Ddydd Mawrth, mae'r ŵyl yn parhau gyda chystadlu i ddisgyblion cynradd yn y bore, gan arwain at brif seremoni'r dydd, Defod Medal y Dysgwyr am 14.30.
Rhaid i'r buddugol ysgrifennu mewn tair ffurf lenyddol yn ogystal â chyflwyno tâp o sgwrs naturiol yn sôn amdanyn nhw ei hunain.
Meistr y Ddefod yw Carys Lake a Shirley Williams a Non ap Emlyn yw'r beirniaid.
Enillydd y llynedd oedd , disgybl o Ysgol Uwchradd Caerdydd.
Nos Fawrth, a nos Fercher, am 8pm bydd y Pafiliwn yn agor i gyflwyno'r Sioe Gynradd, ar Gof a Chadw.
Mae'r sioe yn gyfle i weld hanes ardal Eryri ar ei newydd wedd drwy lygaid dros 300 o blant cynradd yr ardal.