Â鶹Éç

Llywydd y dydd

Lowri Hughes - llywyddu beirniadu a chyfarwyddo

Cafodd Lowri Hughes ei geni a'i magu yn Abergele. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Uwchradd y Creuddyn cyn treulio tair blynedd yn Adran Astudiaethau Theatr Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Wedi graddio, ymgartrefodd ym Mangor. Fe'i penodwyd yn diwtor Drama yn Ysgol Glanaethwy yn 2000 a chyn diwedd y flwyddyn ymunodd â thîm sgriptio Rownd a Rownd lle mae'n dal i weithio.

Ers yn ifanc bu i'r Urdd ran ganolog yn ei bywyd a hithau am flynyddoedd yn aelod brwd o Aelwyd Abergele lle cymerodd ran mewn sawl cynhyrchiad theatr.

Pan yn astudio yn Aberystwyth byddai'n dychwelyd adref yn unswydd i gynnal cyrsiau a gweithdai drama yn enw'r Urdd yng Nghonwy ac yn Ninbych.

''Mae'r Urdd yn fudiad unigryw yn y modd y mae'n cynnig amrediad mor eang o gyfleoedd i blant a phobl ifanc.

"Fel un oedd yn mwynhau cystadlu ar lwyfan, ysgrifennu'n greadigol yn ogystal â chwaraeon o bob math cynigai'r Urdd fyrdd o weithgareddau oedd yn rhan cwbl allweddol o fy mhlentyndod hyd y dydd trist hwnnw y deuthum yn rhy hen i fod yn aelod,'' meddai.

Bu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2002 ac yn Eisteddfod Conwy hi sy'n beirniadu'r Fedal Ddrama ac yn cyfarwyddo'r Sioe Uwchradd, Hedfan.

''Fel un sydd wrth fy modd yn gwylio'r cystadlu rwy'n cael fy syfrdanu'n gyson gan safon a thalent pobl ifanc Cymru ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at gael gweld pwy fydd yn serennu yng Nghonwy eleni," meddai.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.