Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tai ar y tywod

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Iau, 16 Ebrill 2009

Rwy'n darllen agenda cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar hyn o bryd. Mae hwn yn wasanaeth cyhoeddus o bwys... darllen dogfenni diflas er mwyn i chi beidio gorfod gwneud!

Yn ôl yr arfer mae'r cynigion yn hir a manwl. Mae'r cynnig ar dai fforddiadwy, er emhraifft, yn cynnwys bron i wyth gant o eiriau. Mae hynny'n ddeuddeg gwaith cymaint â'r deg gorchymyn! Am wn i mae 'na ryw faint o chwyddiant geiriol yn digwydd fan hyn!

I fod yn deg wrth gwrs mae'n bosib bod y cynigion yn hir er mwyn gwneud safbwyntiau'r blaid yn gwbwl eglur. Digon teg.

Dyma i chi gymal saith yn ail ran y cynnig sy'n nodi "bod yr hawl i brynu wedi dod â buddion i lawer o deuluoedd yng Nghymru ac wedi caniatáu i bobl i gael mynediad i'r grisiau prynu tai na fuasent fel arall yn gallu gwneud hynny".

Gallwn gymryd felly bod y blaid yn cefnogi'r hawl.

Ond och! Beth yw hyn?

Mae cymal wyth yn nodi "bod yr hawl i brynu wedi difrodi stociau tai rhan fwyaf yr awdurdodau lleol ac nid yw wedi'i gydbwyso gan adeiladu o'r newydd na chaffael stoc".

Ydy'r blaid yn erbyn yr hawl i brynu felly?

Nawr mae'n ddigon posib i'r ddau osodiad bod yn gywir, wrth gwrs, ond pam rhestru pob un ddadl mewn cynnig? Malu awyr hunan-bwysig yw rhestru dadleuon fel hyn.

Mae cnawd y cynnig mewn deg o gymalau sy'n dilyn yr holl ragymadroddion diflas a dibwrpas. Beth yw'r polisi felly ynghylch yr hawl i brynu?

Ym.

Ar ôl rhestri'r dadleuon o blaid ac yn erbyn yr hawl i brynu tai cyhoeddus o'r stoc bresennol does dim un gair o bolisi. Dim. Un. Gair. Dim ond un cyfeiriad bach sy 'na at yr hawl o gwbwl sef hwn bod "tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd i'w diogelu rhag yr hawl i brynu am leiafswm sylweddol o amser".

O leiaf mae hynny'n eglur.

Och eto! Beth yw hyn yn rheolau sefydlog y blaid? "Mae'r holl fesurau a gwelliannau yn ymddangos yn y canllaw hwn yn Gymraeg a Saesneg. Am mai yn Saesneg yn wreiddiol y cyflwynwyd pob mesur a gwelliant, os oes anghysondeb rhwng yr ieithoedd, bydd y fersiwn Saesneg yn cymryd blaenoriaeth".

A beth mae'r fersiwn Saesneg o'r cymal uchod yn dweud?

"New build social housing to be protected from the Right to Buy for a minimum of substantial minimum period of time."

Wyth gant o eiriau felly ac ar eu diwedd dim byd o gwbwl ynghylch y stoc bresenol o dai a sbageti geiriol ynghylch tai newydd. Mae hwn yn mynd i fod yn benwythnos hir!

O.N. Mae 'na broblem wrth adael sylwadau ar hyn o bryd. Yn wahanol i rai dydw i ddim yn ei chael hi'n anodd i ddweud "sori"! Dwi'n ceisio ei datrys!

O.N.N Mae'r system sylwadau yn awr yn gweithio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:41 ar 16 Ebrill 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Mae'n amlwg bod y democratiaid Rhyddfrydol yn rhy brysur yn gwneud pethau pwysig i fecso am fanion fel cynadleddau. Eleanor Burnham ar Post Cynnar y bore ma yn gweud (ynglyn ag adroddiad i adeiladu morglawdd ar yr Hafren) eu bod yn ymdrin a pholisiau llawer mwy sylweddol na'r Blaid Lafur. Chwalwyd y geiriau ychydig gan chwerthyniad iach y cyflwynydd, a'u dinistrio'n llwyr wrth i Eleanor yntau ddechrau chwerthin ar ei geiriau ei hunan...

    Rhaid gofyn ydyn nhw o ddifri (neu'n seriws, chwedl EB) o gwbl!

  • 2. Am 08:12 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Doedd hi ddim hyd yn oed wedi fy nharo i nad oedd eu Cynhadledd nhw wedi bod eto!

  • 3. Am 12:36 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd Owain:

    FiDafydd:

    Tydi eu Cynhadledd HEB fod eto, dyna pham!

  • 4. Am 14:19 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd Un a fu gynt yn ryddfrydwr:

    Mae'n rhy gynnar i broffwydo tranc y Rhyddfrydwyr - o leiaf yma yng Ngeredigion. Mewn ras rhwng Mark Williams a Penri James dwi'n rhagweld y Rhydfrydwr yn mynd a hi. Er efallai nad yw Mark wedi gwneud ei 'farc' yn San Steffan mae e'n llwyddo i gael marc da yng Ngheredigion - tua 8 allan o 10 wedwn i!

    Er ei holl ymdrechion mae ei ddyfodol yn nwylo'r Ceidwadwyr. Os fydd gan y Toriaid ymgeisydd credadwy ac un sy'n barod i ymgyrchu drwy'r sir yna mi wneith e', neu hi, fwrw twll mawr yn y bleidlais Ryddfrydol. Penri James AS fydd hi wedyn - ac nid drwg o beth fyddai hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.