Â鶹Éç

Lowri Hughes

Amddiffyn beirniaid ifanc

Mae llywydd y dydd yn yr Eisteddfod wedi amddiffyn beirniaid yr Eisteddfod yn dilyn beirniadaeth eu bod yn rhy ifanc ac yn ddibrofiad.

Awgrymodd Lowri Hughes sy'n diwtor drama gydag Ysgol Glanaethwy y gallai beirniaid ifanc fod mewn mwy o gytgord â chystadleuawyr gan eu bod yn nes atynt o ran oedran.

Dywedodd wrth ein gohebydd ei bod yn cydnabod fod profiad yn werthfawr mewn beirniaid ond ychwanegodd:

"Sut mae person ifanc i ennill y profiad hwnnw os nad yw'n cael y cyfle i feirniadu?"

Ychwanegodd bod hwn yn rhywbeth y gallai'r Urdd edrych arno ac efallai roi rhai ifanc i gydweithio â rhai mwy profiadol a sicrhau fod profiad yn cael ei ennill trwy hyfforddiant.

Ychwanegodd mai un o fanteision posibl cael beirniaid ifanc fyddai eu bod yn cymryd golwg wahanol, fwy cyfoes, ar bethau.

Rhagor am Lowri Hughes


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.