Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'r chwarae'n troi'n chwerw...

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Beth wnawn ni o hyn, tybed? Mae Alun Davies wedi penderfynu ceisio am yr ymgeisyddiaeth Lafur ym Mlaenau Gwent yn hytrach nac amddiffyn ei sedd bresennol fel aelod rhestr yn y Gorllewin a'r Canolbarth.

Yn yr hinsawdd bresennol mae'n ymddangos yn benderfyniad rhyfedd. Does 'na ddim awgrym, hyd y gwelai i, na fyddai Llafur yn gosod Alun ar frig y rhestr yn ei ranbarth yn 2011. Gyda Llafur yn annhebyg o adennill etholaethau yn y rhanbarth hwnnw y tro nesaf gallai Alun fod yn ddigon hyderus o gadw ei le yn y cynulliad.

Ym Mlaenau Gwent fe fydd e'n wynebu Trish Law a'r peiriant annibynnol sydd wedi llwyddo i ennill y sedd cynulliad (dwywaith) a'r sedd seneddol (dwywaith) ac sydd wedi disodli Llafur ar y cyngor lleol. Mae Alun wedi dewis gweithio ar dalcen caled iawn felly ac o'r cychwyn mae e wedi penderfynu gwneud y frwydr yn un bersonol. Mae'n dweud hyn yn ei ddatganiad.

"The current incumbent does little or nothing to fight for Blaenau Gwent. Her contributions to the Assembly are woeful. She has let down the people of Blaenau Gwent and broken the promises she made. Enough is enough."

Dydw i ddim yn cofio un aelod cynulliad yn bod mor bersonol ynghylch un arall. Beth yw'r esboniad am y penderfynniad a'r geiriau cryfion? Casineb traddodiadol aelodau Llafur tuag at "fradwyr" sy'n gadael y blaid neu'r angen i rywun sydd wedi dod at Lafur o blaid arall i brofi ei deyrngarwch llwythol? Ychydig o'r ddau efallai.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:12 ar 28 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Neu efallai nad yw'n mwynhau ei swydd/ddim am fod yn AC mwyach a bod hwn yn 'get out clause' hawdd iawn yn hytrach na dweud ei fod yn rhoi'r gorau iddi, sef symud o sedd ddiogel i frwydro am sedd na fydd Llafur, fwy na thebyg, yn ei hennill?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.