Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Does un man yn debyg i gartref

Vaughan Roderick | 20:12, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Prif Weinidog Cymru yw'r unig un o brif-weinidogion y Deyrnas Unedig sydd heb breswylfa swyddogol neu o leiaf gobaith o gael un.

Mae gan Gordon Brown Downing Street a Chequers, wrth gwrs. Mae preswylfa swyddogol Prif Weinidog yr Alban, yn lle digon deche ac heb os fe fydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn etifeddu yn hwyr neu'n hwyrach.

Beth am ein Prif Weinidog ni? Fe fyddai yn addas oni bai am y lleoliad! Y gwir amdani yw bod ambell i was sifil wedi llygadu ar gyrion Caerdydd o bryd i gilydd ond mae'n gwleidyddion yn ddieithriad yn casau'r syniad. Gyda'r holl ffwdan am ail gartrefi fedrai ddim o'u beio nhw!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:17 ar 8 Ebrill 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Fe fues i fyny i Glenrothes yn ystod ymgyrch yr is-etholiad, yn dilyn rhai o ymgyrchwyr yr SNP ar gyfer Barn. Mi stopiodd 'na hen ddyn i siarad efo nhw, a'r unig beth oedd eisiau wybod oedd sut oedd Alex Salmond yn setlo yn Bute House - ac a oedd gan y lle wres canolog.

  • 2. Am 13:32 ar 8 Ebrill 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    O'n i'n meddwl am hyn diwrnod o'r blaen wrth weld arweinwyr gwledydd yr G20 yn cerdded y carped coch fyny at rhif 10 Downing Street.

    Oes angen preswylfa 'swyddogol' ar brif weinidog Cymru? Faint o ddefnydd fase fe'n cael heblaw ar adegau swyddogol? Rydyn ni'n gwybod nad yw pob prif weinidog y DU wedi mwynhau byw yn Stryd Downing a dim ond wedi gwneud hynny allan o draddodiad (a falle o safbwynt diogelwch).

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.