Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pla

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Gwener, 3 Ebrill 2009

Mae'r pethau firol yma'n bridio fel... um... firws. Mae'n siŵr eich bod wedi gweld y yma erbyn hyn. Dyma ymdrech diweddara'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Hwn yw'r enghraifft gyntaf yng Nghymru i mi weld o arfer sy'n gyffredin iawn yn America sef ffilmio'ch gwrthwynebwyr gwleidyddol er mwyn defnyddio'u geiriau eu hun yn eu herbyn. Dyma enghraifft enwog o'r UDA. Yn 2006 y Seneddwr George Allen oedd y ceffyl blaen i ennill enwebiad y Gweriniaethwyr ar gyfer yr arlywyddiaeth. Cafodd ei ffilmio wrth ymgyrchu yn ei dalaith ei hun, Virginia.

Y broblem? Roedd y Democrat oedd yn ffilmio Allen o dras Indiaidd ac mae "macaca" yn fath o fwnci ac yn air sy'n cael ei defnyddio fel sen hiliol yn Ffrangeg- iaith y mae Mr Allen yn gyfarwydd â hi. Y canlyniad? Diwedd gyrfa wleidyddol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:42 ar 3 Ebrill 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Chwarae teg, dyna fideo effeithiol iawn, dim gimics (un i Lib Dems, nid y Gweriniaethwr!), ac sy'n gallu codi cywilydd ar wleidyddion sy'n dweud un peth a gwneud fel arall.

  • 2. Am 20:23 ar 4 Ebrill 2009, ysgrifennodd Owain :

    Mae angen dangos i bobl ma mor ragrithiol yw Plaid Cymru a Llafur!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.