Â鶹Éç

Geraint a Hywel

Yr Urdd ym Mhatagonia

Taith arbennig i un ar hugain

Mae aelodau o'r Urdd yn paratoi ar gyfer taith gyntaf y mudiad i Batagonia.

Taith gyfnewid ddiwylliannol fydd un Hywel Roberts a Geraint Scott - y ddau o Gaerdydd - a 21 o bobl ifainc eraill.

Mae'r daith yn dilyn yn dilyn penodi dau swyddog i weithio ar ran Menter Iaith Patagonia, James Williams a Dyfed Siôn.

Yn ystod yr ymweliad deng niwrnod bydd aelodau'r Urdd yn ymweld ag ysgolion a chymunedauac yn cyflwyno noson o adloniant.

Yn ymuno â Hywel a Geraint i arwain y daith bydd Eleri Mai Thomas o Benfro.

Pobl ifanc sy'n mynychu Ysgolion Uwchradd Preseli, Maes yr Yrfa, Gwyr, Rhydywaun, Rhydfelen, Cwm Rhymni a Phlasmawr fydd y 21.

Meddai Hywel: "Ry'n ni'n gobeithio y bydd y bobl ifanc yn cael profiadau fydd yn aros gyda nhw am byth. Wrth i'r byd leihau gyda chymorth dulliau electronig o gyfathrebu, fe fydd y bobl ifanc yn gallu creu eu cysylltiadau eu hunain â phobl ifanc Patagonia."

Ac meddai Geraint Scott: "Fe fydd yn brofiad anhygoel i bawb ar y daith - yn bobl ifanc ac yn oedolion."


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.