麻豆社

Nia Efans

Ennill Tlws John a Ceridwen Hughes

Nia Wyn Efans o'r Talwrn, Ynys M么n yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni.

Cyflwynwyd y tlws iddi ar lwyfan yr Eisteddfod neithiwr, nos Iau.

Tlws yw hwn sy'n cael ei gyflwyno bob blwyddyn i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru.

"Mae Nia yn 26 oed ac yn flaenllaw iawn yng ngweithgareddau'r Urdd ar Ynys M么n.
Mae hi'n aelod allweddol o'r Pwyllgor Rhanbarth a'r Panel Eisteddfod, yn aelod o Fwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau ac o Gyngor yr Urdd," meddai datganiad gan yr Urdd yn cyhoeddi ei henw.

"Mae hi'n chwarae r么l bwysig yn holl weithgareddau'r mudiad ar yr ynys, o gelf a chrefft i gystadlaethau nofio, o wasanaethau carolau i wirfoddoli ar deithiau'r rhanbarth."

Yn hyfforddwraig gerdd brofiadol Nia oedd un o sylfaenwyr Aelwyd yr Ynys ar gyfer ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 芒 M么n bedair blynedd yn 么l ac ers hynny aeth yr aelwyd o nerth i nerth gyda llwyddiant yn yr 糯yl Gerdd Dant a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae Nia hefyd yn hyfforddi Clwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd ac yn eistedd ar Lys Eisteddfod M么n ac yn aelod o'r Pwyllgor Cerdd.

Meddai Elen Jones, Trefnydd Sirol Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys M么n:
"Mae Nia yn aelod gwerthfawr iawn o Ffermwyr Ifanc M么n, gyda dylanwad mawr ar weithgareddau perfformio, a hi hefyd oedd Cadeirydd Hyfforddiant y Sir yn 2004."

Noddir Tlws John a Ceridwen Hughes yn flynyddol gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu diweddar rieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr.

Bu'r ddau yn cyfrannu'n helaeth at weithgaredd plant a phobl ifanc drwy'r Urdd, MENCAP a mudiadau ieuenctid eraill.

Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg - gwaith wyneb yn wyneb 芒 phobl ifanc dros 11 oed tu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.


麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.