i gyd. All cynghorau bychan fyth fod yn hyfyw yn y tymor hir.

    Nid os yw hi gan y bwcis, ond pryd? Tair blynedd?

  • 6. Am 16:59 ar 27 Ebrill 2009, ysgrifennodd Dan Y. Lach:

    Roedd yna elfen o rannu a rheoli hefyd yn ad-drefniant y 90au, allweithio o'r polisi yn yr 80au o falu'r Cynghorau Metropolitan yn Lloegr i leihau'r posibilrwydd o ganolbwynt amgen i rym WHitehall.

    Mae na synnwyr i drefnu cynghorau i wneud y gorau o arian Ewrop; ond mae na synnwyr hefyd i gael:

    - tri neu bedwar cyngor addysg yn unig; mi fyddai cael un bwrdd yn y gorllewin hefyd o fantais fel grym mwy nerthol tu cefn i addysg Gymraeg

    - oes angen mwy na dau gyngor priffyrdd, un i'r de, un i'r gogledd?

    Wrth feddwl am y peth, beth am adael y 22 yn eu lle fel petaent yn hen Gynghorau Dosbarth, a chael lond llaw o uber-gynghorau i drefnu'r hen bethau sirol - addysg, ffyrdd, gwasanaethau cymdeithasol? Dwi'n cofio gweithio mewn cyngor unedol bychan, ac roedd hi'n hollol hurt ein bod ni'n gyfrifol am y ffyrdd a'r ysgolion - dim ond tua dwsin o bobol oedd gyda ni.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.